Cwmni Sain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cwmni Sain''' yn gwmni sydd yn gweithio ym myd y cyfryngau (ac efo cerddoriaeth yn bennaf) ers hanner canrif. Mae'r cwmni â'i bencadlys ger Llan...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 6 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cwmni Sain''' yn gwmni sydd yn gweithio ym myd y cyfryngau (ac efo cerddoriaeth yn bennaf) ers hanner canrif. Mae'r cwmni â'i bencadlys ger [[Llandwrog]], gyferbyn â fferm Chatham.
Mae '''Cwmni Sain''' yn gwmni sydd yn gweithio ym myd y cyfryngau (ac efo cerddoriaeth yn bennaf) ers hanner canrif. Mae'r cwmni â'i bencadlys ger [[Llandwrog]], gyferbyn â fferm [[Chatham]].

Sefydlwyd SAIN yng Nghaerdydd gan DAFYDD IWAN, HUW JONES, a BRIAN MORGAN EDWARDS, a chyhoeddwyd ei record gyntaf ar Hydref 9fed, 1969.
==Dechreuadau'r Cwmni==
Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd gan Dafydd Iwan, [[Huw Jones, Cwmni Sain|Huw Jones]], a Brian Morgan Edwards, a chyhoeddwyd ei record gyntaf ar Hydref 9fed, 1969.

Symudwyd swyddfa’r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, yn 1971 er mwyn i’r cwmni fod yn nes i’r gynulleidfa Gymraeg, ac fel rhan o’r symudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau Gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a setlodd y naill yn Llandwrog a’r llall yn y Waunfawr.
Symudwyd swyddfa’r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, ym 1971 er mwyn i’r cwmni fod yn nes i’r gynulleidfa Gymraeg, ac fel rhan o’r symudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau Gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a setlodd y naill yn Llandwrog a’r llall yn y Waunfawr.

Yn 1973 symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol. Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch am y tair blynedd gyntaf, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir hefyd. O ran y deunydd, roedd y pwyslais yn bennaf i ddechrau ar ganu’r ifanc, ac yn arbennig y canu “protest”.

GWERNAFALAU

Yn 1975 agorwyd Stiwdio gyntaf SAIN ar fferm GWERNAFALAU ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â‘r staff fel cynhyrchydd.
==Gwernafalau==

1975 – 1979 oedd “oes aur ” Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o’r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, roedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel EDWARD H. DAFIS wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu “diwylliant roc” eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod ar label SAIN oedd HERGEST a DELWYN SIÔN, GERAINT JARMAN, HEATHER JONES, MEIC STEVENS, TECWYN IFAN, MYNEDIAD AM DDIM, TEBOT PIWS, ENDAF EMLYN, BRÂN, SHWN, AC ERAILL a SIDAN.
Yn 1975 agorwyd Stiwdio gyntaf Sain ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â‘r staff fel cynhyrchydd.

Roedd DAFYDD IWAN yn parhau i brocio a diddanu’r tyrfaoedd gyda’i ganeuon personol gwleidyddol, a SAIN yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â‘r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 60au. Roedd nifer o artistiaid SAIN yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Gymreig, ac hefyd yn flaenllaw yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg.
1975 – 1979 oedd “oes aur ” Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o’r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, roedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru. Artistiaid amlwg y cyfnod ar label Sain oedd Hergest a Delwyn Siôn, Geraint Jarman, Heather Jones, Meis Stevens, Tecwyn Ifan, Mynediad am Ddim, Tebot Piws, Endaf Emlyn, Brân, Shwn, Ac Eraill a Sidan.  

