Mary Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mary Glynn''' (1633-1676) oedd etifeddes ystad Lleuar. Merch hynaf William Glynn, Lleuar (1613-1660) a'i wraig Jane Bryncir ydoedd. Roedd y teulu...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:58, 28 Tachwedd 2022
Mary Glynn (1633-1676) oedd etifeddes ystad Lleuar. Merch hynaf William Glynn, Lleuar (1613-1660) a'i wraig Jane Bryncir ydoedd.
Roedd y teulu o dueddfryd wrth-frenhinol, gan gefnogi'r Senedd yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig (1642-8), ac nid oedd yn syndod felly pan briododd George Twisleton, milwr yn llu'r Senedd a hanai o lannau Humber yn Swydd Efrog. Bu teulu Twisleton yn berchen ar Lleuar am bron i ganrif nes i'r Capten William Ridsdale (marw 1743), gŵr Mary Twisleton, gor-wyres Mary Glynn, werthu'r hyn oedd ar ôl o Ystad Lleuar i Syr John Wynn, Glynllifon.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma