John Evan Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''John Evan Thomas''' (1884-1941) yn athro a llenor. Fe'i ganed ym Mhen-y-groes ym Mehefin 1884. Bu'n fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor ac ef...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:56, 31 Rhagfyr 2022

Roedd John Evan Thomas (1884-1941) yn athro a llenor.

Fe'i ganed ym Mhen-y-groes ym Mehefin 1884. Bu'n fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor ac ef oedd golygydd cylchgawn y coleg, The Normalite 1909-10. Ar ôl gweithio fel athro mewn gwahanol ysgolion daeth yn brifathro ysgol gynradd Penmachno. Roedd hefyd yn athro dosbarthiadau nos i oedolion. Ef oedd awdur adroddiad gan athrawon Sir Gaernarfon i'r Pwyllgor Adrannol ar Addysg Wledig yng Nghymru. Roedd yn ogystal yn un o sefydlwyr Cyngor Llafur Gogledd Cymru, 1914-19, a gwasanaethodd fel ei drysorydd.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1921, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon (lle'r enillodd Cynan y goron am y bryddest nodedig "Mab y Bwthyn), enillodd John Evan Thomas y wobr am chwe thelyneg. Cyfrannodd ysgrifau a chaniadau hefyd i gylchgronau megis Cymru, Y Winllan, Y Deyrnas ac Y Dinesydd Cymreig.

Bu farw Ddydd Calan 1941.[1]

Cyfeiriadau

1. Seiliwyd ar wybodaeth yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950, (Llundain, 1970), t.56.