TREBOR EDWARDS a HOGIA’R WYDDFA oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu “canol-y-ffordd”, yn ogystal â grwpiau eraill fel HOGIA LLANDEGAI a TONY AC ALOMA. Os mai’r artistiaid a enwyd uchod oedd yn torri tir newydd, gwerthiant recordiau’r artistiaid hyn, a recordiau CORAU MEIBION, oedd prif ffynhonell ariannol y cwmni yn y cyfnod hwn. Cantorion eraill sydd wedi ennill clust y werin a tharo’r uchelfannau o safbwynt gwerthiant i gwmni SAIN yw TIMOTHY EVANS, JOHN AC ALUN, BRYN FÔN, AR LOG, PLETHYN a DAFYDD IWAN. Mae elfen gref o’r Canu Gwlad hefyd wedi bod yn gyson boblogaidd yang Nghymru, gydag enwau fel DOREEN LEWIS, IONA AC ANDY, DYLAN A NEIL, BROC MÔR, a BRENDA EDWARDS yn sefyll allan, a llu o grwpiau gwerin cyfoes o safon megis 4 YN Y BAR, GWERINOS, ABERJABER, JAC-Y-DO, PIGYN CLUST ac IGAM OGAM.
Roedd Dafydd Iwan yn parhau i brocio a diddanu’r tyrfaoedd gyda’i ganeuon personol gwleidyddol, a Sain yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â‘r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 60au. Roedd nifer o artistiaid Sain yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Gymreig, ac hefyd yn flaenllaw yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae CASGLIADAU bob amser yn elfen bwysig o werthiant unrhyw gwmni recordiau, ac nid yw SAIN yn eithriad. Mae casgliadau SWFENÎR, casgliadau gwerin a chlasurol, goreuon artistiaid unigol, ac yn arbennig casgliadau CORAU MEIBION ymhlith y recordiau a werthodd fwyaf erioed, ac yn cymharu’n dda gyda gwerthiant albyms Saesneg.
STIWDIO NEWYDD

Agorwyd Stiwdio newydd SAIN gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn 1980. Ar y pryd, roedd hi gyda’r mwyaf modern o’i bath yn Ewrop, ac roedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i’r un safle â‘r Stiwdio yn 1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio yn amser llawn i’r cwmni.
Trebor Edwards a Hogia'r Wyddfa oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu “canol-y-ffordd”. Os mai’r artistiaid a enwyd uchod oedd yn torri tir newydd, gwerthiant recordiau’r artistiaid hyn, a recordiau Corau Meibion, oedd prif ffynhonell ariannol y cwmni yn y cyfnod hwn. Cantorion eraill sydd wedi ennill clust y werin a tharo’r uchelfannau o safbwynt gwerthiant i gwmni Sain yw Timothy Evans, John ac Alun, [[Bryn Fôn]], Ar Log, Plethyn a Dafydd Iwan. Mae elfen gref o’r Canu Gwlad hefyd wedi bod yn gyson boblogaidd yang Nghymru, gydag enwau fel Doreen Lewis, Iona ac Andy, Dylan a Neil,  Broc Môr, a Brenda Edwards yn sefyll allan, a llu o grwpiau gwerin cyfoes o safon megis 4 yn y Bar, Gwerinos a grŵp [[Pigyn Clust]]. Mae casgliadau bob amser yn elfen bwysig o werthiant unrhyw gwmni recordiau, ac nid yw Sain yn eithriad. Mae casgliadau swfenîr, casgliadau gwerin a chlasurol, goreuon artistiaid unigol, ac yn arbennig casgliadau corau meibion ymhlith y recordiau a werthodd fwyaf erioed, ac yn cymharu’n dda gyda gwerthiant albyms Saesneg.

Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu’r stiwdio newydd, a bu’n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu , er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN fel yr oedd amser yn caniatau.
==Stiwdio newydd==

Cymerwyd lle HEFIN ELIS fel cynhyrchydd staff gan GARETH HUGHES JONES, ac yna gan EMYR RHYS. Cynhyrchwyr eraill a fu’n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw TUDUR MORGAN, LES MORRISON, SIMON TASSANO, DONAL LUNNY, EUROS RHYS, STEFFAN REES, GARETH GLYN, GERAINT CYNAN, MYFYR ISAAC, ANNETTE BRYN PARRI, a’r diweddar GARETH MITFORD WILLIAMS.
Agorwyd Stiwdio newydd Sain gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn 1980. Ar y pryd, roedd hi gyda’r mwyaf modern o’i bath yn Ewrop, ac roedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i’r un safle â‘r Stiwdio yn 1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio yn amser llawn i’r cwmni.
O’R FEINYL I’R CD A’R DVD

Recordiau hir (LP) a chasetiau oedd prif gynnyrch SAIN trwy gydol y 70au a’r 80au, ond yna’n raddol collodd y feinyl ei le i’r Cryno-Ddisg. Bu’r CD a’r caset yn cyd-fyw am flynyddoedd, ond gyda throad y ganrif, dechreuodd y caset hefyd ddiflannu, ac erbyn hyn, y CD a’r DVD yw’r ddau brif fformat.
Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu’r stiwdio newydd, a bu’n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu, er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i Sain fel yr oedd amser yn caniatau.

