G. Geraint Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed y bardd '''G. Geraint Owen''' 1858-ar ôl 1888) yng [[Clynnog-fawr|Nghlynnog]] tua 1858. Mae'n bosibl mai mab Griffith Owen, Tŷ Gwyn, [[Tai'n Lôn]] ydoedd, er na ellir bod yn sicr o hyn; yr un modd, efallai mai ef yw'r William (neu Gwilym) G. Owen a weithiai fel gwas ar fferm yr Ynys, ym mhlwyf Clynnog ym 1871 yn 13 oed, ond mae'n debycach mai William G. Owen a aeth yn weinidog y Bedyddwyr yng Nghorwen a Rhuthun yw hwnnw. Erbyn 1881, roedd yn gweithio fel chwarelwr llechi, gan fyw yn Nhŷ Capel, [[Carmel]] fel lodjer, lle nodir ei enw fel Griffith G. Owen. Ni chafwyd hyd iddo ar gofnod y Cyfrifiad ym 1891.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1861-71; Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1881-91</ref> | |||
Fe'i rhestrwyd yn seithfed o ran | Fe'i rhestrwyd yn seithfed o ran rhagoriaeth allan o 18 bardd Dyffryn Nantlle ym 1888.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref> Ni lwyddwyd i ddod o hyd i fwy nag un o'i gerddi, telyneg ddigon swynol a argraffwyd yn ''Athrofa'r Plant'', cylchgrawn byrhoedlog, ym 1881.<ref>''Athrofa y Plant'', rhif 2, Mai 1881, t.23</ref> Dyma'r pennill cyntaf: | ||
:::Yng nghanol myrdd o swynion | :::Yng nghanol myrdd o swynion | ||
:::Daeth Mai a'i hir-ddydd braf, | :::Daeth Mai a'i hir-ddydd braf, | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
:::I wledda ar fwynhad. | :::I wledda ar fwynhad. | ||
Roedd ymysg beirdd gwlad Dyffryn Nantlle yn y 1880au. Er | Roedd ymysg beirdd gwlad Dyffryn Nantlle yn y 1880au. Er enghraifft, ar achlysur anrhegu'r Parch. John M. Jones fis Mai 1884, cafwyd "anerchiadau barddonol" gan [[William John Davies (Glan Llyfnwy)]] ac [[Evan Jones (Ieuan Nebo)]] yn [[Nebo]].<ref>''Y Genedl Gymreig'', 14.5.1884, t.8</ref> | ||
Er chwilio mewn amryw o | Er chwilio mewn amryw o fynegeion, anodd oedd dod o hyd i fanylion am y bardd hwn, ac nid oes sicrwydd o gwbl ynglŷn â'i dynged ar ôl 1888. Efallai iddo farw'n ifanc neu iddo symud o'r dyffryn. Nid yw'r chwilota ddim haws gan nad oedd yn arddel ffugenw barddol unigryw hyd y gwyddys, ac nid oes sicrwydd hyd yn oed ai enw mabwysiedig oedd Geraint, nac ychwaith am beth y safai G gyntaf ei enw llawn, sef Griffith neu o bosibl William (Gwilym). | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:00, 20 Hydref 2022
Ganed y bardd G. Geraint Owen 1858-ar ôl 1888) yng Nghlynnog tua 1858. Mae'n bosibl mai mab Griffith Owen, Tŷ Gwyn, Tai'n Lôn ydoedd, er na ellir bod yn sicr o hyn; yr un modd, efallai mai ef yw'r William (neu Gwilym) G. Owen a weithiai fel gwas ar fferm yr Ynys, ym mhlwyf Clynnog ym 1871 yn 13 oed, ond mae'n debycach mai William G. Owen a aeth yn weinidog y Bedyddwyr yng Nghorwen a Rhuthun yw hwnnw. Erbyn 1881, roedd yn gweithio fel chwarelwr llechi, gan fyw yn Nhŷ Capel, Carmel fel lodjer, lle nodir ei enw fel Griffith G. Owen. Ni chafwyd hyd iddo ar gofnod y Cyfrifiad ym 1891.[1]
Fe'i rhestrwyd yn seithfed o ran rhagoriaeth allan o 18 bardd Dyffryn Nantlle ym 1888.[2] Ni lwyddwyd i ddod o hyd i fwy nag un o'i gerddi, telyneg ddigon swynol a argraffwyd yn Athrofa'r Plant, cylchgrawn byrhoedlog, ym 1881.[3] Dyma'r pennill cyntaf:
- Yng nghanol myrdd o swynion
- Daeth Mai a'i hir-ddydd braf,
- Gan arwain gydag urddas
- I'w orsedd dlos, yr Haf;
- Gwahodda'i wên garedig
- Drigolion tref a gwlad
- I ddyfod o'u trigfannau
- I wledda ar fwynhad.
Roedd ymysg beirdd gwlad Dyffryn Nantlle yn y 1880au. Er enghraifft, ar achlysur anrhegu'r Parch. John M. Jones fis Mai 1884, cafwyd "anerchiadau barddonol" gan William John Davies (Glan Llyfnwy) ac Evan Jones (Ieuan Nebo) yn Nebo.[4]
Er chwilio mewn amryw o fynegeion, anodd oedd dod o hyd i fanylion am y bardd hwn, ac nid oes sicrwydd o gwbl ynglŷn â'i dynged ar ôl 1888. Efallai iddo farw'n ifanc neu iddo symud o'r dyffryn. Nid yw'r chwilota ddim haws gan nad oedd yn arddel ffugenw barddol unigryw hyd y gwyddys, ac nid oes sicrwydd hyd yn oed ai enw mabwysiedig oedd Geraint, nac ychwaith am beth y safai G gyntaf ei enw llawn, sef Griffith neu o bosibl William (Gwilym).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma