Glynn Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd y Cyrnol '''Glynn Wynn'', AS (?1739-1793) yn bedwerydd mab [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ond dim ond yr ail fab i'w basio'r bedair oed, dau frawd hyn yn marw'n blant bach. Ar 11 Ionawr 1766, fe briododd Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Fe wanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781. Bu i'r cwpl bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); [[Thomas Wynn Belasyse|Thomas Edward Glynn]] (a ychwanegodd cyfenw ''Belasyse'' wrth briodi Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd John, 4ydd Iarll Egmont. <ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.173</ref>
Roedd y Cyrnol '''Glynn Wynn''', AS (?1739-1793) yn frawd iau i [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ac yn fab i [[Syr John Wynn]], yr 2il Farwnig. Gwasanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781.  


Bu'n filwr proffesiynol 1755-1773. Daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd gweinyddol a ddaeth a chyflog eithaf dda iddo, o 1762 hyd ei farwolaeth, ac efallai roedd wedi camu'n ôl o wasanaeth llawn amser yn y fyddin am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad, artfer cyffredin yn yr 18g.
Ar 11 Ionawr 1766, priododd â Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Cafodd y ddau bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); [[Thomas Wynn Belasyse|Thomas Edward Glynn]] (a ychwanegodd y cyfenw ''Belasyse'' wrth briodi â Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd ag Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd â John, 4ydd Iarll Egmont sef ŵyr tad-yng-nghyfraith ei hewythr - roedd gwraig ei hewythr Syr Thomas yn ferch i'r 2il Iarll.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.173</ref>


Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd teuluoedd Paget a Bulkeley yn ei gefnogi neu ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, fe wnaeth y ddau deulu hyn gamu'n ôl o'i wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Roedd Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Dyna oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd; chafodd yr un Wnn o Lynllifon ei ethol wedyn. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1754-1790/member/wynn-glyn-1739-93], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid mewn cyfeiriad gwleidyddol a wnaeth yn yr ethygl.</ref>
Bu Glynn Wynn yn filwr proffesiynol rhwng 1755 a 1773. O 1762 hyd ei farwolaeth daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd weinyddol a ddaeth â chyflog eithaf dda iddo. Efallai ei fod wedi ymneilltuo o wasanaeth llawn-amser yn y fyddin ers blynyddoedd cyn ei ymddeoliad, arfer cyffredin yn y 18g.
 
Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd y ddau deulu dylanwadol o Fôn, sef teuluoedd Paget (Plas Newydd) a Bulkeley (Baron Hill) yn ei gefnogi neu'n ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, ni wnaeth y ddau deulu hyn ei wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Bu Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglwydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1754-1790/member/wynn-glyn-1739-93], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl yn yr erthygl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid a wnaeth o ran cyfeiriad gwleidyddol.</ref> Etholiad 1790 oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd am dros 35 o flynyddoedd, er gwaethaf ymdrechion ei frawd Thomas Wynn Belasyse i gael ei fabwysiadu fel yr aelod dros Fiwmares yn yr 1800au cynnar. Cafodd ei nai [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]] wasanaethu am bedair blynedd fel aelod seneddol y Bwrdeistrefi o 1826-1830, ond o hynny ymlaen canolbwyntiodd y teulu ar eu pleserau, eu hystadau a materion lleol.


Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref>   
Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref>   

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:44, 13 Tachwedd 2022

Roedd y Cyrnol Glynn Wynn, AS (?1739-1793) yn frawd iau i Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, ac yn fab i Syr John Wynn, yr 2il Farwnig. Gwasanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781.

Ar 11 Ionawr 1766, priododd â Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Cafodd y ddau bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); Thomas Edward Glynn (a ychwanegodd y cyfenw Belasyse wrth briodi â Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd ag Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd â John, 4ydd Iarll Egmont sef ŵyr tad-yng-nghyfraith ei hewythr - roedd gwraig ei hewythr Syr Thomas yn ferch i'r 2il Iarll.[1]

Bu Glynn Wynn yn filwr proffesiynol rhwng 1755 a 1773. O 1762 hyd ei farwolaeth daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd weinyddol a ddaeth â chyflog eithaf dda iddo. Efallai ei fod wedi ymneilltuo o wasanaeth llawn-amser yn y fyddin ers blynyddoedd cyn ei ymddeoliad, arfer cyffredin yn y 18g.

Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd y ddau deulu dylanwadol o Fôn, sef teuluoedd Paget (Plas Newydd) a Bulkeley (Baron Hill) yn ei gefnogi neu'n ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, ni wnaeth y ddau deulu hyn ei wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Bu Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglwydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.[2] Etholiad 1790 oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd am dros 35 o flynyddoedd, er gwaethaf ymdrechion ei frawd Thomas Wynn Belasyse i gael ei fabwysiadu fel yr aelod dros Fiwmares yn yr 1800au cynnar. Cafodd ei nai Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough wasanaethu am bedair blynedd fel aelod seneddol y Bwrdeistrefi o 1826-1830, ond o hynny ymlaen canolbwyntiodd y teulu ar eu pleserau, eu hystadau a materion lleol.

Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.[3]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.173
  2. ‘’History of Parliament’’ [1], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl yn yr erthygl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid a wnaeth o ran cyfeiriad gwleidyddol.
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.