Y Berth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Y Berth''' yw'r fan lle cyfarfu'r hen [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] o gyfeiriad [[Clynnog Fawr]] a'r hen ffordd fawr trwy bentref [[Llanllyfni]] i gyfeiriad [[Pant-glas]], ychydig i'r de o dai [[Pont-y-crychddwr]]. Hyd heddiw ceir yno ffermydd Tyddyn-y-berth ac Efail-y-berth, a lle addas ddau gan mlynedd yn ôl ar gyfer gefail oedd cyffordd rhwng dwy o ffyrdd pwysicaf y fro.
'''Y Berth''' yw'r fan lle cyfarfyddai'r [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] gynt o gyfeiriad [[Clynnog Fawr]] trwy bentref [[Tai'n Lôn]] â'r hen ffordd fawr trwy bentref [[Llanllyfni]] i gyfeiriad [[Pant-glas]], ychydig i'r de o dai [[Pont-y-Crychddwr]]. Hyd heddiw ceir yno ffermydd Tyddyn-y-berth ac Efail-y-berth. Man addas ddau gan mlynedd yn ôl ar gyfer gefail oedd cyffordd rhwng dwy o ffyrdd pwysicaf y fro. Yn nogfennau Cyfrifiad 1841, sonnir am "Berth" yn lle Tyddyn-y-berth, a "Rhefal". Owen Williams, gof 28 oed, oedd yn byw yn yr Efail, ond roedd o'n ffarmio hefyd. Yn y Berth, roedd William Roberts, ffermwr 69 oed, yn byw; a hefyd yn y Berth, roedd Owen Williams (arall), ffermwr 30 oed. Rhwng yr Efail a'r Berth y pryd hynny safai [[Tyrpeg y Berth|tŷ tyrpeg]], "Turnpike Berth", lle roedd Catherine Williams, 44 oed, yn byw.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:43, 21 Ionawr 2023

Y Berth yw'r fan lle cyfarfyddai'r ffordd dyrpeg gynt o gyfeiriad Clynnog Fawr trwy bentref Tai'n Lôn â'r hen ffordd fawr trwy bentref Llanllyfni i gyfeiriad Pant-glas, ychydig i'r de o dai Pont-y-Crychddwr. Hyd heddiw ceir yno ffermydd Tyddyn-y-berth ac Efail-y-berth. Man addas ddau gan mlynedd yn ôl ar gyfer gefail oedd cyffordd rhwng dwy o ffyrdd pwysicaf y fro. Yn nogfennau Cyfrifiad 1841, sonnir am "Berth" yn lle Tyddyn-y-berth, a "Rhefal". Owen Williams, gof 28 oed, oedd yn byw yn yr Efail, ond roedd o'n ffarmio hefyd. Yn y Berth, roedd William Roberts, ffermwr 69 oed, yn byw; a hefyd yn y Berth, roedd Owen Williams (arall), ffermwr 30 oed. Rhwng yr Efail a'r Berth y pryd hynny safai tŷ tyrpeg, "Turnpike Berth", lle roedd Catherine Williams, 44 oed, yn byw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau