Gwaith llechi Dorothea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Safai '''Gwaith llechi Dorothea''' ar lan Afon Llyfni, hanner ffordd rhwng Pen-y-groes a Llanllyfni, ger Pont Ffatri. Rhannai'r un ffrwd f...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:34, 18 Medi 2023

Safai Gwaith llechi Dorothea ar lan Afon Llyfni, hanner ffordd rhwng Pen-y-groes a Llanllyfni, ger Pont Ffatri. Rhannai'r un ffrwd felin â Ffatri wlân Bryn. Mae'r aadeilad yn dal i sefyll er iddo gael ei ailadeiladu'n sylweddol. Yr oedd y gwaith llechi yn Nhŷ Gwyn (fel y gelwid yr adeilad i ddechrau) yn cynhyrchu llechi â fframiau pren arnynt ar gyfer ysgolion. Cynhyrchid cerrig nadd yno yn ogystal ac yn y dyddiau gynt yr oedd yn ganolfan cynhyrchu eirch. Yn ystod y 1860au symudwyd y gwaith i Ffatri Grafog (neu [Gwaith llechi Inigo Jones]] wrth ochr y rheilffordd a oedd newydd ei hagor.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan nantlle.com [1], cyrchwyd 19.9.2023