Yn 1987, agorwyd STIWDIO 2 yng Nghanolfan SAIN, sydd bellach â‘r gallu i olygu’n ddigidol, ac erbyn hyn mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno, wrth i SAIN ddatblygu cysylltiadau cryfach â‘r byd ffilm a theledu.

Ar ddechrau’r 90au, bu dau ddatblygiad pwysig yn hanes SAIN:
==O'r feinyl i Grynoddisg a DVD==
1. sefydlu label CRAI, yn bennaf ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc, miwsig dawns a chyfrifiadurol. Ar y label hon yr ymddangosodd CATATONIA a BOB DELYN gyntaf, yn ogystal â MIKE PETERS a’r ALARM. Bu Rhys Mwyn yn rhedeg label Crai am rai blynyddoedd cyn mynd i weithio ar ei liwt ei hun.
2. Sefydlu FIDEO SAIN oedd yr ail, o dan ofal O.P.Huws. Bu SAIN yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au, ond bellach ychwanegwyd fideos gwreiddiol gan SAIN. Yn Stiwdios Sain y dechreuodd Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen siarad Cymraeg ar fideo a DVD.

Erbyn hyn, gyda’r dechnoleg yn datblygu’n gyflym, mae dau o beirianwyr SAIN, Deian a Clinton, wedi sefydlu cwmni annibynnol OMA yng Nghanolfan Sain sy’n gallu awduro, dybio, golygu a dyblygu ar gyfer DVDau yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n cynhyrchu ar gyfer SAIN ei hun, ac ar gyfer cynhyrchwyr allanol.
Recordiau hir (LP) a chasetiau oedd prif gynnyrch Sain trwy gydol y 70au a’r 80au, ond yna’n raddol collodd y feinyl ei le i’r Cryno-Ddisg. Bu’r CD a’r casét yn cyd-fyw am flynyddoedd, ond gyda throad y ganrif, dechreuodd y casét hefyd ddiflannu, ac erbyn hyn, y CD a’r DVD yw’r ddau brif fformat.
CLASUROL

BRYN TERFEL yw artist amlycaf adran glasurol SAIN, ac ar y label hon y cyhoeddodd ei ddwy albym gyntaf erioed, gan ychwanegu dwy arall ers hynny (sef gwaith Schubert “Schwanengesang”, a chaneuon Meirion Williams), ac albym enwog “Benedictus” gyda Rhys Meirion. Ymhlith y cantoresau clasurol mae ELIN MANAHAN THOMAS, REBECCA EVANS, GWAWR EDWARDS a SHÂN COTHI, ac ymhlith rhestr hir o ddynion mae RHYS MEIRION, GWYN HUGHES-JONES, ELGAN LLŶR THOMAS, STUART BURROWS ac ALED WYN DAVIES.
Yn 1987, agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan Sain, sydd bellach â‘r gallu i olygu’n ddigidol, ac erbyn hyn mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno, wrth i Sain ddatblygu cysylltiadau cryfach â‘r byd ffilm a theledu.

Mae catalog SAIN hefyd yn cynnwys rhai o gewri clasurol y gorffennol, megis DAVID LLOYD a LEILA MEGANE, a’r ffefrynnau cyfoes TRI TENOR CYMRU (ALED HALL, RHYS MEIRION ac ALUN RHYS JENKINS). SAIN oedd yn gyfrifol am ddod a’r ALED JONES ifanc i sylw’r byd, ac y mae ei draciau gorau ar gael o hyd ar ddwy CD.
Ar ddechrau’r 90au, bu dau ddatblygiad pwysig yn hanes Sain:
1. sefydlu label CRAI, yn bennaf ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc, miwsig dawns a chyfrifiadurol. Ar y label hon yr ymddangosodd Catatonia a Bob Delyn gyntaf, yn ogystal â Mike Peters a’r Alarm. Bu Rhys Mwyn yn rhedeg label Crai am rai blynyddoedd cyn mynd i weithio ar ei liwt ei hun.
2. Sefydlu Fideo Sain oedd yr ail, o dan ofal [[O.P. Huws]]. Bu Sain yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au, ond bellach ychwanegwyd fideos gwreiddiol. Yn Stiwdios Sain y dechreuodd Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen siarad Cymraeg ar fideo a DVD.

