|
|
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) |
Llinell 1: |
Llinell 1: |
| Tafarn ar groesffordd pentref [[Y Groeslon]] oedd y '''Grugan Arms'' a safai ar dir hen ystad Grugan Wen, gyferbyn â thafarn arall, [[Tafarn Llanfair Arms]].. Cafwyd trwydded, meddir, ym 1862. Rywbryd cyn 1880, cododd adeilad mawr newydd gan Thomas Parry, a ddisgrifiwyd mewn catalog arwerthiant fel "gwesty moethus", gyda deg ystafell, yn cynnwys dwy ystafell ar gyfer cwsmeriaid. Dichon y byddai'r rheiny'n cael eu defnyddio gan bobl megis gwerthwyr masnachol a ddaeth i'r fro ar eu hynt, gan gyrraedd yr [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf]] gerllaw. Roedd yno hjefyd seler gyda digon o le i 50 o gasgenni. Dyma oedd ail westy Thomas Parry, gan ei fod eisoes wedi codi [[Gwesty Bae Caernarfon]] yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]].
| | #ail-cyfeirio [[Gwesty'r Grugan Arms]] |
| | |
| Erbyn 1889, rhyw C.E. Jones, Caernarfon, oedd y perchennog a Mr a Mrs John E. Jones yn denantiaid. Erbyn 1900 John a Mary Ellen Parry oedd yn byw yno, ond yn fuan wedyn prynwyd y lle gan Rowland J. Thomas, postfeistr a pherchennog siop ddillad yn y pentref, ac yn defnyddio'r adeilad fel storfa ddefnyddiau a gweithdy gwnïo er i'r hen ddodrefn tafarn ac ati aros yno mor ddiweddar â 1911. Trowyd yr adeilad yn gartref wedyn gyda'r enw Rhianfa a bu'r sawl atrigai yno'n cadw siop deunyddiau addurno am gyfnod; erbyn y 1960au, roedd yr adeilad wedi ei addasu'n fflatiau a tua 1972 fe'i dymchwelwyd er mwyn lledfu'r ffordd fawr.<ref>‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), t.64</ref>
| |
| | |
| ==Cyfeiriadau==
| |
| {cyfeiriadau}
| |
| | |
| [[Categori:Tafarndai]]
| |
| [[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
| |