Capel Salem (B), Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Salem (B), Tal-y-sarn 2018.JPG|bawd|300px|de|Capel Salem ym 2018]]
[[Delwedd:Salem (B), Tal-y-sarn 2018.JPG|bawd|300px|de|Capel Salem ym 2018]]


Addoldy'r Bedyddwyr oedd Capel Salem a safai ar brif lôn y pentref, nid nepell o'r [[Capel Tal-y-sarn (MC)|Capel Mawr]] a gyferbyn â'r [[Capel Moriah (W), Tal-y-sarn|Capel Wesla]] - ger gefnu hefyd ar Stryd Cavour a [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Chapel Seion yr Annibynwyr]].
Addoldy'r Bedyddwyr oedd Capel Salem a safai ar brif lôn y pentref, nid nepell o'r [[Capel Tal-y-sarn (MC)|Capel Mawr]] a gyferbyn â'r [[Capel Moriah (W), Tal-y-sarn|Capel Wesla]] - gan gefnu hefyd ar Stryd Cavour a [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Chapel Seion yr Annibynwyr]].
 
Wedi i'r hen gapel fynd yn annigonol ac yn rhy fach ar ôl tua 20 mlynedd, aethpwyd ati i godi capel newydd ym 1884. Ceir yr hanes yn ''Seren Cymru'':
AGORIAD Y CAPEL NEWYDD.—Bu y Bedyddwyr yn y lle hwn yn llafurio dan anfanteision mawrion yn ystod y blynyddoedd diweddaf, gan fod yr hen gapel wedi myned yn hynod o ddiaddurn, ac yn rhy fychan i allu dal y gynnulleidfa arferol, a phan gynhelid cyrddau neillduol, byddai yn rhaid ymneillduo i'r Assembly Rooms, er mwyn cael digon o le, &c. Ond diolch lawer, ni raid gwneyd hyn etto, gan fod genym yn awr gapel yn mesur 56 wrth 41 troedfedd, wedi ei adeiladu ar y llecyn goreu yn y lle, ac wedi ei orphen yn y modd goreu, fel y mae yn un o'r, os nad yr, harddaf o'r holl gapeli fedd y Bedyddwyr yn Ngogledd Cymru. Ei werth, rhwng y tir a'r adeiladu, yw £ 1,250. Leasehold o 99 ml. ydyw. Y mae symiau ardderchog wedi eu casglu gan yr eglwys. Nid peth cyffredin ydyw gweled gweithwyr tlodion yn gyfranwyr o £5 ac uchod; ond y mae yma amryw wedi gwneyd hyny. Cynnorthwywyd ni yn garedig gan W. Rathbone, A.S.; yr Henadur R. Cory, Caerdydd; R. Williams, Ysw., Caergybi; D. Davies, Ysw., Merthyr; [[John Robinson|J. Robinson]], Ysw., [[Tal-y-sarn]]; a Mrs Elias Jones, Llandudno, drwy gyfraniadau o £10 ac isod, am yr hyn y teimlwn yn wir ddiolchgar. Gwnaeth y pwyllgor gweithiol eu gwaith yn rhagorol, ac yn neillduol y gweinidog (y cadeirydd); W. Lewis, ysgrifenydd; R. Williams, trysorydd; ac [[Ioan Eifion]] ddoniol, fel chwilotwr am arian. Bu [[Ezekiel Hughes, Tal-y-sarn|Ezekiel Hughes]] yn ddyfal gasglu ato a Wm. Edwards a Thomas Williams yn ofalus superintendio y gwaith. Cawd cyrddau agoriadol rhagorol ar yr 8fed, 9fed, a'r 10fed o Awst, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. [[Robert Jones, Llanllyfni|R. Jones, Llanllyfni]]; A. J. Parry, Abertawe; O. Davies, Caernarfon; J. Thomas, Pwllheli; C. Davies, Liverpool; ac E. T. Jones, Blaenywaen. Da genym hysbysu fod y gynnulleidfa yn cynnyddu, yr ysgol wedi agos dyblu mewn rhif — y mae genym ar y llyfrau yn awr tuag wyth ugain. Diammheu fod i Fedyddwyr Talysarn ddyfodol dysglaer a gogoneddus. Nid yw yr achos yma ond rhyw ugain oed. O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni. Llwydd mawr fyddo ar y gwir-onedd yn y dyffryn drwyddo.<ref>''Seren Cymru'', 19.9.1884, t.2</ref> 


