Y Pedwar Cabalero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Richard Eammes, gitâr fâs. | Richard Eammes, gitâr fâs. | ||
Dennis Williams fyddai'n cyfansoddi geiriau'r caneuon. | Dennis Williams fyddai'n cyfansoddi geiriau'r caneuon. Cyn iddo ymddeol bu'n gweithio fel Prif Weinyddwr Gwasanaeth Cerdd William Matthias yng Ngwynedd a Môn. Ymgartrefodd gyda'i deulu yn Llanfair Pwllgwyngyll a bu farw yn 2021. Treuliodd Glyn Jones ei oes yn byw yn Nhrefor a'r cyffiniau a bu farw yn 2022, ddim ond rhyw flwyddyn ar ôl ei gyfaill Dennis. Yn gymharol ddiweddar ffurfiodd Glyn a Dennis ddeuawd hynod o boblogaidd o'r enw MONTRE, yr enw wedi ei fathu o 'Môn' a 'Trefor', lle'r oedd y ddau'n byw. Yn wir, roeddent hefyd yn frodyr-yng-nghyfraith i'w gilydd gan iddynt briodi dwy ferch o Glynnog Fawr - Glyn â Heather, a Dennis â Faith. | ||
Pedair cân sydd ar y record, a'r oll o'r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Dennis Williams : | Pedair cân sydd ar y record, a'r oll o'r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Dennis Williams : |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:00, 17 Awst 2023
Grŵp canu gwlad a ffurfiwyd yn ail hanner y 1960'au oedd Y Pedwar Cabalero. Canai yn Saesneg hefyd dan yr enw The Four Caballeros. Pum aelod oedd i'r grŵp pan gyhoeddwyd record EP ohonynt gan Recordiau'r Dryw ym Mehefin 1970 sef :
Glyn Jones, o Fryn Eryr, Trefor - prif ganwr, iodliwr a gitâr rhythm ;
Dennis Williams, o bentref Trefor - canwr (yn y deuawdau yn arbennig) a phrif gitarydd ;
John Hanks, organ drydan ;
Johnny Evans, o Glynnog - drymiwr ;
Richard Eammes, gitâr fâs.
Dennis Williams fyddai'n cyfansoddi geiriau'r caneuon. Cyn iddo ymddeol bu'n gweithio fel Prif Weinyddwr Gwasanaeth Cerdd William Matthias yng Ngwynedd a Môn. Ymgartrefodd gyda'i deulu yn Llanfair Pwllgwyngyll a bu farw yn 2021. Treuliodd Glyn Jones ei oes yn byw yn Nhrefor a'r cyffiniau a bu farw yn 2022, ddim ond rhyw flwyddyn ar ôl ei gyfaill Dennis. Yn gymharol ddiweddar ffurfiodd Glyn a Dennis ddeuawd hynod o boblogaidd o'r enw MONTRE, yr enw wedi ei fathu o 'Môn' a 'Trefor', lle'r oedd y ddau'n byw. Yn wir, roeddent hefyd yn frodyr-yng-nghyfraith i'w gilydd gan iddynt briodi dwy ferch o Glynnog Fawr - Glyn â Heather, a Dennis â Faith.
Pedair cân sydd ar y record, a'r oll o'r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Dennis Williams :
1. Morfudd
2. O 'rwy'n dy garu
3. Caraf Cymru
4. Menna annwyl
Enw'r record yw Y 4 CABALERO.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma