William T. Sarah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''William Thomas Sarah''', brawd y gantores enwog Mary King Sarah ym 1876. Gweithiai'n ddyn ifanc fel gyrrwr injan cynorthwyol yn y chwarel -...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:36, 28 Tachwedd 2022

Ganwyd William Thomas Sarah, brawd y gantores enwog Mary King Sarah ym 1876. Gweithiai'n ddyn ifanc fel gyrrwr injan cynorthwyol yn y chwarel - ei dad oedd yn gyrru injan sefydlog (efallai'r injan drawst Gernywaidd). Roedd yn aelod o deulu hynod o gerddorol - ei dad, Thomas Edwin Sarah yn arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle a'i fam yn gantores, sef Sarah Sarah (Seren Aerau). Roedd William T. Sarah'n drombonydd o fri, ac yn arweinydd ar Fand Moeltryfan.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau