Cwmni Coffi Poblado: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cwmni rhostio, blendio a gwerthu coffi, sydd wedi'i sefydlu yn Nantlle, yw '''Cwmni Coffi Poblado'''. Ystyr yr enw 'Poblado' yn yr iaith Sbaeneg yw pentr...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Cwmni rhostio, blendio a gwerthu coffi, sydd wedi'i sefydlu yn Nantlle, yw '''Cwmni Coffi Poblado'''.
Cwmni rhostio, blendio a gwerthu coffi, sydd wedi'i sefydlu yn [[Nantlle]], yw '''Cwmni Coffi Poblado'''.


Ystyr yr enw 'Poblado' yn yr iaith Sbaeneg yw pentref, tref neu gymuned, ond gall hefyd olygu 'dynoliaeth' yn gyffredinol. Ugain mlynedd yn ôl roedd sefydlwyr y cwmni yn byw yn El Poblado, cymdogaeth sy'n rhan o Medellin, ail ddinas Colombia yn Ne America. Yno buont yn gweithio ar fferm goffi gan ddysgu pob peth ynghylch y grefft o rostio a blendio coffi. Ar ôl iddynt ddychwelyd i Gymru fe wnaethant benderfynu sefydlu cwmni cynhyrchu coffi gan weithredu am y tair blynedd gyntaf o'r hyn a elwir ganddynt yn 'gwt coffi' yng ngwaelod yr ardd. Wrth i'r cwmni gael ei draed dano fe wnaethant symud i weithdy sy'n rhan o hen farics chwarelwyr chwarel Pen-yr-orsedd yn Nantlle. Maent yn prynu ffa coffi amrywiol o wahanol wledydd led led y byd gan sicrhau eu bod yn dod o ffynonellau lle sicrheir bod y cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch. Yna maent yn rhostio'r ffa amrywiol a'u blendio gan gynhyrchu pob math o goffi o wahanol flasau a chryfder. Gwerthir y cynnyrch mewn siopau lleol ac i gaffis a bwytai ac mae ganddynt siop hefyd yn yr hen farics, lle gellir profi'r coffi yn ogystal â phrynu pecynnau ohono. Mae'r lle wedi dod yn gyrchfan boblogaidd yn lleol, yn arbennig ar foreau Sadwrn pan mae'r 'Poblado Plodders', fel y gelwir hwy, yn cyfarfod yno i redeg, nofio yn Llyn Nantlle gerllaw ac, wrth gwrs, yfed coffi.<sup>[1]</sup>
Ystyr yr enw 'Poblado' yn yr iaith Sbaeneg yw pentref, tref neu gymuned, ond gall hefyd olygu 'dynoliaeth' yn gyffredinol. Ugain mlynedd yn ôl roedd sefydlwyr y cwmni yn byw yn El Poblado, cymdogaeth sy'n rhan o Medellin, ail ddinas Colombia yn Ne America. Yno buont yn gweithio ar fferm goffi gan ddysgu pob peth ynghylch y grefft o rostio a blendio coffi. Ar ôl iddynt ddychwelyd i Gymru fe wnaethant benderfynu sefydlu cwmni cynhyrchu coffi gan weithredu am y tair blynedd gyntaf o'r hyn a elwir ganddynt yn 'gwt coffi' yng ngwaelod yr ardd. Wrth i'r cwmni gael ei draed dano fe wnaethant symud i weithdy sy'n rhan o hen farics chwarelwyr [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] yn Nantlle. Maent yn prynu ffa coffi amrywiol o wahanol wledydd led led y byd gan sicrhau eu bod yn dod o ffynonellau lle sicrheir bod y cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch. Yna maent yn rhostio'r ffa amrywiol a'u blendio gan gynhyrchu pob math o goffi o wahanol flasau a chryfder. Gwerthir y cynnyrch mewn siopau lleol ac i gaffis a bwytai ac mae ganddynt siop hefyd yn yr hen farics, lle gellir profi'r coffi yn ogystal â phrynu pecynnau ohono. Mae'r lle wedi dod yn gyrchfan boblogaidd yn lleol, yn arbennig ar foreau Sadwrn pan mae'r 'Poblado Plodders', fel y gelwir hwy, yn cyfarfod yno i redeg, nofio yn [[Llyn Nantlle Uchaf]] gerllaw ac, wrth gwrs, yfed coffi.<ref>Gweler gwefan y cwmni: pobladocoffi.co.uk</ref>


