Elusen Dr Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cafodd '''Elusen Dr Lewis''' ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llun...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:47, 19 Medi 2023

Cafodd Elusen Dr Lewis ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llundain. Nid yw'n glir o'i ewyllys o ba le yng Ngogledd Cymru yr hanodd, ond mae cliw, efallai, yn y ffaith mai un o ddarpariaethau gwreiddiol ei ewyllys oedd talu am bregethau blynyddol yn eglwysi Llangristiolus a Cherrig Ceinwen yn Ynys Môn. £3000 oedd y gwaddoliad gwreiddiol. Roedd hynny'n swm anferthol y pryd hynny, yn arbennig felly gan fod nifer o gymunroddion hael i neiaint a nithoedd Dr Lewis yn yr ewyllys hefyd, a'r ffaith fod y £3000 i'w talu mewn arian o fewn tri mis i'w farwolaeth. Enwyd nifer o brif dirfeddianwyr Môn ynghyd ag Esgobion Bangor, Llanelwy a Rochester fel ymddiriedolwyr. Prif ddibenion yr elusen oedd talu am gynhaliaeth, addysg a phrentisio ar gyfer dau fachgen dlawd o Gerrig Ceinwen; talu am ysgoloriaeth i bedwar bachgen tlawd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt a phedwar yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (gyda'r flaenoriaeth i gael ei roi i fyfyrwyr o Fôn ac wedyn i rai o Ogledd Cymru); a thalu blwydd-dal i chwe gweddw gweinidog tlawd. Rioedds yr arian i gael ei ddefnyddio i brynu eiddo a fyddai'n cynhyrchu incwm blynyddol.[1]

Sefydlwyd yr elusen, ac yn groes i'r rhan fwyaf o elusennau a sefydlwyd ers canrifoedd, mae'n parhau mewn bodolaeth, er bod yr incwm erbyn hyn ond ychydig o gannoedd y flwyddyn. Mae hysbyseb gan glerc yr elusen, John Thomas, Stryd y Farchnad, Caernarfon, yn y North Wales Chronicle[2] yn gofyn am geisiadau gan ddynion ifanc sydd am fynd yn brentis. Ar yr un dudalen, nodir bod pwyllgor yr elusen ar gyfer gweddwon a phlant amddifaid clerigwyr am gyfarfod, a bron yn sicr, sôn am pwyllgor yr ymddiriedolwyr sydd yma. Erbyn heddiw, Esgob Bangor yw'r unig ymddiriedolwr.

Mae sôn am yr elusen yn berthnasol i Uwchgwyrfai gan fod yr ymddirioedolwyr wedi prynu eiddo mhlwyf Llanaelhaearn er mwyn buddsoddi peth o'r arian. Erbyn adeg y degwm tua 1840, roedd ffermydd Cwm Ceiliog, Ynys Goch, Cefn Bronmiod, Tyddyn Coch, Terfyn, Tŷ'n y Graig, Tyddyn y felin, a Thyddyn yr Eglwys,,yn eiddo i'r elusen, a dichon mai'r ystad gyfan a brynwyd tua 1683.[3]

Cyfeiriadau

  1. Yr Archifdy Gwladol, PROB 11/372/324
  2. North Wales Chronicle, 31.7.1869, t.1
  3. LlGC, Dogfen Pennu'r Degwm ar gyer plwyf Llanaelhaearn