Maen Llwyd, Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Maen hir mawr pigfain sy'n sefyll yng nghornel dde-orllewinol Parc Glynllifon (SH 445 541) yw'r '''Maen Llwyd''' Ym 1875 gwnaed gwaith cloddio archaeoleg...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:23, 6 Ebrill 2023
Maen hir mawr pigfain sy'n sefyll yng nghornel dde-orllewinol Parc Glynllifon (SH 445 541) yw'r Maen Llwyd
Ym 1875 gwnaed gwaith cloddio archaeolegol o amgylch y maen dan gyfarwyddyd Yr Anrhydeddus Frederick G. Wynn, a oedd yn ŵyr i'r Trydydd Arglwydd Newborough, ac a'i dilynodd fel sgweier Glynllifon ym 1888. Oddeutu 3 troedfedd oddi wrth fôn y maen daethpwyd o hyd i esgyrn dynol wedi eu hamlosgi, yn ogystal â gweddillion llestr bychan a ddefnyddid i ddal bwyd a gladdwyd fel offrwm gyda'r gweddillion dynol. Mewn ychydig iawn o achosion y cafwyd hyd i esgyrn dynol gerllaw maen hir fel hwn.[1]
Cyfeiriadau
1. Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, The Buildings of Wales: Gwynedd, (Yale University Press, 2009), t.431.