Côr Plant Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Côr Plant Tal-y-sarn''' yn bur lwyddiannus yn ystod dau ddegawd olaf y 19g. Clywir sôn amdanynt yn ennill yn fynychu yn Eisteddfod Gadeiriol...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:41, 11 Medi 2023
Roedd Côr Plant Tal-y-sarn yn bur lwyddiannus yn ystod dau ddegawd olaf y 19g. Clywir sôn amdanynt yn ennill yn fynychu yn Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn yn erbyn corau lleol eraill. Er enghraifft, ceir sôn am hyn ym 1886[1]; 1894 a 1896 (dan arweiniad J.W. Jones ar y ddwy achlysur)[2]; 1898 (dan arweiniad Miss Roberts)[3]; a 1900 (dan arweiniad William Jones)[4].
Dywedir i'r côr gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 yn y gystadlaeuaeth i gorau plant gyda 50-60 o aelodau, ond ysywaeth Côr Ebeneser, Bangor a enillodd ac roedd Côr Acrefair yn ail.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma