Ellis Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ychydig iawn sydd yn wybyddus am '''Ellis Thomas''' (1781-?1856), ysgolfeistr ysgol breifat a gynhelid yng nghapel Capel Pisgah (A), Carmel|Pisgah, Carm...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:28, 6 Tachwedd 2022
Ychydig iawn sydd yn wybyddus am Ellis Thomas (1781-?1856), ysgolfeistr ysgol breifat a gynhelid yng nghapel Pisgah, Carmel yn ystod yr 1840au. Roedd yn ŵr o blwyf Llandwrog, gyda gwraig o'r enw Martha (g.1777), a hanai o blwyf Llandygái. Roeddynt yn byw yn Nhan-y-braich ym 1841, ond erbyn 1851 roeddynt wedi symud i gadw'r tŷ capel ym Mhisgah, ac yn y tŷ y cynhelid yr ysgol am rai blynyddoedd. Fe'i disgrifir yn y Cyfrifiad fel athro wedi ymddeol.[1]
Ceir disgrifiad H. Menander Jones o'r ysgol yn Y Geninen. Dichon mai John J. Evans, Pencarmel, a aeth ymlaen i fod yn rheolwr Chwarel Dorothea, oedd disgybl mwyaf llwyddiannus yr ysgol.[2] Mae'r disgrifiad ar gael Ysgol Elis Tomos.