Ponc Rundell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Ponc Rundell''' neu "Rundell's Gallery" yn un o'r cloddfeydd cynnar ar dir fferm Tal-y-sarn a werthwyd ym 1827 i gwmni o ofaint aur o Lundain...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:15, 19 Tachwedd 2022
Roedd Ponc Rundell neu "Rundell's Gallery" yn un o'r cloddfeydd cynnar ar dir fferm Tal-y-sarn a werthwyd ym 1827 i gwmni o ofaint aur o Lundain, Rundell a Bridge. Mae'n amlwg mai o enw'r cwmni hwnnw y daeth enw'r bonc.Roedd ym mhen mwyaf gorllewinol tir fferm Tal-y-sarn (sef ychydig i'r dwyrain o bentref Tal-y-sarn heddiw. Erbyn 1858, roedd hi'n dwll 170 llath o hyd, 50-70 o led a 65 llath o ddyfnder, yn cynnwys tair lefel. Yr awgrym ym 1858 oedd y gellid torri trwodd i Chwarel Onnen, ac o wneud hynny, byddai modd gosod 60 bargen ym Mhonc Rundell.[1]
Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr Chwarel Tal-y-sarn - hynny, mae'n debyg, ar ôl 1873.