Tafarn y Waterloo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Tafarn y Waterloo''' ar dir fferm Tyddyn Drain, Llanaelhaearn, ac ar ochr orllewinol y lôn bost o Bwllheli i Gaernarfon ychydig i'r Gogl...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:37, 29 Mehefin 2023
Roedd Tafarn y Waterloo ar dir fferm Tyddyn Drain, Llanaelhaearn, ac ar ochr orllewinol y lôn bost o Bwllheli i Gaernarfon ychydig i'r Gogledd o'r fan lle ymuna'r ffordd i Lithfaen a Phen Llŷn, man strategol ar gyfer diwallu syched teithwyr. Ym 1836, William Jones oedd y tafarnwr pan adeiladwyd Pont Tyddyn Drain gerllaw'r dafarn. Roedd y dafarn wedi bod yno ers talwm, a'r hen enw arni oedd Tafarn Tyddyn Drain, er iddi gael ei hail-enwi i nodi buddugoliaeth Waterloo ym 1815.[1]
Mae'r adeilad yn dal i sefyll hyd heddiw.
Cyfeiriadau
- ↑ Gweler erthygl yng Nghof y Cwmwd am Cwm Band Trefor.