Gwesty'r Grugan Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Codwyd '''Gwesty'r Grugan Arms''' yn [[Y Groeslon]] ychydig tua 1880 gan un Thomas Parry, ond ymddengys fod tafarn o ryw fath ar y safle ers o leiaf 1862. Safai ar gornel ar waelod allt y Groeslon rhwng y lôn fawr a'r [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf]] a gyferbyn â [[Thafarn Pen Nionyn|Thafarn y Llanfair Arms]].
Tafarn ar groesffordd pentref [[Y Groeslon]] oedd y '''Grugan Arms''' a safai ar dir hen ystad Grugan Wen, gyferbyn â thafarn arall, [[Tafarn y Llanfair Arms]], neu'r "Pen-nionyn". Cafwyd trwydded, meddir, ym 1862. Codwyd '''Gwesty'r Grugan Arms''' ychydig cyn tua 1880 gan Thomas Parry, Grugan Wen, ar y safle. Safai ar gornel ar waelod allt y Groeslon rhwng y lôn fawr a'r [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf]].  


Roedd yno ddeg o ystafelloedd i gyd a dwy ystafell wely ar gyfer cwsmeriaid, ynghyd â iard, adeiladau allan a seler oedd yn gallu dal 50 o gasgenni. Roedd Thomas Parry yn ddyn busnes llewyrchus yn y Groeslon ac eisoes wedi codi [[Gwesty'r Caernarfon Bay]] yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]]. Ar ôl codi'r gwesty, fodd bynnag, fe'i gwerthwyd ym 1889 i ddyn o'r enw C.E. Jones o Gaernarfon; y tenantiaid oedd John E. Jones a'i wraig - er i John E. Jones hefyd weithio yn y chwarel.
Roedd yno ddeg o ystafelloedd i gyd a dwy ystafell wely ar gyfer cwsmeriaid, ynghyd â iard, adeiladau allan a seler oedd yn gallu dal 50 o gasgenni. Fe'i disgrifiwyd mewn catalog arwerthiant fel "gwesty moethus". Dichon y byddai'r gwesty'n cael ei defnyddio gan bobl megis gwerthwyr masnachol a ddaeth i'r fro ar eu hynt, gan gyrraedd orsaf gerllaw.


Nid yw'n sicr pryd gorffennodd yr adeilad weithredu fel tafarn. Erbyn 1900 John Parry a'i wraig oedd yn byw yno. Wedyn prynwyd y lle gan Rowland J. Thomas oedd yn cadw'r post a Siop Ddillad ar y sgwar ar waelod yr allt. Bu'n defnyddio'r lle ar gyfer cadw dillad ac i gael lle i boblwnïo am dipyn. Pan aeth Kate, gwraig Mr Jabez Williams wedyn, i weini yno ym 1911, roedd meinciau a dodrefn y dafarn yn dal yno.Yn ddiweddarach bu'n gartref i'r teulu ac fe newidiwyd yr enw i Rhianfa. Bu yno siop gwerthu papur papuro a phaent am gyfnod byr. Yn y chwedegau fe'i trowyd yn fflatiau cyn ei dynnu i lawr yn y saithdegau er mwyn lledu'r ffordd.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.64</ref> Yn ddiweddar gosodwyd mainc fetel goch lle arferai'r Grugan Arms sefyll.
Dyma oedd ail westy Thomas Parry, gan ei fod eisoes wedi codi [[Gwesty Bae Caernarfon]] yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]].  Roedd Thomas Parry yn ddyn busnes llewyrchus yn y Groeslon ac eisoes wedi codi [[Gwesty'r Caernarfon Bay]] yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]]. Ar ôl codi'r gwesty, fodd bynnag, fe'i gwerthwyd ym 1889 i ddyn o'r enw C.E. Jones o Gaernarfon; y tenantiaid oedd John E. Jones a'i wraig - er i John E. Jones hefyd weithio yn y chwarel.
 
Nid yw'n sicr pryd y gorffennodd yr adeilad weithredu fel tafarn. Erbyn 1900 John Parry a'i wraig oedd yn byw yno. Wedyn prynwyd y lle gan Rowland J. Thomas oedd yn cadw'r post a Siop Ddillad ar y sgwar ar waelod yr allt. Bu'n defnyddio'r lle ar gyfer cadw dillad ac i gael lle i bobl wnïo am dipyn. Pan aeth Kate, gwraig Mr Jabez Williams wedyn, i weini yno ym 1911, roedd meinciau a dodrefn y dafarn yn dal yno.Yn ddiweddarach bu'n gartref i'r teulu ac fe newidiwyd yr enw i Rhianfa. Bu yno siop gwerthu papur papuro a phaent am gyfnod byr. Yn y chwedegau fe'i trowyd yn fflatiau cyn ei dynnu i lawr yn y saithdegau er mwyn lledu'r ffordd.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.64</ref> Yn ddiweddar gosodwyd mainc fetel goch lle arferai'r Grugan Arms sefyll.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 9: Llinell 11:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Tafarnau]]
[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Busnes a masnach]]
[[Categori:Siopau]]
[[Categori:Siopydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:02, 20 Ionawr 2023

Tafarn ar groesffordd pentref Y Groeslon oedd y Grugan Arms a safai ar dir hen ystad Grugan Wen, gyferbyn â thafarn arall, Tafarn y Llanfair Arms, neu'r "Pen-nionyn". Cafwyd trwydded, meddir, ym 1862. Codwyd Gwesty'r Grugan Arms ychydig cyn tua 1880 gan Thomas Parry, Grugan Wen, ar y safle. Safai ar gornel ar waelod allt y Groeslon rhwng y lôn fawr a'r orsaf.

Roedd yno ddeg o ystafelloedd i gyd a dwy ystafell wely ar gyfer cwsmeriaid, ynghyd â iard, adeiladau allan a seler oedd yn gallu dal 50 o gasgenni. Fe'i disgrifiwyd mewn catalog arwerthiant fel "gwesty moethus". Dichon y byddai'r gwesty'n cael ei defnyddio gan bobl megis gwerthwyr masnachol a ddaeth i'r fro ar eu hynt, gan gyrraedd orsaf gerllaw.

Dyma oedd ail westy Thomas Parry, gan ei fod eisoes wedi codi Gwesty Bae Caernarfon yn Ninas Dinlle. Roedd Thomas Parry yn ddyn busnes llewyrchus yn y Groeslon ac eisoes wedi codi Gwesty'r Caernarfon Bay yn Ninas Dinlle. Ar ôl codi'r gwesty, fodd bynnag, fe'i gwerthwyd ym 1889 i ddyn o'r enw C.E. Jones o Gaernarfon; y tenantiaid oedd John E. Jones a'i wraig - er i John E. Jones hefyd weithio yn y chwarel.

Nid yw'n sicr pryd y gorffennodd yr adeilad weithredu fel tafarn. Erbyn 1900 John Parry a'i wraig oedd yn byw yno. Wedyn prynwyd y lle gan Rowland J. Thomas oedd yn cadw'r post a Siop Ddillad ar y sgwar ar waelod yr allt. Bu'n defnyddio'r lle ar gyfer cadw dillad ac i gael lle i bobl wnïo am dipyn. Pan aeth Kate, gwraig Mr Jabez Williams wedyn, i weini yno ym 1911, roedd meinciau a dodrefn y dafarn yn dal yno.Yn ddiweddarach bu'n gartref i'r teulu ac fe newidiwyd yr enw i Rhianfa. Bu yno siop gwerthu papur papuro a phaent am gyfnod byr. Yn y chwedegau fe'i trowyd yn fflatiau cyn ei dynnu i lawr yn y saithdegau er mwyn lledu'r ffordd.[1] Yn ddiweddar gosodwyd mainc fetel goch lle arferai'r Grugan Arms sefyll.

Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.64