Neuadd Goffa Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|de|400px|Llun:David Medcalf Codwyd '''Neuadd Goffa Pen-y-groes''' yn ystod y 1920a...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:36, 9 Hydref 2023

Llun:David Medcalf

Codwyd Neuadd Goffa Pen-y-groes yn ystod y 1920au ar safle'r hen Neuadd y Farchnad. Mae'r adeilad yn wynebu safle Gorsaf reilffordd Pen-y-groes yn hytrach na bod yn amlwg o ganol y pentref. Mae elfennau (digon amrwd) o arddull y cyfnod, yn arbennig lle mae'r arysgrif uwchben y prif fynediad yn y cwestiwn.

Y tu allan, ar ganol Sgwar y Farchnad, y mae cofeb rhyfel y pentref gydag englyn enwog R. Williams Parry arni.

Cafwyd grantiau loteri ar ddechrau'r 2010au, a defnyddir y neuadd a'i dwy brif ystafell, parlwr a chegin ar gyfer sawl weithgaredd hyd heddiw, gan gynnwys Sioe Arddio, ffeiriau, prydau cymunedol, dosbarthiadau a darlithoedd.