Plas Isaf (Llandwrog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Plas Isaf i Plas Isaf (Llandwrog) heb adael dolen ailgyfeirio |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Codwyd '''Plas Isaf''' ger treflan [[Ffrwd]] ym mhlwyf [[Llandwrog]] yn ystod yr 1870au, a hynny ar safle a fu gynt yn gae; enw cymharol newydd yw enw Plas Isaf felly, ac ni fu erioed blasty yno oedd yn gartref i sgweier neu fonheddwr.<ref>Map degwm plwyf Llandwrog, 1840.</ref> Mae’n debyg mai’r bwriad oedd sicrhau tŷ priodol ar [[Ystad Glynllifon]] ar gyfer asiant yr ystâd honno, wedi i [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] farw. Yr oedd hwnnw wedi arfer cyflawni rhai o uwch-ddyletswyddau asiant ei hun, gyda chymorth ei asiant swyddogol William Elias, a drigai yn Nyffryn Conwy. Yr oedd y perchennog newydd, yr Anrh. [[Frederick George Wynn]], mab Spencer Bulkeley, yn llai awyddus na’i dad i gyflawni gwaith yr ystâd, ac felly | Codwyd '''Plas Isaf''' ger treflan [[Ffrwd]] ym mhlwyf [[Llandwrog]] yn ystod yr 1870au, a hynny ar safle a fu gynt yn gae; enw cymharol newydd yw enw Plas Isaf felly, ac ni fu erioed blasty yno oedd yn gartref i sgweier neu fonheddwr.<ref>Map degwm plwyf Llandwrog, 1840.</ref> Mae’n debyg mai’r bwriad oedd sicrhau tŷ priodol ar [[Ystad Glynllifon]] ar gyfer asiant yr ystâd honno, wedi i [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] farw. Yr oedd hwnnw wedi arfer cyflawni rhai o uwch-ddyletswyddau asiant ei hun, gyda chymorth ei asiant swyddogol, William Elias, a drigai yn Nyffryn Conwy. Yr oedd y perchennog newydd, yr Anrh. [[Frederick George Wynn]], mab Spencer Bulkeley, yn llai awyddus na’i dad i gyflawni gwaith yr ystâd, ac felly roedd angen cael asiant a oedd yn byw gerllaw’r Plas. Fe benododd William Cadwaladr Williams, arolygwr adeiladau’r ystâd, (a oedd cyn hynny’n byw ym Mrynhyfryd, Llandwrog) i’r swydd tua 1880. | ||
Arhosodd William C. Williams ym Mhlas Isaf am weddill ei oes. | |||
Bu’r tŷ’n gartref i nifer o | Bu’r tŷ’n gartref i nifer o asiantwyr eraill wedyn, hyd nes i Mr Rutherford farw yn ystod y 1990au. Yn atig Plas Isaf yn y 1970au canfuwyd cyfres ysblennydd o ohebiaeth yr ystâd a’r plas mewn parseli, pob un yn cynnwys llythyrau neu filiau ar gyfer blwyddyn gron, ac a ddyddiai o tua 1824 hyd yr 1880au.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1871-1911; catalog Archifdy Gwynedd o bapurau Ystad Glynllifon; a gwybodaeth bersonol.</ref> | ||
Erbyn hyn mae’r eiddo wedi ei werthu i breswylwyr preifat, ond trowyd nifer o’r adeiladau allan yn fythynnod gwyliau. | Erbyn hyn mae’r eiddo wedi ei werthu i breswylwyr preifat, ond trowyd nifer o’r adeiladau allan yn fythynnod gwyliau. | ||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | [[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | ||
[[Categori:Asiantwyr ystad]] | [[Categori:Asiantwyr ystad]] | ||
[[Categori:Tai nodedig]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:27, 28 Ionawr 2023
Codwyd Plas Isaf ger treflan Ffrwd ym mhlwyf Llandwrog yn ystod yr 1870au, a hynny ar safle a fu gynt yn gae; enw cymharol newydd yw enw Plas Isaf felly, ac ni fu erioed blasty yno oedd yn gartref i sgweier neu fonheddwr.[1] Mae’n debyg mai’r bwriad oedd sicrhau tŷ priodol ar Ystad Glynllifon ar gyfer asiant yr ystâd honno, wedi i Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough farw. Yr oedd hwnnw wedi arfer cyflawni rhai o uwch-ddyletswyddau asiant ei hun, gyda chymorth ei asiant swyddogol, William Elias, a drigai yn Nyffryn Conwy. Yr oedd y perchennog newydd, yr Anrh. Frederick George Wynn, mab Spencer Bulkeley, yn llai awyddus na’i dad i gyflawni gwaith yr ystâd, ac felly roedd angen cael asiant a oedd yn byw gerllaw’r Plas. Fe benododd William Cadwaladr Williams, arolygwr adeiladau’r ystâd, (a oedd cyn hynny’n byw ym Mrynhyfryd, Llandwrog) i’r swydd tua 1880. Arhosodd William C. Williams ym Mhlas Isaf am weddill ei oes.
Bu’r tŷ’n gartref i nifer o asiantwyr eraill wedyn, hyd nes i Mr Rutherford farw yn ystod y 1990au. Yn atig Plas Isaf yn y 1970au canfuwyd cyfres ysblennydd o ohebiaeth yr ystâd a’r plas mewn parseli, pob un yn cynnwys llythyrau neu filiau ar gyfer blwyddyn gron, ac a ddyddiai o tua 1824 hyd yr 1880au.[2]
Erbyn hyn mae’r eiddo wedi ei werthu i breswylwyr preifat, ond trowyd nifer o’r adeiladau allan yn fythynnod gwyliau.