Y DELYN yw offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae gan SAIN ddewis helaeth o gerddoriaeth telyn yn ein catalog. Mae nifer o brif delynorion y wlad wedi recordio i SAIN, ar y delyn bedal glasurol, y delyn Geltaidd fechan, ac ar y Delyn Deires draddodiadol. Yn eu plith mae CATRIN FINCH, GWENAN GIBBARD, OSIAN ELLIS, ELINOR BENNETT, MEINIR HEULYN, ROBIN HUW BOWEN, NANSI RICHARDS, DYLAN CERNYW, DAFYDD HUW, a DELYTH JENKINS.
Erbyn hyn, gyda’r dechnoleg yn datblygu’n gyflym, mae dau o beirianwyr Sain, Deian a Clinton, wedi sefydlu cwmni annibynnol OMA yng Nghanolfan Sain sy’n gallu awduro, dybio, golygu a dyblygu ar gyfer DVDau yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n cynhyrchu ar gyfer SAIN ei hun, ac ar gyfer cynhyrchwyr allanol.

Mae CORAU Cymru yn parhau i fod ymhlith goreuon y byd, a bellach mae’r CORAU MEIBION yn cystadlu gyda llu o GORAU MERCHED a CHORAU CYMYSG ifanc ardderchog. Mae bron pob un o gorau enwog Cymru ar label SAIN, ac yn gynnar yn 2014 byddwn yn ychwanegu CÔR Y WIBER at y rhain, y côr ifanc talentog a sgubodd bopeth o’u blaen yn 2013, gan gynnwys Côr Cymru S4C. Mae ein catalog yn cynnwys nifer fawr o gasgliadau corawl, a nifer o recordiadau o gorau cyfansawdd yng Ngwyliau’r Albert Hall, ar CD a DVD.
==Clasurol==
AML-GYFRYNGOL a’r WÊ

Yn 1997, ail-strwythurwyd y cwmni, a gosod system gyfrifiadurol newydd i reoli holl waith a stoc y cwmni, ac aeth y cwmni ar y We Fyd-eang. Bellach, mae gwerthu drwy’r Wê a thros y rhyngrwyd ac ar wefannau fel iTunes yn rhan bwysig o’i weithgarwch. Ehangodd nifer y dosbarthwyr rhyngwladol trwy i Sain fynychu ffeiriau masnach ar gyfer cerddoriaeth y byd, yn arbennig WOMEX a MIDEM.
[[Bryn Terfel]] yw artist amlycaf adran glasurol Sain, ac ar y label hon y cyhoeddodd ei ddwy albym gyntaf erioed, gan ychwanegu dwy arall ers hynny (sef gwaith Schubert “Schwanengesang”, a chaneuon Meirion Williams), ac albym enwog “Benedictus” gyda Rhys Meirion. Ymhlith y cantoresau clasurol mae Elin Manahan Thomas, Rebecca Eyans, Gwawr Edwards a Shân Cothi, ac ymhlith rhestr hir o ddynion mae Rhys Meirion a Stuart Burrows.
 
Mae catalog Sain hefyd yn cynnwys rhai o gewri clasurol y gorffennol, megis David Lloyd a Leila Megane.  Sain oedd yn gyfrifol am ddod â’r Aled Jones ifanc i sylw’r byd, ac y mae ei draciau gorau ar gael o hyd ar ddwy CD.
 
Y delyn yw offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae gan Sain ddewis helaeth o gerddoriaeth telyn yn ein catalog. Mae nifer o brif delynorion y wlad wedi recordio i Sain, ar y delyn bedal glasurol, y delyn Geltaidd fechan, ac ar y Delyn Deires draddodiadol. Yn eu plith mae Catrin Finch, Gwenan Gibbard, Osian Ellis ac [[Elinor Bennett]].
 
Mae corau Cymru yn parhau i fod ymhlith goreuon y byd. Mae bron pob un o gorau enwog Cymru ar label Sain. Mae'r catalog yn cynnwys nifer fawr o gasgliadau corawl, a nifer o recordiadau o gorau cyfansawdd yng Ngwyliau’r Albert Hall, ar CD a DVD.
 
==Aml-gyfryngol a'r Wê==
 
Yn 1997, ail-strwythurwyd y cwmni, a gosod system gyfrifiadurol newydd i reoli holl waith a stoc y cwmni, ac aeth y cwmni ar y Fyd-eang. Bellach, mae gwerthu drwy’r Wê a thros y rhyngrwyd ac ar wefannau fel iTunes yn rhan bwysig o’i weithgarwch. Ehangodd nifer y dosbarthwyr rhyngwladol trwy i Sain fynychu ffeiriau masnach ar gyfer cerddoriaeth y byd, yn arbennig WOMEX a MIDEM.

Yn 2003, sefydlwyd label cerddoriaeth llyfrgell SLIC gyda Gwenan Gibbard yn Rheolwr. Gwenan hefyd sy’n gyfrifol am gyhoeddi cerddoriaeth Cyhoeddiadau Sain yn ddigidol ac ar bapur, yn ogystal â bod yn un o artistiaid ifanc mwyaf llwyddiannus y cwmni.

PRIF WEITHREDWR NEWYDD

Yn Ionawr 2004 penodwyd Dafydd Roberts (sy’n adnabyddus fel aelod o’r grwp gwerin AR LOG) fel Prif Weithredwr Cwmni Sain. Datblygodd strwythur Adrannol y cwmni ymhellach, gyda rheolwr/aig ar gyfer pob Adran, cyflwynodd gatalog SAIN i’r byd lawrlwytho digidol a sefydlodd label newydd RASAL ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc. Yn 2007 crewyd dwy is-label arall i gynrychioli cerddoriaeth “indi” (COPA) a chantorion-gyfansoddwyr (GWYMON).
==Prif Weithredwr newydd==
 
Yn Ionawr 2004 penodwyd Dafydd Roberts (sy’n adnabyddus fel aelod o’r grwp gwerin Ar Log) fel Prif Weithredwr Cwmni Sain. Datblygodd strwythur adrannol y cwmni ymhellach, gyda rheolwr/aig ar gyfer pob adran, cyflwynodd gatalog Sain i’r byd lawrlwytho digidol a sefydlodd label newydd RASAL ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc. Yn 2007 crewyd dwy is-label arall i gynrychioli cerddoriaeth “indi” (COPA) a chantorion-gyfansoddwyr (GWYMON).

Yn 2007, ymddeolodd O. P. Huws fel Pennaeth yr Adran Amlgyfrwng, ond mae’n parhau i fod yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni. Y ddau Gyfarwyddwr arall yw Dafydd Iwan a Hefin Elis.
Yn 2007, ymddeolodd O. P. Huws fel Pennaeth yr Adran Amlgyfrwng, ond mae’n parhau i fod yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni. Y ddau Gyfarwyddwr arall yw Dafydd Iwan a Hefin Elis.

Yn 2008, agorwyd trydedd stiwdio’r cwmni, lle cynhyrchir a throsleisir cartwnau ar gyfer S4C a DVDs y cwmni. Yno hefyd, ôl-gynhyrchir rhaglenni radio, ffilm a theledu, a phrosesu pecynnau preifat i gwmnïau corfforaethol.

HEDDIW

Mae gan SAIN siop ar y Maes yng Nghaernarfon sydd ymhlith siopau Cymraeg mwyaf llwyddiannus Cymru, a rhwng Canolfan Sain yn Llandwrog a siop NaNog, mae’r cwmni yn cyflogi tua 20 o bobol yn llawn neu’n rhan-amser, a llawer mwy yn achlysurol fel cynhyrchwyr a cherddorion a pheiriannwyr.
==Datblygiadau diweddar==
 
Mae gan Sain siop ar y Maes yng Nghaernarfon sydd ymhlith siopau Cymraeg mwyaf llwyddiannus Cymru, a rhwng Canolfan Sain yn Llandwrog a siop NaNog, mae’r cwmni yn cyflogi tua 20 o bobol yn llawn neu’n rhan-amser, a llawer mwy yn achlysurol fel cynhyrchwyr a cherddorion a pheiriannwyr.
 
Ymhlith artistiaid cyfoes mwyaf llwyddiannus y cwmni mae Georgia RuthH, a enwebwyd ar gyfer dwy o wobrau Gwerin Radio 2 y BBC, y canwr a wnaeth enw iddo’i hun yn Les Mis a Phantom of the Opera, John Owen-Jones, a’r Tri Tenor. Mae’r labeli Rasal, Gwymon a Copa yn llwyfan i rai o gantorion a bandiau mwyaf poblogaidd Cymru.  . Ychwanegiad pwysig i’n catalog dros y blynyddoedd diwethaf hyn yw “box-sets” o waith rhai o enwau mawr y byd adloniant Cymraeg.<ref>Gwefan Sain [https://sainwales.com/cy/company/history/], cyrchwyd 6.2.2021 ac addaswyd gyda chaniatâd y cwmni.</ref>

Ymhlith artistiaid cyfoes mwyaf llwyddiannus y cwmni mae GEORGIA RUTH, a enwebwyd ar gyfer dwy o wobrau Gwerin Radio 2 y BBC, y canwr a wnaeth enw iddo’i hun yn Les Mis a Phantom of the Opera, JOHN OWEN-JONES, a’r TRI TENOR. Mae’r labeli Rasal, Gwymon a Copa yn llwyfan i rai o gantorion a bandiau mwyaf poblogaidd Cymru, megis YR ODS, SŴNAMI, BANDANA, ac AL LEWIS BAND . Ac enwau eraill sy’n dal i ddifyrru’r tyrfaoedd yw BRYN FÔN, ELIN FFLUR, GWIBDAITH HEN FRÂN, GWENAN GIBBARD a CALAN. Ychwanegiad pwysig i’n catalog dros y blynyddoedd diwethaf hyn yw “box-sets” o waith rhai o enwau mawr y byd adloniant Cymraeg: GERAINT JARMAN, EDWARD H. DAFIS, DAFYDD IWAN, MEIC STEVENS, STEVE EAVES, TRIBAN, TECWYN IFAN a HOGIA’R WYDDFA.

Beth bynnag yw eich chwaeth mewn cerddoriaeth, mae SAIN yn parhau i gyflwyno’r gorau o dalentau Cymru i’w phobol, ac i’r byd yn gyfan. Profodd gwyl WOMEX 2013 fod gan Gymru artistiaid all sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda thalentau gorau’r byd, ac y mae SAIN yn falch o roi llwyfan byd-eang i’r artistiaid hyn.
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Cerddoriaeth]]
[[Categori:Cantorion]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:12, 18 Medi 2023

Mae Cwmni Sain yn gwmni sydd yn gweithio ym myd y cyfryngau (ac efo cerddoriaeth yn bennaf) ers hanner canrif. Mae'r cwmni â'i bencadlys ger Llandwrog, gyferbyn â fferm Chatham.

Dechreuadau'r Cwmni

Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd gan Dafydd Iwan, Huw Jones, a Brian Morgan Edwards, a chyhoeddwyd ei record gyntaf ar Hydref 9fed, 1969.

Symudwyd swyddfa’r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, ym 1971 er mwyn i’r cwmni fod yn nes i’r gynulleidfa Gymraeg, ac fel rhan o’r symudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau Gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a setlodd y naill yn Llandwrog a’r llall yn y Waunfawr.

Yn 1973 symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol. Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch am y tair blynedd gyntaf, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir hefyd. O ran y deunydd, roedd y pwyslais yn bennaf i ddechrau ar ganu’r ifanc, ac yn arbennig y canu “protest”.

Gwernafalau

Yn 1975 agorwyd Stiwdio gyntaf Sain ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â‘r staff fel cynhyrchydd.

1975 – 1979 oedd “oes aur ” Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o’r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, roedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru. Artistiaid amlwg y cyfnod ar label Sain oedd Hergest a Delwyn Siôn, Geraint Jarman, Heather Jones, Meis Stevens, Tecwyn Ifan, Mynediad am Ddim, Tebot Piws, Endaf Emlyn, Brân, Shwn, Ac Eraill a Sidan.

Roedd Dafydd Iwan yn parhau i brocio a diddanu’r tyrfaoedd gyda’i ganeuon personol gwleidyddol, a Sain yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â‘r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 60au. Roedd nifer o artistiaid Sain yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Gymreig, ac hefyd yn flaenllaw yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Trebor Edwards a Hogia'r Wyddfa oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu “canol-y-ffordd”. Os mai’r artistiaid a enwyd uchod oedd yn torri tir newydd, gwerthiant recordiau’r artistiaid hyn, a recordiau Corau Meibion, oedd prif ffynhonell ariannol y cwmni yn y cyfnod hwn. Cantorion eraill sydd wedi ennill clust y werin a tharo’r uchelfannau o safbwynt gwerthiant i gwmni Sain yw Timothy Evans, John ac Alun, Bryn Fôn, Ar Log, Plethyn a Dafydd Iwan. Mae elfen gref o’r Canu Gwlad hefyd wedi bod yn gyson boblogaidd yang Nghymru, gydag enwau fel Doreen Lewis, Iona ac Andy, Dylan a Neil, Broc Môr, a Brenda Edwards yn sefyll allan, a llu o grwpiau gwerin cyfoes o safon megis 4 yn y Bar, Gwerinos a grŵp Pigyn Clust. Mae casgliadau bob amser yn elfen bwysig o werthiant unrhyw gwmni recordiau, ac nid yw Sain yn eithriad. Mae casgliadau swfenîr, casgliadau gwerin a chlasurol, goreuon artistiaid unigol, ac yn arbennig casgliadau corau meibion ymhlith y recordiau a werthodd fwyaf erioed, ac yn cymharu’n dda gyda gwerthiant albyms Saesneg.

Stiwdio newydd

Agorwyd Stiwdio newydd Sain gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn 1980. Ar y pryd, roedd hi gyda’r mwyaf modern o’i bath yn Ewrop, ac roedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i’r un safle â‘r Stiwdio yn 1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio yn amser llawn i’r cwmni.

Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu’r stiwdio newydd, a bu’n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu, er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i Sain fel yr oedd amser yn caniatau.

O'r feinyl i Grynoddisg a DVD

Recordiau hir (LP) a chasetiau oedd prif gynnyrch Sain trwy gydol y 70au a’r 80au, ond yna’n raddol collodd y feinyl ei le i’r Cryno-Ddisg. Bu’r CD a’r casét yn cyd-fyw am flynyddoedd, ond gyda throad y ganrif, dechreuodd y casét hefyd ddiflannu, ac erbyn hyn, y CD a’r DVD yw’r ddau brif fformat.

Yn 1987, agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan Sain, sydd bellach â‘r gallu i olygu’n ddigidol, ac erbyn hyn mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno, wrth i Sain ddatblygu cysylltiadau cryfach â‘r byd ffilm a theledu.

Ar ddechrau’r 90au, bu dau ddatblygiad pwysig yn hanes Sain: 1. sefydlu label CRAI, yn bennaf ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc, miwsig dawns a chyfrifiadurol. Ar y label hon yr ymddangosodd Catatonia a Bob Delyn gyntaf, yn ogystal â Mike Peters a’r Alarm. Bu Rhys Mwyn yn rhedeg label Crai am rai blynyddoedd cyn mynd i weithio ar ei liwt ei hun. 2. Sefydlu Fideo Sain oedd yr ail, o dan ofal O.P. Huws. Bu Sain yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au, ond bellach ychwanegwyd fideos gwreiddiol. Yn Stiwdios Sain y dechreuodd Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen siarad Cymraeg ar fideo a DVD.

Erbyn hyn, gyda’r dechnoleg yn datblygu’n gyflym, mae dau o beirianwyr Sain, Deian a Clinton, wedi sefydlu cwmni annibynnol OMA yng Nghanolfan Sain sy’n gallu awduro, dybio, golygu a dyblygu ar gyfer DVDau yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n cynhyrchu ar gyfer SAIN ei hun, ac ar gyfer cynhyrchwyr allanol.

Clasurol

Bryn Terfel yw artist amlycaf adran glasurol Sain, ac ar y label hon y cyhoeddodd ei ddwy albym gyntaf erioed, gan ychwanegu dwy arall ers hynny (sef gwaith Schubert “Schwanengesang”, a chaneuon Meirion Williams), ac albym enwog “Benedictus” gyda Rhys Meirion. Ymhlith y cantoresau clasurol mae Elin Manahan Thomas, Rebecca Eyans, Gwawr Edwards a Shân Cothi, ac ymhlith rhestr hir o ddynion mae Rhys Meirion a Stuart Burrows.

Mae catalog Sain hefyd yn cynnwys rhai o gewri clasurol y gorffennol, megis David Lloyd a Leila Megane. Sain oedd yn gyfrifol am ddod â’r Aled Jones ifanc i sylw’r byd, ac y mae ei draciau gorau ar gael o hyd ar ddwy CD.

Y delyn yw offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae gan Sain ddewis helaeth o gerddoriaeth telyn yn ein catalog. Mae nifer o brif delynorion y wlad wedi recordio i Sain, ar y delyn bedal glasurol, y delyn Geltaidd fechan, ac ar y Delyn Deires draddodiadol. Yn eu plith mae Catrin Finch, Gwenan Gibbard, Osian Ellis ac Elinor Bennett.

Mae corau Cymru yn parhau i fod ymhlith goreuon y byd. Mae bron pob un o gorau enwog Cymru ar label Sain. Mae'r catalog yn cynnwys nifer fawr o gasgliadau corawl, a nifer o recordiadau o gorau cyfansawdd yng Ngwyliau’r Albert Hall, ar CD a DVD.

Aml-gyfryngol a'r Wê

Yn 1997, ail-strwythurwyd y cwmni, a gosod system gyfrifiadurol newydd i reoli holl waith a stoc y cwmni, ac aeth y cwmni ar y Wê Fyd-eang. Bellach, mae gwerthu drwy’r Wê a thros y rhyngrwyd ac ar wefannau fel iTunes yn rhan bwysig o’i weithgarwch. Ehangodd nifer y dosbarthwyr rhyngwladol trwy i Sain fynychu ffeiriau masnach ar gyfer cerddoriaeth y byd, yn arbennig WOMEX a MIDEM.

Yn 2003, sefydlwyd label cerddoriaeth llyfrgell SLIC gyda Gwenan Gibbard yn Rheolwr. Gwenan hefyd sy’n gyfrifol am gyhoeddi cerddoriaeth Cyhoeddiadau Sain yn ddigidol ac ar bapur, yn ogystal â bod yn un o artistiaid ifanc mwyaf llwyddiannus y cwmni.

Prif Weithredwr newydd

Yn Ionawr 2004 penodwyd Dafydd Roberts (sy’n adnabyddus fel aelod o’r grwp gwerin Ar Log) fel Prif Weithredwr Cwmni Sain. Datblygodd strwythur adrannol y cwmni ymhellach, gyda rheolwr/aig ar gyfer pob adran, cyflwynodd gatalog Sain i’r byd lawrlwytho digidol a sefydlodd label newydd RASAL ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc. Yn 2007 crewyd dwy is-label arall i gynrychioli cerddoriaeth “indi” (COPA) a chantorion-gyfansoddwyr (GWYMON).

Yn 2007, ymddeolodd O. P. Huws fel Pennaeth yr Adran Amlgyfrwng, ond mae’n parhau i fod yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni. Y ddau Gyfarwyddwr arall yw Dafydd Iwan a Hefin Elis.

Yn 2008, agorwyd trydedd stiwdio’r cwmni, lle cynhyrchir a throsleisir cartwnau ar gyfer S4C a DVDs y cwmni. Yno hefyd, ôl-gynhyrchir rhaglenni radio, ffilm a theledu, a phrosesu pecynnau preifat i gwmnïau corfforaethol.

Datblygiadau diweddar

Mae gan Sain siop ar y Maes yng Nghaernarfon sydd ymhlith siopau Cymraeg mwyaf llwyddiannus Cymru, a rhwng Canolfan Sain yn Llandwrog a siop NaNog, mae’r cwmni yn cyflogi tua 20 o bobol yn llawn neu’n rhan-amser, a llawer mwy yn achlysurol fel cynhyrchwyr a cherddorion a pheiriannwyr.

Ymhlith artistiaid cyfoes mwyaf llwyddiannus y cwmni mae Georgia RuthH, a enwebwyd ar gyfer dwy o wobrau Gwerin Radio 2 y BBC, y canwr a wnaeth enw iddo’i hun yn Les Mis a Phantom of the Opera, John Owen-Jones, a’r Tri Tenor. Mae’r labeli Rasal, Gwymon a Copa yn llwyfan i rai o gantorion a bandiau mwyaf poblogaidd Cymru. . Ychwanegiad pwysig i’n catalog dros y blynyddoedd diwethaf hyn yw “box-sets” o waith rhai o enwau mawr y byd adloniant Cymraeg.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Sain [1], cyrchwyd 6.2.2021 ac addaswyd gyda chaniatâd y cwmni.