Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Ap Tudno y dudalen H.R. Owen (Tenorydd Llyfnwy) i Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy) heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''H.R. Owen''', a arddelai'r enw llwyfan "Tenorydd Llyfnwy" ar adegau, yn unawdydd a berfformiodd yn gyson mewn cyngherddau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] yn y blynyddoedd o gwmpas 1880. Credir mai ef oedd arweinydd ar [[Côr Llanllyfni|Gôr Llanllyfni]] am gyfnod. Ni cheir sôn amdano yn y wasg leol ar ôl 1880, ond nid yw'n hysbys ai symud i ffwrdd, marw, neu ymddeol o'r byd cerdd a wnaeth yr adeg honno.<ref>''Y Genedl Gymreig'', ''pasim'', 1877-1880</ref>
Roedd '''Hugh R. Owen''' (1855-?), a arddelai'r enw llwyfan "Tenorydd Llyfnwy" ar adegau, yn unawdydd a berfformiodd yn gyson mewn cyngherddau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] yn y blynyddoedd o gwmpas 1880. Ef oedd arweinydd [[Côr Llanllyfni|Côr Llanllyfni]] am gyfnod. Ni cheir sôn amdano yn y wasg leol ar ôl 1880, ond nid yw'n hysbys ai symud i ffwrdd, marw, neu ymddeol o'r byd cerdd a wnaeth yr adeg honno.<ref>''Y Genedl Gymreig'', ''passim'', 1877-1880</ref> Mae cyfeiriad at un "Hugh R. Owen" yn feirniad mewn gwledd a gynhaliwyd gan Ysgol Sul Pen-y-chwarel, [[Llanllyfni]] ym 1885. Tybed ai dyma'r un Hugh R. Owen.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 16.9.1885, t.5</ref> Mae dyn o'r enw Hugh R. Owen yn cael ei restru yng Nghyfrifiadau 1891 a 1901 ar gyfer plwyf Llanllyfni; roedd yr Hugh R. Owen hwnnw'n arolygwr ac wedyn asiant chwarel lechi. A oedd hwn yr un un â'r cerddor, a thybed ai oherwydd ei gyfrifoldebau yn y gwaith y ciliodd o'r byd cerdd? Byddai'n braf cael gwybod.


Roedd o leiaf ddau arall a arddelai'r un enw llwyfan. Ym 1886, enillodd G.W. Jones (Tenorydd Llyfnwy) wobr mewn cyfarfod llenyddol y Methodistiaid yn Efrog Newydd<ref>''Y Drych'', 13.12.1886, t.5</ref>; a nodir yn ''Y Drych'' fod "Mr Davies" (Tenorydd Llyfnwy) oedd yn "ddatganwr rhagorol" wedi marw ym Maesteg ym 1895.<ref>''Y Drych'', 19.12.1895, t.8</ref> Dyna'r unig gyfeiriadau sydd wedi dod i'r fei am y ddau wron hyn, ac nid yw'n hysbys beth oedd eu cysylltiad â Dyffryn Nantlle, os oedd yna gysylltiad o gwbl.
Roedd o leiaf ddau arall a arddelai'r un enw llwyfan. Ym 1886, enillodd G.W. Jones (Tenorydd Llyfnwy) wobr mewn cyfarfod llenyddol y Methodistiaid yn Efrog Newydd<ref>''Y Drych'', 13.12.1886, t.5</ref>; a nodir yn ''Y Drych'' fod "Mr Davies" (Tenorydd Llyfnwy) a oedd yn "ddatganwr rhagorol" wedi marw ym Maesteg ym 1895.<ref>''Y Drych'', 19.12.1895, t.8</ref> Dyna'r unig gyfeiriadau sydd wedi dod i'r fei am y ddau wron hyn, ac nid yw'n hysbys beth oedd eu cysylltiad â Dyffryn Nantlle, os oedd yna gysylltiad o gwbl.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:39, 27 Awst 2023

Roedd Hugh R. Owen (1855-?), a arddelai'r enw llwyfan "Tenorydd Llyfnwy" ar adegau, yn unawdydd a berfformiodd yn gyson mewn cyngherddau yn Nyffryn Nantlle yn y blynyddoedd o gwmpas 1880. Ef oedd arweinydd Côr Llanllyfni am gyfnod. Ni cheir sôn amdano yn y wasg leol ar ôl 1880, ond nid yw'n hysbys ai symud i ffwrdd, marw, neu ymddeol o'r byd cerdd a wnaeth yr adeg honno.[1] Mae cyfeiriad at un "Hugh R. Owen" yn feirniad mewn gwledd a gynhaliwyd gan Ysgol Sul Pen-y-chwarel, Llanllyfni ym 1885. Tybed ai dyma'r un Hugh R. Owen.[2] Mae dyn o'r enw Hugh R. Owen yn cael ei restru yng Nghyfrifiadau 1891 a 1901 ar gyfer plwyf Llanllyfni; roedd yr Hugh R. Owen hwnnw'n arolygwr ac wedyn asiant chwarel lechi. A oedd hwn yr un un â'r cerddor, a thybed ai oherwydd ei gyfrifoldebau yn y gwaith y ciliodd o'r byd cerdd? Byddai'n braf cael gwybod.

Roedd o leiaf ddau arall a arddelai'r un enw llwyfan. Ym 1886, enillodd G.W. Jones (Tenorydd Llyfnwy) wobr mewn cyfarfod llenyddol y Methodistiaid yn Efrog Newydd[3]; a nodir yn Y Drych fod "Mr Davies" (Tenorydd Llyfnwy) a oedd yn "ddatganwr rhagorol" wedi marw ym Maesteg ym 1895.[4] Dyna'r unig gyfeiriadau sydd wedi dod i'r fei am y ddau wron hyn, ac nid yw'n hysbys beth oedd eu cysylltiad â Dyffryn Nantlle, os oedd yna gysylltiad o gwbl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, passim, 1877-1880
  2. Y Genedl Gymreig, 16.9.1885, t.5
  3. Y Drych, 13.12.1886, t.5
  4. Y Drych, 19.12.1895, t.8