Yn ddiweddar (hydref 2023) mae'r cwmni wedi cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i addasu hen gapel Bryn'r Odyn, ger Y Groeslon, yn weithdy cynhyrchu coffi a chaffi. Yn ogystal â pharhau â'r gwaith a wneir yn Nantlle, mae bwriad ganddynt i gynnal cyrsiau ym Mryn'r Odyn yn y grefft o rostio, blendio a gweini coffi o bob math.  
Yn ddiweddar (hydref 2023) mae'r cwmni wedi cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i addasu hen [[Capel Bryn'rodyn (MC)|gapel Bryn'rodyn]], ger [[Y Groeslon]], yn weithdy cynhyrchu coffi a chaffi. Yn ogystal â pharhau â'r gwaith a wneir yn Nantlle, mae bwriad ganddynt i gynnal cyrsiau ym Mryn'rodyn yn y grefft o rostio, blendio a gweini coffi o bob math.  


== Ffynonellau ==
== Ffynonellau ==


1. Gweler gwefan y cwmni: pobladocoffi.co.uk
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]
[[Categori:Cynhyrchu bwydydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:59, 7 Medi 2023

Cwmni rhostio, blendio a gwerthu coffi, sydd wedi'i sefydlu yn Nantlle, yw Cwmni Coffi Poblado.

Ystyr yr enw 'Poblado' yn yr iaith Sbaeneg yw pentref, tref neu gymuned, ond gall hefyd olygu 'dynoliaeth' yn gyffredinol. Ugain mlynedd yn ôl roedd sefydlwyr y cwmni yn byw yn El Poblado, cymdogaeth sy'n rhan o Medellin, ail ddinas Colombia yn Ne America. Yno buont yn gweithio ar fferm goffi gan ddysgu pob peth ynghylch y grefft o rostio a blendio coffi. Ar ôl iddynt ddychwelyd i Gymru fe wnaethant benderfynu sefydlu cwmni cynhyrchu coffi gan weithredu am y tair blynedd gyntaf o'r hyn a elwir ganddynt yn 'gwt coffi' yng ngwaelod yr ardd. Wrth i'r cwmni gael ei draed dano fe wnaethant symud i weithdy sy'n rhan o hen farics chwarelwyr Chwarel Pen-yr-orsedd yn Nantlle. Maent yn prynu ffa coffi amrywiol o wahanol wledydd led led y byd gan sicrhau eu bod yn dod o ffynonellau lle sicrheir bod y cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch. Yna maent yn rhostio'r ffa amrywiol a'u blendio gan gynhyrchu pob math o goffi o wahanol flasau a chryfder. Gwerthir y cynnyrch mewn siopau lleol ac i gaffis a bwytai ac mae ganddynt siop hefyd yn yr hen farics, lle gellir profi'r coffi yn ogystal â phrynu pecynnau ohono. Mae'r lle wedi dod yn gyrchfan boblogaidd yn lleol, yn arbennig ar foreau Sadwrn pan mae'r 'Poblado Plodders', fel y gelwir hwy, yn cyfarfod yno i redeg, nofio yn Llyn Nantlle Uchaf gerllaw ac, wrth gwrs, yfed coffi.[1]

Yn ddiweddar (hydref 2023) mae'r cwmni wedi cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i addasu hen gapel Bryn'rodyn, ger Y Groeslon, yn weithdy cynhyrchu coffi a chaffi. Yn ogystal â pharhau â'r gwaith a wneir yn Nantlle, mae bwriad ganddynt i gynnal cyrsiau ym Mryn'rodyn yn y grefft o rostio, blendio a gweini coffi o bob math.

Ffynonellau

  1. Gweler gwefan y cwmni: pobladocoffi.co.uk