Ar ôl iddo gau, fe adnewyddwyd gan ei drosi'n weithdai i'r pentref dan nawdd [[Antur Nantlle]].
Ar ôl iddo gau, fe adnewyddwyd gan ei drosi'n weithdai i'r pentref dan nawdd [[Antur Nantlle]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:04, 30 Tachwedd 2022

Capel Salem ym 2018

Addoldy'r Bedyddwyr oedd Capel Salem a safai ar brif lôn y pentref, nid nepell o'r Capel Mawr a gyferbyn â'r Capel Wesla - gan gefnu hefyd ar Stryd Cavour a Chapel Seion yr Annibynwyr.

Wedi i'r hen gapel fynd yn annigonol ac yn rhy fach ar ôl tua 20 mlynedd, aethpwyd ati i godi capel newydd ym 1884. Ceir yr hanes yn Seren Cymru:

AGORIAD Y CAPEL NEWYDD.—Bu y Bedyddwyr yn y lle hwn yn llafurio dan anfanteision mawrion yn ystod y blynyddoedd diweddaf, gan fod yr hen gapel wedi myned yn hynod o ddiaddurn, ac yn rhy fychan i allu dal y gynnulleidfa arferol, a phan gynhelid cyrddau neillduol, byddai yn rhaid ymneillduo i'r Assembly Rooms, er mwyn cael digon o le, &c. Ond diolch lawer, ni raid gwneyd hyn etto, gan fod genym yn awr gapel yn mesur 56 wrth 41 troedfedd, wedi ei adeiladu ar y llecyn goreu yn y lle, ac wedi ei orphen yn y modd goreu, fel y mae yn un o'r, os nad yr, harddaf o'r holl gapeli fedd y Bedyddwyr yn Ngogledd Cymru. Ei werth, rhwng y tir a'r adeiladu, yw £ 1,250. Leasehold o 99 ml. ydyw. Y mae symiau ardderchog wedi eu casglu gan yr eglwys. Nid peth cyffredin ydyw gweled gweithwyr tlodion yn gyfranwyr o £5 ac uchod; ond y mae yma amryw wedi gwneyd hyny. Cynnorthwywyd ni yn garedig gan W. Rathbone, A.S.; yr Henadur R. Cory, Caerdydd; R. Williams, Ysw., Caergybi; D. Davies, Ysw., Merthyr; J. Robinson, Ysw., Tal-y-sarn; a Mrs Elias Jones, Llandudno, drwy gyfraniadau o £10 ac isod, am yr hyn y teimlwn yn wir ddiolchgar. Gwnaeth y pwyllgor gweithiol eu gwaith yn rhagorol, ac yn neillduol y gweinidog (y cadeirydd); W. Lewis, ysgrifenydd; R. Williams, trysorydd; ac Ioan Eifion ddoniol, fel chwilotwr am arian. Bu Ezekiel Hughes yn ddyfal gasglu ato a Wm. Edwards a Thomas Williams yn ofalus superintendio y gwaith. Cawd cyrddau agoriadol rhagorol ar yr 8fed, 9fed, a'r 10fed o Awst, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. R. Jones, Llanllyfni; A. J. Parry, Abertawe; O. Davies, Caernarfon; J. Thomas, Pwllheli; C. Davies, Liverpool; ac E. T. Jones, Blaenywaen. Da genym hysbysu fod y gynnulleidfa yn cynnyddu, yr ysgol wedi agos dyblu mewn rhif — y mae genym ar y llyfrau yn awr tuag wyth ugain. Diammheu fod i Fedyddwyr Talysarn ddyfodol dysglaer a gogoneddus. Nid yw yr achos yma ond rhyw ugain oed. O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni. Llwydd mawr fyddo ar y gwir-onedd yn y dyffryn drwyddo.[1]  

Ar ôl iddo gau, fe adnewyddwyd gan ei drosi'n weithdai i'r pentref dan nawdd Antur Nantlle.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Seren Cymru, 19.9.1884, t.2