Hafod y Wern, Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Hafod y Wern''' yn fferm fynydd sylweddol ar y llechweddau oddeutu hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Clynnog. Mae'r ffermdy ar gynllun si...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Hafod y Wern''' yn fferm fynydd sylweddol ar y llechweddau oddeutu hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Clynnog. | Mae '''Hafod y Wern''' yn fferm fynydd sylweddol ar y llechweddau oddeutu hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref [[Clynnog Fawr]]. | ||
Mae'r ffermdy ar gynllun siâp L. Y darn, neu adain, ôl yw'r rhan hynaf. Fe'i hadeiladwyd mae'n debyg yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda lle tân a grisiau carreg tro o fewn y mur wrth y simnai. Ychwanegwyd darn, neu adain, flaen y ffermdy gan y perchnogion, | Mae'r ffermdy ar gynllun siâp L. Y darn, neu adain, ôl yw'r rhan hynaf. Fe'i hadeiladwyd mae'n debyg yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda lle tân a grisiau carreg tro o fewn y mur wrth y simnai. Ychwanegwyd darn, neu adain, flaen y ffermdy gan y perchnogion, [[Ystad Glynllifon]], oddeutu 1860, gyda ffenestri sash wedi eu trefnu'n gymesurol o amgylch y drws ffrynt. Mae gan y fferm amrywiaeth o adeiladau, yn stablau, beudai ac ysguboriau wedi eu codi o amgylch iard sgwâr sylweddol. Ceir hefyd nifer o gytiau a ffoltiau moch wedi'u cysylltu â chegin foch sylweddol gyda simnai lle roedd boiler i gynhesu bwyd i'r moch.<ref>Richard Haslam, Julian Orbach ac Adam Voelcker, ''The Buildings of Wales: Gwynedd'', (Yale University Press, 2009), tt. 315-16.</ref> | ||
Bu Hafod y Wern yn gartref am gyfnod i | Bu Hafod y Wern yn gartref am gyfnod i [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]], gweinidog, ysgolfeistr a dyfeisydd, cyn iddo symud i'w gartref newydd, [[Bryn Eisteddfod]], ar gyrion Clynnog. Yn Hafod y Wern hefyd y magwyd yr awdur a'r naturiaethwr [[Twm Elias]] a'i chwaer [[Marian Elias Roberts|Marian Elias]] (Roberts yn ddiweddarach), sy'n Ysgrifennydd [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]]. | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Anheddau]] | |||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:10, 16 Ebrill 2023
Mae Hafod y Wern yn fferm fynydd sylweddol ar y llechweddau oddeutu hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Clynnog Fawr.
Mae'r ffermdy ar gynllun siâp L. Y darn, neu adain, ôl yw'r rhan hynaf. Fe'i hadeiladwyd mae'n debyg yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda lle tân a grisiau carreg tro o fewn y mur wrth y simnai. Ychwanegwyd darn, neu adain, flaen y ffermdy gan y perchnogion, Ystad Glynllifon, oddeutu 1860, gyda ffenestri sash wedi eu trefnu'n gymesurol o amgylch y drws ffrynt. Mae gan y fferm amrywiaeth o adeiladau, yn stablau, beudai ac ysguboriau wedi eu codi o amgylch iard sgwâr sylweddol. Ceir hefyd nifer o gytiau a ffoltiau moch wedi'u cysylltu â chegin foch sylweddol gyda simnai lle roedd boiler i gynhesu bwyd i'r moch.[1]
Bu Hafod y Wern yn gartref am gyfnod i Howell Roberts (Hywel Tudur), gweinidog, ysgolfeistr a dyfeisydd, cyn iddo symud i'w gartref newydd, Bryn Eisteddfod, ar gyrion Clynnog. Yn Hafod y Wern hefyd y magwyd yr awdur a'r naturiaethwr Twm Elias a'i chwaer Marian Elias (Roberts yn ddiweddarach), sy'n Ysgrifennydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
Cyfeiriadau
- ↑ Richard Haslam, Julian Orbach ac Adam Voelcker, The Buildings of Wales: Gwynedd, (Yale University Press, 2009), tt. 315-16.