Dewi Williams, Trefor a Phenmorfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd Dewi Williams (1944-2022) yn hanesydd a ymchwiliodd yn arbennig i hanes cwmwd Eifionydd gan gyhoeddi llawer yn y maes hwnnw. Cafodd ei eni a'i fag...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd Dewi Williams (1944-2022) yn hanesydd a ymchwiliodd yn arbennig i hanes cwmwd Eifionydd gan gyhoeddi llawer yn y maes hwnnw. | Roedd '''Dewi Williams''' (1944-2022) yn hanesydd a ymchwiliodd yn arbennig i hanes cwmwd Eifionydd gan gyhoeddi llawer yn y maes hwnnw. | ||
Cafodd ei eni a'i fagu yn Nhrefor, yn fab i Capten David Williams a'i briod Phyllis. Yn dilyn addysg gynradd yn Ysgol Trefor ac uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli aeth i astudio hanes i Brifysgol Lerpwl a chymhwyso'n athro. Yn dilyn cyfnod cymharol fyr yn athro hanes yn Lerpwl ac yna yn Ysgol Friars, Bangor, fe'i penodwyd yn bennaeth yr Adran Hanes yn Ysgol Glan-y-môr, Pwllheli, ddechrau'r 1970au lle bu hyd ei ymddeoliad. Roedd yn athro uchel ei barch, yn ŵr bonheddig a fu'n gyfrwng i ennyn diddordeb cenedlaethau o ddisgyblion mewn hanes, boed yn rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. | Cafodd ei eni a'i fagu yn [[Trefor|Nhrefor]], yn fab i Capten David Williams a'i briod Phyllis. Yn dilyn addysg gynradd yn [[Ysgol Trefor]] ac uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli aeth i astudio hanes i Brifysgol Lerpwl a chymhwyso'n athro. Yn dilyn cyfnod cymharol fyr yn athro hanes yn Lerpwl ac yna yn Ysgol Friars, Bangor, fe'i penodwyd yn bennaeth yr Adran Hanes yn Ysgol Glan-y-môr, Pwllheli, ddechrau'r 1970au lle bu hyd ei ymddeoliad. Roedd yn athro uchel ei barch, yn ŵr bonheddig a fu'n gyfrwng i ennyn diddordeb cenedlaethau o ddisgyblion mewn hanes, boed yn rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. | ||
Oddeutu'r un adeg ag y daeth yn athro i Bwllheli, ymgartrefodd yn ardal Penmorfa, yn dilyn ei briodas ag Ilid, Tyddyn Deucwm Uchaf. Ganwyd iddynt dri o blant. Wedi iddo ymgartrefu yn Eifionydd, aeth ati i drwytho ei hun yn hanes y cwmwd hwnnw ac ymchwiliodd yn ddygn i wahanol agweddau ar hanes y fro drwy'r canrifoedd. Cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfnodolion megis ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'' ac ymddangosodd cyfresi o'i waith yn ''Y Ffynnon'', papur bro Eifionydd. Gwnaeth waith ymchwil pwysig i hanes y chwareli a'r cloddfeydd a agorwyd yn y 19g yng Nghwm Pennant a Chwm Ystradllyn. Ar sail y gwaith hwnnw traddododd un o Ddarlithoedd Eifionydd a gyhoeddwyd ar ffurf llyfryn, ''Chwareli a Chloddfeydd y Pennant''. Bu galw cyson am ei wasanaeth hefyd fel darlithydd i ddosbarthiadau nos a chymdeithasau hanes. Bu'n gefnogol iawn i Gymdeithas Hanes Trefor pan gafodd ei sefydlu ym 1985, gan draddodi darlith iddi bron yn flynyddol. Bu'n aelod o Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai hefyd o'r cychwyn, gan gyfrannu at ei gwahanol weithgareddau, megis yr arddangosfa Llwybr y Pererinion, a gynhaliwyd yn yr Ysgoldy yng Nghlynnog yn haf 2010. Cymerodd ran hefyd yn rhai o gyfarfodydd Ein Gwir Hanes a rhoddodd sgyrsiau i Utgorn Cymru. | Oddeutu'r un adeg ag y daeth yn athro i Bwllheli, ymgartrefodd yn ardal Penmorfa, yn dilyn ei briodas ag Ilid, Tyddyn Deucwm Uchaf. Ganwyd iddynt dri o blant. Wedi iddo ymgartrefu yn Eifionydd, aeth ati i drwytho ei hun yn hanes y cwmwd hwnnw ac ymchwiliodd yn ddygn i wahanol agweddau ar hanes y fro drwy'r canrifoedd. Cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfnodolion megis ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'' ac ymddangosodd cyfresi o'i waith yn ''Y Ffynnon'', papur bro Eifionydd. Gwnaeth waith ymchwil pwysig i hanes y chwareli a'r cloddfeydd a agorwyd yn y 19g yng Nghwm Pennant a Chwm