Seindorf Dulyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Enw swyddogol [[Band Nebo]] oedd Band neu '''Seindorf Dulyn''' (enw'r cwm gerllaw), ac yn un o wyth o fandiau pres yn ardal [[Dyffryn Nantlle]].
Enw swyddogol '''Band Nebo''' oedd Band neu '''Seindorf Dulyn''' (enw'r cwm gerllaw), ac yn un o wyth o fandiau pres yn ardal [[Dyffryn Nantlle]].

Fe'i ffurfiwyd ym 1874 ac o fewn dwy flynedd cawn ei hanes yn cadw cyngerdd yn nhref Pwllheli gydag Evan Morgan (Llew Madog), cyfansoddwr y dôn boblogaidd ''Tyddyn Llwyn'', Alaw Collen, Llinos Alltwen ac Eryr Llyfnwy. Ni pharodd y seindorf hon rhyw lawer yn hwy na phymtheng mlynedd. Arweinydd Band Nebo oedd William Evans (Eos Eifion). Un arall fu'n ei arwain oedd J.E. Jones, Y Gors, oedd ar brydiau'n arwain y band ''mynd-a-dŵad'' hwnnw, [[Band Ceidwadwyr Pen-y-groes]]. Bu ef farw ym Mhontypridd ac yno y'i claddwyd.

Yn ôl Glan Rhyddallt roedd gan y seindorf hon lifrai ryfeddol - "yr oedd ganddynt iwnifform, cap pig a thoslyn wrtho". Dywedodd un awdur : "Dig'wileidd-dra noeth ... a gobeithio'n wir fod ganddynt ragor amdanynt - gall fod yn oer iawn ar lethrau bryn Nebo, yn enwedig yn y gaeaf!"<ref>Gearint JOnes, ''Cyrn y Diafol'', (2004)</ref>
Yn ôl Glan Rhyddallt roedd gan y seindorf hon lifrai ryfeddol - "yr oedd ganddynt iwnifform, cap pig a thoslyn wrtho". Dywedodd un awdur : "Dig'wileidd-dra noeth ... a gobeithio'n wir fod ganddynt ragor amdanynt - gall fod yn oer iawn ar lethrau bryn Nebo, yn enwedig yn y gaeaf!"<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'', (2004)</ref>

Bu'r band yn cystadlu ar brydiau hefyd. Ym 1877 bu'n cystadlu yn Abergynolwyn dan arweiniad hyfforddwr enwog iawn o Loegr, [[John Hartmann]]. Hyfforddwr proffesiynol [[Seindorf Dyffryn Nantlle]] gerllaw oedd Hartmann, a gofynnodd Seindorf Nebo iddo eu hyfforddi a'u harwain hwythau hefyd. Yr unig ffordd bosib i hynny ddigwydd oedd ei fod gyda Seindorf Nantlle o 6.30 tan 9.00 bob nos, ac yna gyda Seindorf Nebo o 10.00 tan un o'r gloch y bore. Ac felly y bu.

Yn Chwefror 1879 cafwyd cyngerdd yn Nebo i godi arian i fynd i gystadlu yn [[Eisteddfod Gadeiriol Eryri]] ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] chwe wythnos yn ddiweddarach. Enillodd y band y gystadleuaeth Bandiau Dosbarth B â'i gwobr o bedair gini yn chwarae'r darn ''Nantlle Vale Fantasia'', gerbron cynulleidfa fawr o bedair mil o bobl mewn pabell enfawr a godwyd ar gyfer yr achlysur. Y beirniad oedd David Jenkins. Arwisgwyd yr arweinydd gan Mrs. Williams y ''School Board'', Pen-y-groes.
Yn Chwefror 1879 cafwyd cyngerdd yn Nebo i godi arian i fynd i gystadlu yn [[Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes|Eisteddfod Gadeiriol Eryri]] ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] chwe wythnos yn ddiweddarach. Enillodd y band y gystadleuaeth Bandiau Dosbarth B â'i gwobr o bedair gini yn chwarae'r darn ''Nantlle Vale Fantasia'', gerbron cynulleidfa fawr o bedair mil o bobl mewn pabell enfawr a godwyd ar gyfer yr achlysur. Y beirniad oedd David Jenkins. Arwisgwyd yr arweinydd gan Mrs. Williams y ''School Board'', Pen-y-groes.

Byddai llawer o fandiau'r oes yn mewnforio chwaraewyr ac arweinyddion o Loegr ar gyfer cystadlu. Ond nid felly Band Nebo. Gallai un Rhys Morgan ymffrostio <ref>''Llais y Wlad'' Tachwedd 1876</ref> ''Dyma sydd yn hynod mewn cysylltiad â'r band hwn nad oes yr un Sais na Gwyddel wedi bod yn rhoddi dim cyfarwyddyd iddynt.''

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:13, 7 Medi 2023

Enw swyddogol Band Nebo oedd Band neu Seindorf Dulyn (enw'r cwm gerllaw), ac yn un o wyth o fandiau pres yn ardal Dyffryn Nantlle.

Fe'i ffurfiwyd ym 1874 ac o fewn dwy flynedd cawn ei hanes yn cadw cyngerdd yn nhref Pwllheli gydag Evan Morgan (Llew Madog), cyfansoddwr y dôn boblogaidd Tyddyn Llwyn, Alaw Collen, Llinos Alltwen ac Eryr Llyfnwy. Ni pharodd y seindorf hon rhyw lawer yn hwy na phymtheng mlynedd. Arweinydd Band Nebo oedd William Evans (Eos Eifion). Un arall fu'n ei arwain oedd J.E. Jones, Y Gors, oedd ar brydiau'n arwain y band mynd-a-dŵad hwnnw, Band Ceidwadwyr Pen-y-groes. Bu ef farw ym Mhontypridd ac yno y'i claddwyd.

Yn ôl Glan Rhyddallt roedd gan y seindorf hon lifrai ryfeddol - "yr oedd ganddynt iwnifform, cap pig a thoslyn wrtho". Dywedodd un awdur : "Dig'wileidd-dra noeth ... a gobeithio'n wir fod ganddynt ragor amdanynt - gall fod yn oer iawn ar lethrau bryn Nebo, yn enwedig yn y gaeaf!"[1]

Bu'r band yn cystadlu ar brydiau hefyd. Ym 1877 bu'n cystadlu yn Abergynolwyn dan arweiniad hyfforddwr enwog iawn o Loegr, John Hartmann. Hyfforddwr proffesiynol Seindorf Dyffryn Nantlle gerllaw oedd Hartmann, a gofynnodd Seindorf Nebo iddo eu hyfforddi a'u harwain hwythau hefyd. Yr unig ffordd bosib i hynny ddigwydd oedd ei fod gyda Seindorf Nantlle o 6.30 tan 9.00 bob nos, ac yna gyda Seindorf Nebo o 10.00 tan un o'r gloch y bore. Ac felly y bu.

Yn Chwefror 1879 cafwyd cyngerdd yn Nebo i godi arian i fynd i gystadlu yn Eisteddfod Gadeiriol Eryri ym Mhen-y-groes chwe wythnos yn ddiweddarach. Enillodd y band y gystadleuaeth Bandiau Dosbarth B â'i gwobr o bedair gini yn chwarae'r darn Nantlle Vale Fantasia, gerbron cynulleidfa fawr o bedair mil o bobl mewn pabell enfawr a godwyd ar gyfer yr achlysur. Y beirniad oedd David Jenkins. Arwisgwyd yr arweinydd gan Mrs. Williams y School Board, Pen-y-groes.

Byddai llawer o fandiau'r oes yn mewnforio chwaraewyr ac arweinyddion o Loegr ar gyfer cystadlu. Ond nid felly Band Nebo. Gallai un Rhys Morgan ymffrostio [2] Dyma sydd yn hynod mewn cysylltiad â'r band hwn nad oes yr un Sais na Gwyddel wedi bod yn rhoddi dim cyfarwyddyd iddynt. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004)
  2. Llais y Wlad Tachwedd 1876