Evan Lloyd Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mab i'r chwarelwr, y bardd a'r diacon Evan Jones (Ieuan Nebo) oedd '''Evan Lloyd Jones''' (g.1885). Brodor o Nebo ac yn un o blant Capel Nebo (...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:33, 20 Hydref 2022

Mab i'r chwarelwr, y bardd a'r diacon Evan Jones (Ieuan Nebo) oedd Evan Lloyd Jones (g.1885). Brodor o Nebo ac yn un o blant Capel Nebo (MC) ydoedd. Ar ôl derbyn addysg elfennol a chanolradd, cafodd swydd fel athro cynorthwyol yn Ysgol Nebo, gan anelu at fynd i'r brifysgol. cafodd yr enw o fod yn fachgen o ymarweddiad hardd, ac o grefyddolder dwys bob amser, er na fuodd o'n cymryd rhan amlwg yn gymdeithasol nes i Ddiwygiad 1904 dorri allan yn yr ardal. Yn fuan wedyn, fodd bynnag, dechreuodd arwain yr holl gyfarfodydd diwygiadol yn Nebo,ynghyd â sawl un mewn mannau eraill, fel pe bai wedi cael oes o brofiad. Cafodd Evan Lloyd ei ddisgrifio fel "the young Nantlle revivalist" ac yn "arweinydd ieuenctid De Sir Gaernarfon".[1] Fe'i ystyriwyd fel arweinydd holl ieuenctid de Sir Gaernarfon ym mudiad y Diwygiad, Fe deithiodd ymhell hefyd i gefnogi'r Diwygiwr mawr Evan Roberts. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cardiff Times, 14.1.1905, t.8
  2. Y Negesydd 19.1.1905 t.3