Ystradllyn. Ar sail y gwaith hwnnw traddododd un o Ddarlithoedd Eifionydd a gyhoeddwyd ar ffurf llyfryn, ''Chwareli a Chloddfeydd y Pennant''. Bu galw cyson am ei wasanaeth hefyd fel darlithydd i ddosbarthiadau nos a chymdeithasau hanes. Bu'n gefnogol iawn i Gymdeithas Hanes Trefor pan gafodd ei sefydlu ym 1985, gan draddodi darlith iddi bron yn flynyddol. Bu'n aelod o [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai]] hefyd o'r cychwyn, gan gyfrannu at ei gwahanol weithgareddau, megis yr arddangosfa [[Llwybr y Pererinion]], a gynhaliwyd yn yr Ysgoldy yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn haf 2010. Cymerodd ran hefyd yn rhai o gyfarfodydd Ein Gwir Hanes a rhoddodd sgyrsiau i Utgorn Cymru. | ||
Bu'n gefnogol i amrywiol weithgareddau diwylliannol a chrefyddol yn ei ardal. Bu'n Gadeirydd papur bro Y Ffynnon am flynyddoedd maith ac roedd yn flaenor uchel ei barch yng nghapel Bethel, Golan. Bu farw ddiwedd 2022 yn 78 oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Bethel. | Bu'n gefnogol i amrywiol weithgareddau diwylliannol a chrefyddol yn ei ardal. Bu'n Gadeirydd papur bro Y Ffynnon am flynyddoedd maith ac roedd yn flaenor uchel ei barch yng nghapel Bethel, Golan. Bu farw ddiwedd 2022 yn 78 oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Bethel. | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Haneswyr]] | |||
[[Categori:Athrawon]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:50, 23 Ionawr 2023
Roedd Dewi Williams (1944-2022) yn hanesydd a ymchwiliodd yn arbennig i hanes cwmwd Eifionydd gan gyhoeddi llawer yn y maes hwnnw.
Cafodd ei eni a'i fagu yn Nhrefor, yn fab i Capten David Williams a'i briod Phyllis. Yn dilyn addysg gynradd yn Ysgol Trefor ac uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli aeth i astudio hanes i Brifysgol Lerpwl a chymhwyso'n athro. Yn dilyn cyfnod cymharol fyr yn athro hanes yn Lerpwl ac yna yn Ysgol Friars, Bangor, fe'i penodwyd yn bennaeth yr Adran Hanes yn Ysgol Glan-y-môr, Pwllheli, ddechrau'r 1970au lle bu hyd ei ymddeoliad. Roedd yn athro uchel ei barch, yn ŵr bonheddig a fu'n gyfrwng i ennyn diddordeb cenedlaethau o ddisgyblion mewn hanes, boed yn rhyngwladol, cenedlaethol a lleol.
Oddeutu'r un adeg ag y daeth yn athro i Bwllheli, ymgartrefodd yn ardal Penmorfa, yn dilyn ei briodas ag Ilid, Tyddyn Deucwm Uchaf. Ganwyd iddynt dri o blant. Wedi iddo ymgartrefu yn Eifionydd, aeth ati i drwytho ei hun yn hanes y cwmwd hwnnw ac ymchwiliodd yn ddygn i wahanol agweddau ar hanes y fro drwy'r canrifoedd. Cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfnodolion megis Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ac ymddangosodd cyfresi o'i waith yn Y Ffynnon, papur bro Eifionydd. Gwnaeth waith ymchwil pwysig i hanes y chwareli a'r cloddfeydd a agorwyd yn y 19g yng Nghwm Pennant a Chwm Ystradllyn. Ar sail y gwaith hwnnw traddododd un o Ddarlithoedd Eifionydd a gyhoeddwyd ar ffurf llyfryn, Chwareli a Chloddfeydd y Pennant. Bu galw cyson am ei wasanaeth hefyd fel darlithydd i ddosbarthiadau nos a chymdeithasau hanes. Bu'n gefnogol iawn i Gymdeithas Hanes Trefor pan gafodd ei sefydlu ym 1985, gan draddodi darlith iddi bron yn flynyddol. Bu'n aelod o Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai hefyd o'r cychwyn, gan gyfrannu at ei gwahanol weithgareddau, megis yr arddangosfa Llwybr y Pererinion, a gynhaliwyd yn yr Ysgoldy yng Nghlynnog yn haf 2010. Cymerodd ran hefyd yn rhai o gyfarfodydd Ein Gwir Hanes a rhoddodd sgyrsiau i Utgorn Cymru.
Bu'n gefnogol i amrywiol weithgareddau diwylliannol a chrefyddol yn ei ardal. Bu'n Gadeirydd papur bro Y Ffynnon am flynyddoedd maith ac roedd yn flaenor uchel ei barch yng nghapel Bethel, Golan. Bu farw ddiwedd 2022 yn 78 oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Bethel.