Geraint Jones, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Geraint Jones (Trefor).jpg|bawd|300px|de|Geraint Jones (Trefor)]] | [[Delwedd:Geraint Jones (Trefor).jpg|bawd|300px|de|Geraint Jones (Trefor)]] | ||
Mae '''Geraint Jones''' o bentref [[Trefor]] wedi bod yn ymgyrchydd iaith gydol ei oes, | Mae '''Geraint Jones''' (g. 1942) o bentref [[Trefor]] wedi bod yn ymgyrchydd iaith gydol ei oes, ac yn brifathro Ysgol yr Eifl, Trefor, o 1983 - 1997, yn gerddor gyda'r gorau ym myd y bandiau pres, yn arweinydd [[Seindorf Trefor]] am dros hanner canrif (o 1969) ac mae'n dal wrthi! Mae'n awdur nifer o lyfrau, yn arbennig llyfrau hanes. Ganwyd a magwyd ef yn Nhrefor a chafodd ei addysg yn ysgol Trefor, ysgol ramadeg Pwllheli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd yn y Gyfraith (LLB. 1963). | ||
Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac | Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac mae wedi ymwneud â gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd gydol ei oes. | ||
Am ddwy flynedd, hyd nes iddo gael ei rwystro gan yr awdurdodau, bu'n ysgrifennu colofn wythnosol ddychanol, ddadleuol ac ymosodol, "Sêt y Gornel", yn ''Y Cymro'' (2005 - 06). | |||
Sefydlydd a Chadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Trefor. | |||
Ef yw Rheolwr [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] ac un o'i sylfaenwyr. Hefyd, ef sy'n bennaf gyfrifol am ''Utgorn Cymru '', chwarterolyn llafar y Ganolfan. | |||
Yn ogystal, mae wedi bod yn llunio cwis poblogaidd "Sêt y Gornel" yn ''Y Faner Newydd'' ers rhai blynyddoedd bellach. | |||
Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd a gynhaliwyd ym Moduan o 5-12 Awst 2023 derbyniodd Geraint Jones Fedal Goffa Syr T H Parry-Williams - Er Clod. Dyfernir y fedal hon - sy'n un o brif anrhydeddau'r Eisteddfod - yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn ei fro/bro, ac yn ehangach, gyda phwyslais arbennig ar hyfforddi pobl ifanc yn neilltuol. Dyfarnwyd yr anrhydedd hon i Geraint i gydnabod llafur oes yn ei fro, ac yng Nghymru'n ehangach, a hynny mewn ystod o wahanol feysydd - cerddoriaeth, hanes, crefydd, gwleidyddiaeth ac ymgyrchu dros y Gymraeg, a llenyddiaeth i nodi dim ond rhai. Cyflwynwyd y fedal iddo mewn seremoni urddasol yn y Pafiliwn Mawr ddydd Llun 7 Awst, gyda chyfeillion ac aelodau o'i deulu'n cymryd rhan. | |||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:55, 17 Awst 2023
Mae Geraint Jones (g. 1942) o bentref Trefor wedi bod yn ymgyrchydd iaith gydol ei oes, ac yn brifathro Ysgol yr Eifl, Trefor, o 1983 - 1997, yn gerddor gyda'r gorau ym myd y bandiau pres, yn arweinydd Seindorf Trefor am dros hanner canrif (o 1969) ac mae'n dal wrthi! Mae'n awdur nifer o lyfrau, yn arbennig llyfrau hanes. Ganwyd a magwyd ef yn Nhrefor a chafodd ei addysg yn ysgol Trefor, ysgol ramadeg Pwllheli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd yn y Gyfraith (LLB. 1963).
Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac mae wedi ymwneud â gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd gydol ei oes.
Am ddwy flynedd, hyd nes iddo gael ei rwystro gan yr awdurdodau, bu'n ysgrifennu colofn wythnosol ddychanol, ddadleuol ac ymosodol, "Sêt y Gornel", yn Y Cymro (2005 - 06).
Sefydlydd a Chadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Trefor.
Ef yw Rheolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ac un o'i sylfaenwyr. Hefyd, ef sy'n bennaf gyfrifol am Utgorn Cymru , chwarterolyn llafar y Ganolfan.
Yn ogystal, mae wedi bod yn llunio cwis poblogaidd "Sêt y Gornel" yn Y Faner Newydd ers rhai blynyddoedd bellach.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd a gynhaliwyd ym Moduan o 5-12 Awst 2023 derbyniodd Geraint Jones Fedal Goffa Syr T H Parry-Williams - Er Clod. Dyfernir y fedal hon - sy'n un o brif anrhydeddau'r Eisteddfod - yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn ei fro/bro, ac yn ehangach, gyda phwyslais arbennig ar hyfforddi pobl ifanc yn neilltuol. Dyfarnwyd yr anrhydedd hon i Geraint i gydnabod llafur oes yn ei fro, ac yng Nghymru'n ehangach, a hynny mewn ystod o wahanol feysydd - cerddoriaeth, hanes, crefydd, gwleidyddiaeth ac ymgyrchu dros y Gymraeg, a llenyddiaeth i nodi dim ond rhai. Cyflwynwyd y fedal iddo mewn seremoni urddasol yn y Pafiliwn Mawr ddydd Llun 7 Awst, gyda chyfeillion ac aelodau o'i deulu'n cymryd rhan.
Llyfryddiaeth
- Rhen Sgŵl (Gwasg Bro'r Eifl, 1978)
- Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor/Cymdeithas Hanes Trefor, 1988)
- Dianc i Drybini (Gwasg Bror Eifl, 1991)
- Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
- Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
- Cyrn y Diafol:Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
- Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Trefor cyd awdur gyda Dafydd Williams (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
- Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
- Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- Malcolm Allen, y Cofiant (Y Lolfa, 2009)
- Moto Ni, Moto Coch - Canmlwyddiant Cwmni Bysus Clynnog a Threfor (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
- John Preis (Gwasg Utgorn Cymru, 2014)
- Gwlad y Menig Gwynion (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma