Y Brodyr Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 19 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion poblogaidd oedd Griffith ac Owen Francis ('''Y Brodyr Francis''').  
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis ('''Y Brodyr Francis''').  


Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth trwy weithio yn y chwarel. Roedd Griffith (1876-1939) yn barddoni, a chyhoeddodd ''Telyn Eryri'', sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Bu Owen (1879-1939) yn ysgrifennu caneuon, a chyhoeddwyd llawer o waith y ddau frawd ym mhapur newydd ''Y Genedl Gymreig''. Roedd y ddau yn perfformio mewn nifer o gyngherddau Cymreig yn ystod eu gyrfaoedd, yn aml iawn gyda’u gilydd. Bu'r ddau farw yn 1939; Owen ar 6ed Ebrill 1939, a Griffith ar 13 Mehefin 1939.  
Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad, a hanai'n wreiddiol o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]] yn swyddog yn chwarel y Moelfre, Cwm Pennant ac yn gerddor da. Roedd eu mam - [[Mary Owen (Mair Alaw)|Mair Alaw]] - yn gantores o [[Nantlle]]. Bu farw'r ddau riant yn ifanc, a mudodd y teulu bach oddi yno i'r Clogwyn Brwnt , [[Drws-y-coed]] at eu taid, yna i'r [[Gelli-ffrydiau]] ac wedyn i bentref Nantlle.  Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn Chwarel Glan'rafon, [[Rhyd-ddu]], cyn symud i [[Chwarel Pen-yr-orsedd]].. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn.  Fe wnaethant wrthod cytundeb gyda chwmni recordiau HMV yn y 1920au, gan nad oedd y cwmni'n fodlon derbyn cyfeilydd arferol y ddeuawd, sef Bob Owen, gan fynnu bod y brodyr yn canu i gyfeiliant telyn. Oherwydd hyn, nid oes recordiad ohonynt yn bodoli. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ar 4 Mawrth 1927, i ddathlu Gŵyl Ddewi. Darlledwyd y rhaglen gan wasanaeth radio cenedlaethol Iwerddon, Raidió Éireann, a oedd ond wedi ei sefydlu ddwy flynedd ynghynt ym 1925. Ymateb oedd hyn i brinder rhaglenni Cymraeg o unrhyw fath ar wasanaeth y BBC ac roedd elfen wleidyddol i'r gweithgaredd. Y Brodyr Francis oedd sêr y cyngerdd cyntaf, a daeth y cyngherddau hyn o Ddulyn yn achlysur misol am gyfnod, ar nos Wener gyntaf y mis.<ref>Robert Wyn, "Y Brodyr Francis", ''Lleu'' 540 (Mai 2022), t.20</ref>
 
Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1936) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith ''Telyn Eryri'' gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1936) oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.
 
Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936, (fe'i claddwyd ym mynwent [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]]) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym [[Mynwent Macpela]], [[Pen-y-groes]]).<ref>''Y Casglwr'', [http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2073/73%2009.pdf ''Y Casglwr''; rhan 1] a [http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2073/73%2011.pdf ''Y Casglwr''; rhan 2]; ''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-FRAN-GRI-1876.html Llyfrgell Genedlaethol Cymru]</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2073/73%2009.pdf
http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2073/73%2011.pdf
http://yba.llgc.org.uk/cy/c-FRAN-GRI-1876.html


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Cerddorion]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Chwarelwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:00, 6 Hydref 2023

Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis (Y Brodyr Francis).

Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad, a hanai'n wreiddiol o Dal-y-sarn yn swyddog yn chwarel y Moelfre, Cwm Pennant ac yn gerddor da. Roedd eu mam - Mair Alaw - yn gantores o Nantlle. Bu farw'r ddau riant yn ifanc, a mudodd y teulu bach oddi yno i'r Clogwyn Brwnt , Drws-y-coed at eu taid, yna i'r Gelli-ffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn Chwarel Glan'rafon, Rhyd-ddu, cyn symud i Chwarel Pen-yr-orsedd.. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn. Fe wnaethant wrthod cytundeb gyda chwmni recordiau HMV yn y 1920au, gan nad oedd y cwmni'n fodlon derbyn cyfeilydd arferol y ddeuawd, sef Bob Owen, gan fynnu bod y brodyr yn canu i gyfeiliant telyn. Oherwydd hyn, nid oes recordiad ohonynt yn bodoli. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ar 4 Mawrth 1927, i ddathlu Gŵyl Ddewi. Darlledwyd y rhaglen gan wasanaeth radio cenedlaethol Iwerddon, Raidió Éireann, a oedd ond wedi ei sefydlu ddwy flynedd ynghynt ym 1925. Ymateb oedd hyn i brinder rhaglenni Cymraeg o unrhyw fath ar wasanaeth y BBC ac roedd elfen wleidyddol i'r gweithgaredd. Y Brodyr Francis oedd sêr y cyngerdd cyntaf, a daeth y cyngherddau hyn o Ddulyn yn achlysur misol am gyfnod, ar nos Wener gyntaf y mis.[1]

Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1936) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith Telyn Eryri gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1936) oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.

Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936, (fe'i claddwyd ym mynwent Capel Salem (MC), Llanllyfni) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes).[2]

Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn, "Y Brodyr Francis", Lleu 540 (Mai 2022), t.20
  2. Y Casglwr, Y Casglwr; rhan 1 a Y Casglwr; rhan 2; Y Bywgraffiadur Ar-lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru