Gwylwyr y Glannau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|de|300px|Cwt Gwylwyr y Glannau, Llandwrog Mae gan '''Gwylwyr...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:32, 20 Tachwedd 2022

Cwt Gwylwyr y Glannau, Llandwrog

Mae gan Gwylwyr y Glannau ddwy safle ym mhlwyf Llandwrog sydd yn gwasanaethu holl arfordir Uwchgwyrfai (lle mae'r Gwylwyr y Glannau traddodiadol yn y cwestiwn), a thros rhan helaeth o orllewin ynys Prydain a Môr Iwerddon gyda hofrenyddion. Daw'r gweithgareddau o dan swyddfa ranbarthol Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ( a elwir yn Ganolfan Gydgysylltu Achub Morwrol).

Sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol ym Mhrydain ym 1822. I ddechrau, canolbwyntiwyd ar atal smyglwyr a sicrhau na fyddai pobl yn osgoi talu tollau, ond o'r 1850au ymlaen cryfhaodd y gwaith o achub bywydau.

Credir mai yn ystod yr ail ryfel byd y sefydlwyd gorsaf bresennol Gwylwyr y Glannau yn Llandwrog, mewn cysylltiad â gweithgareddau ym Maes Awyr Caernarfon, neu "R.A.F. Llandwrog" fel y'i gelwid yr adeg honno. O'r adeg honno ymlaen, defnyddid cwt y gwylwyr y drws nesaf i'r dafarn yn y pentref, a hynny hyd heddiw. Gwirfoddolwyr yw'r holl aelodau o dîm Gwylwyr y Glannau Llandwrog.

Ers 2015, mae Gwasanaeth Achub Môr ac Awyr wedi ymsefydlu mewn adeilad mawr newydd ym Maes Awyr Caernarfon, pan gymerodd contractwyr, sef Cwmni Hofrenyddion Bristow, y gwaith drosodd o'r Llu Awyr yn y Fali. Gwasanaeth hollol broffesiynol yw hwn, yn hollol ar wahân i orsaf gwirfoddolwyr Llandwrog.[1]

{{eginyn}{}

Cyfeiriadau

  1. Wikipedia, erthygl ar H.M. Coastguard, [1], cyrchwyd 20.11.2022