Plas yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
Adeiladwyd y Plas ar ddechrau'r ugeinfed ganrif (1902) a safai mewn man trawiadol islaw'r chwarel ithfaen ac uwchben dyffryn [[Nant Mawr, Trefor|Nant Mawr]]. Roedd yn adeilad hirsgwar cadarn a chymesur o'r wenithfaen leol ac o'i ystafelloedd blaen (ac yn arbennig y brif ystafell fyw, gyda'i ffenestr fae enfawr) ceid golygfeydd gwych dros [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]] ac Ynys Môn a draw i gyfeiriad copaon Eryri. Amgylchynnid y Plas gan fur cerrig pur uchel, ac o fewn y muriau, yn ogystal â llain o gae roedd gerddi sylweddol, lle cynhyrchid amrywiaeth o lysiau, a thai gwydr lle tyfid amryfal ffrwythau, rhai ohonynt yn bur egsotig, megis grawnwin.  

Ei ddeiliad cyntaf oedd [[Augustus Henry Wheeler]], a benodwyd yn rheolwr y gwaith ym 1901, yn dilyn marwolaeth [[George Farren]]. Cwta bymtheg mlynedd fu teyrnasiad Wheeler (a oedd yn dra amhoblogaidd ymysg y gweithwyr) yn y gwaith a'r Plas oherwydd fe'i lladdwyd yn y Dardanelles yn ystod ymgyrch Gallipoli ym Medi 1915. Roedd yn swyddog yn y fyddin ac yn arwain bataliwn o chwarelwyr o Ogledd Cymru. Oherwydd ei amhoblogrwydd aeth stori ar led yn yr ardal mai un o'i ddynion ei hun a'i saethodd ym mhoethder y frwydr, ond ni phrofwyd hynny y naill ffordd na'r llall.  
Ei ddeiliad cyntaf oedd [[Augustus Henry Wheeler]], a benodwyd yn rheolwr y gwaith ym 1901, yn dilyn marwolaeth [[George Farren]]. Cwta ddeg mlynedd fu teyrnasiad Wheeler (a oedd yn dra amhoblogaidd ymysg y gweithwyr) yn y gwaith a'r Plas oherwydd fe'i diswyddwyd ym 1910 pan aeth cwmni'r chwarel i drafferthion ariannol dybryd a mynd i'r wal. Fe'i symudwyd i fod yn is-oruchwyliwr dros chwarel Penmaenmawr a phum mlynedd yn ddiweddarach fe'i lladdwyd yn y Dardanelles yn ystod ymgyrch Gallipoli ym Medi 1915. Roedd yn swyddog yn y fyddin ac yn arwain bataliwn o chwarelwyr o Ogledd Cymru. Oherwydd ei amhoblogrwydd aeth stori ar led yn Nhrefor mai un o'i ddynion ei hun a'i saethodd ym mhoethder y frwydr, ond ni phrofwyd hynny y naill ffordd na'r llall.  

Yn dilyn marwolaeth Wheeler, a diwedd y Rhyfel Mawr, daeth [[Charles Stephen Darbishire]] (aelod o deulu Darbishire Penmaenmawr, a oedd yn amlwg gyda'r [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] (Welsh Granite Company, Ltd.)) yn rheolwr y chwarel ym 1918, swydd y bu ynddi nes iddo ymddeol ym 1946. Symudodd ef a'i briod, Eva Darbishire, i Blas yr Eifl a dyna fu eu cartref weddill eu hoes.  

Llinell 14: Llinell 14:

[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Tai nodedig]]
[[Categori:Twristiaeth]]
[[Categori:Gwestai]]
[[Categori:Gwestai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:28, 28 Ionawr 2023

Am flynyddoedd fe fu Plas yr Eifl ar gyrion pentref Trefor yn gartref i reolwyr Chwarel yr Eifl ar lethrau'r Garnfor (neu Mynydd y Gwaith) uwchlaw'r Plas.

Adeiladwyd y Plas ar ddechrau'r ugeinfed ganrif (1902) a safai mewn man trawiadol islaw'r chwarel ithfaen ac uwchben dyffryn Nant Mawr. Roedd yn adeilad hirsgwar cadarn a chymesur o'r wenithfaen leol ac o'i ystafelloedd blaen (ac yn arbennig y brif ystafell fyw, gyda'i ffenestr fae enfawr) ceid golygfeydd gwych dros Fae Caernarfon ac Ynys Môn a draw i gyfeiriad copaon Eryri. Amgylchynnid y Plas gan fur cerrig pur uchel, ac o fewn y muriau, yn ogystal â llain o gae roedd gerddi sylweddol, lle cynhyrchid amrywiaeth o lysiau, a thai gwydr lle tyfid amryfal ffrwythau, rhai ohonynt yn bur egsotig, megis grawnwin.

Ei ddeiliad cyntaf oedd Augustus Henry Wheeler, a benodwyd yn rheolwr y gwaith ym 1901, yn dilyn marwolaeth George Farren. Cwta ddeg mlynedd fu teyrnasiad Wheeler (a oedd yn dra amhoblogaidd ymysg y gweithwyr) yn y gwaith a'r Plas oherwydd fe'i diswyddwyd ym 1910 pan aeth cwmni'r chwarel i drafferthion ariannol dybryd a mynd i'r wal. Fe'i symudwyd i fod yn is-oruchwyliwr dros chwarel Penmaenmawr a phum mlynedd yn ddiweddarach fe'i lladdwyd yn y Dardanelles yn ystod ymgyrch Gallipoli ym Medi 1915. Roedd yn swyddog yn y fyddin ac yn arwain bataliwn o chwarelwyr o Ogledd Cymru. Oherwydd ei amhoblogrwydd aeth stori ar led yn Nhrefor mai un o'i ddynion ei hun a'i saethodd ym mhoethder y frwydr, ond ni phrofwyd hynny y naill ffordd na'r llall.

Yn dilyn marwolaeth Wheeler, a diwedd y Rhyfel Mawr, daeth Charles Stephen Darbishire (aelod o deulu Darbishire Penmaenmawr, a oedd yn amlwg gyda'r Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company, Ltd.)) yn rheolwr y chwarel ym 1918, swydd y bu ynddi nes iddo ymddeol ym 1946. Symudodd ef a'i briod, Eva Darbishire, i Blas yr Eifl a dyna fu eu cartref weddill eu hoes.

Ar farwolaeth Mrs Darbishire yn y 1970au rhoddwyd y Plas ar werth gan ei meibion ac yn fuan wedyn cafodd ei droi yn westy. Yn ystod y degawdau dilynol bu iddo sawl perchennog, gyda rhai'n fwy llwyddiannus na'i gilydd gyda'r busnes gwesty. Fodd bynnag, oddeutu ugain mlynedd yn ôl caeodd yn derfynol fel gwesty ac yn fuan wedyn bu tân enbyd yno a ddinistriodd yr adeilad bron yn llwyr heblaw am ei gragen o wenithfaen galed. Bu'n adfeilion am flynyddoedd ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe'i chwalwyd ac erbyn hyn mae tŷ modern sylweddol a gwydrog wedi ei godi ar y safle.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau