George Rhydero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd y Parch [[George Rhydero]], (1790-1867) yn weinidog ar [[Capel Drws-y-coed (A)|gapel Drws-y-coed (A)]] rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,<ref>David Edward Pike, Blog Welldigger, [http://daibach-welldigger.blogspot.com/2019/03/the-chapel-that-was-crushed.html] </ref> daeth i ardal [[Dyffryn Nantlle]] ar adeg pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Cyn cymryd gofal ar gapel Drws-y-coed, fodd bynnag, roedd wedi priodi Ann Williams o Landdeiniolen ar 31 Ionawr 1837 yn Llanddeiniolen - er ei fod o ar y pryd yn byw yn Llantrisant. Symudodd i weinidogaethu yn y [[Cilgwyn]] o bosibl, lle roedd [[Capel Cilgwyn (A)]] wedi ei godi ym 1842.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/6906/details/cilgwyn-independent-chapel-cilgwyn-pen-y-groeschurch-of-st-john-the-baptist-and-st-george Cofnod o’r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref> Erbyn 1845, cymerodd awenau wrth adeiladu capel cyntaf [[Capel Gosen (A), Y Groeslon]], er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4</ref> Serch hynny, mae sôn ei fod wedi bod yn ddiflino wrth geisio codi arian i godi'r capel yn [[Rhosnenan]], fel y gelwid [[Y Groeslon]] y pryd hynny. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol i ddysgu darllen a rhifo, gyda Daniel Roberts, Brynengan, yn athro.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.52</ref>
Roedd y Parch [[George Rhydero]], (1790-1866) yn weinidog ar [[Capel Drws-y-coed (A)|gapel Drws-y-coed (A)]] rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,<ref>David Edward Pike, Blog Welldigger, [http://daibach-welldigger.blogspot.com/2019/03/the-chapel-that-was-crushed.html] </ref>, (lle roedd ei deulu, mae'n debyg, yn gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr) daeth i ogledd Cymru rywbryd cyn 1826. Ddiwedd Mawrth y flwyddyn honno, fe ddechreuodd un o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar achlysur agor Capel Bethsaida (A) yn y Bont-newydd. Ceir sôn amdano tua'r un adeg yn cadw ysgol breifat yn Sardis, Bodedern, Môn, pan y'i disgrifir fel "gweinidog o'r enw George Rhydero". Bu i'r enwog bregethwr, Y Parch David Thomas fynychu'r ysgiol dan Rhydero.<ref>''Seren Gomer'', Cyf.11 (Mawrth 1888), t.11</ref> Nid oes sicrwydd pan adawodd Ynys Môn am ardal [[Dyffryn Nantlle]] ond oedd hi'n gyfnod pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Cyn cymryd gofal dros gapel Drws-y-coed, fodd bynnag, roedd wedi priodi ag Ann Williams o Landdeiniolen ar 31 Ionawr 1837 yn Llanddeiniolen - er ei fod o ar y pryd yn byw yn Llantrisant. Fe'i disgrifir yn y gofrestr fel gwr gweddw.<ref>''Adysgrif Priodasau a Gostegion Sir Gaernarfon'', t.30, [https://www.findmypast.co.uk/transcript?id=GBPRS/M/896045301/1]</ref> Mae'n debyg mai ym Mhant-y-cogau, Drws-y-coed, yr oedd y teulu'n byw ym 1841 adeg y Cyfrifiad, pan nodir fod Ann Rhydero yn cadw siop. Roedd dwy ferch yn byw dan yr un to; nid oedd George adref y noson honno gan nad ydy o'n cael ei enwi, ond fe'i cofnodir fel gweinidog anghydffurfiol mewn cyfeiriad yn Amlwch.<ref>Cyfrifiadau Llanllyfni ac Amlwch, 1841.</ref>


Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul [[Capel Moel Tryfan (A)]].<ref>Rees a Thomas, ''op.cit., t.233.</ref> Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.<ref>''Y Dydd'', 17.12.1869</ref>
Symudodd i weinidogaethu yn y [[Cilgwyn]] o bosibl, lle roedd [[Capel Cilgwyn (A)]] wedi ei godi ym 1842.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/6906/details/cilgwyn-independent-chapel-cilgwyn-pen-y-groeschurch-of-st-john-the-baptist-and-st-george Cofnod o’r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref> Erbyn 1845, cymerodd yr awenau wrth adeiladu capel cyntaf [[Capel Gosen (A), Y Groeslon]], er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4</ref> Serch hynny, mae sôn ei fod wedi bod yn ddiflino wrth geisio codi arian i godi'r capel yn [[Rhosnenan]], fel y gelwid [[Y Groeslon]] y pryd hynny. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol i ddysgu darllen a rhifo, gyda Daniel Roberts, Brynengan, yn athro.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.52</ref>


Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn.
Yng Nghyfrifiad 1851, nodir ei fod yn "weinidog i'r annibynwyr", 60 oed, a bod ei wraig saith mlynedd yn hŷn nag ef. Ar y pryd, roedd yn byw yn un o dai Minffordd, nid nepell o Benrhosnenan a Broniwrch, Y Groeslon, dim ond tafliad carreg o'r Gosen gwreiddiol yr oedd wedi gwneud cymaint at ei godi.<ref>Cyfrifiad 1851, Llandwrog.</ref>


{{eginyn}}
Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul [[Capel Hermon (A), Moeltryfan|Moeltryfan (A)]].<ref>Rees a Thomas, ''op.cit., t.233.</ref> Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.<ref>''Y Dydd'', 17.12.1869</ref>
 
Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn, o ble hanai ei wraig yn wreiddiol, cyn dderbyn galwad o Gapel Rhiw ym mhlwyf Llansannan ym 1856. Mae portread  ohono yn ''Y Cronicl''  yn rhoi disgrifiad diddorol ohono fel cymeriad:
Addfwyn, gostyngedig a diolchgar am bob cymwynas, a'i ymddangosiad a'i ymddygiadau bob amser yn foneddigaidd. Yr oedd yn pregethu yn Feiblaidd - er na fedrai dynnu y miloedd ar ei ôl.<ref>''Y Cronicl'', XXIV, rhif 281 (Medi 1866), t.26</ref>
 
Bu farw ar ddechrau 1866 yn Chorlton, Swydd Gaerhirfryn, sef ardal fabwysiedig John y mab.<ref>Adysgrif Marwolaethau Cymru a Lloegr, chwarter 1, 1866</ref>
 
Dichon i'w cyfenw anghyffredin ddod o lurguniad o'r enw Rhydderch - ym 1745, clywyd am Richard Rhydero neu Richard Rhydderch, llyfrwerthwr yng Nghaerfyrddin.
 
Ôl nodyn sydd heb fod yn amherthnasol yw'r ffaith bod chwaer Rhydero, Elizabeth, wedi priodi un o deulu Bagnall, bancwyr yng Nghaerfyrddin. Enwyd eu mab yn George Rhydero Bagnall. Priododd hwnnw Ann Hughes, hithau o Gaerfyrddin. Symudwyd y teulu i Sunderland yn Lloegr yn y man, ac yno y magwyd mab G. Rh. Bagnall, sef Wynn Bagnall, a aeth yn 16 oed i Galgary i weithio fel "rancher".  Fe anrhydeddir Wynn Bagnall (1890-1931) hyd heddiw fel un o arwyr rhyfel pwysicaf y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghanada, wedi iddo ennill medal y Croes Filwrol. Dilynodd yrfa fel cyfrifydd ac ariannwr yng Nghanada ac wedyn yn Efrog Newydd.<ref>Wikipedia, erthygl ar Wynn Bagnall.[https://en.wikipedia.org/wiki/Wynn_Bagnall], cyrchwyd 18.10.2022</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Athrawon]]
[[Categori:Athrawon]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:32, 18 Hydref 2022

Roedd y Parch George Rhydero, (1790-1866) yn weinidog ar gapel Drws-y-coed (A) rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,[1], (lle roedd ei deulu, mae'n debyg, yn gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr) daeth i ogledd Cymru rywbryd cyn 1826. Ddiwedd Mawrth y flwyddyn honno, fe ddechreuodd un o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar achlysur agor Capel Bethsaida (A) yn y Bont-newydd. Ceir sôn amdano tua'r un adeg yn cadw ysgol breifat yn Sardis, Bodedern, Môn, pan y'i disgrifir fel "gweinidog o'r enw George Rhydero". Bu i'r enwog bregethwr, Y Parch David Thomas fynychu'r ysgiol dan Rhydero.[2] Nid oes sicrwydd pan adawodd Ynys Môn am ardal Dyffryn Nantlle ond oedd hi'n gyfnod pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Cyn cymryd gofal dros gapel Drws-y-coed, fodd bynnag, roedd wedi priodi ag Ann Williams o Landdeiniolen ar 31 Ionawr 1837 yn Llanddeiniolen - er ei fod o ar y pryd yn byw yn Llantrisant. Fe'i disgrifir yn y gofrestr fel gwr gweddw.[3] Mae'n debyg mai ym Mhant-y-cogau, Drws-y-coed, yr oedd y teulu'n byw ym 1841 adeg y Cyfrifiad, pan nodir fod Ann Rhydero yn cadw siop. Roedd dwy ferch yn byw dan yr un to; nid oedd George adref y noson honno gan nad ydy o'n cael ei enwi, ond fe'i cofnodir fel gweinidog anghydffurfiol mewn cyfeiriad yn Amlwch.[4]

Symudodd i weinidogaethu yn y Cilgwyn o bosibl, lle roedd Capel Cilgwyn (A) wedi ei godi ym 1842.[5] Erbyn 1845, cymerodd yr awenau wrth adeiladu capel cyntaf Capel Gosen (A), Y Groeslon, er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.[6] Serch hynny, mae sôn ei fod wedi bod yn ddiflino wrth geisio codi arian i godi'r capel yn Rhosnenan, fel y gelwid Y Groeslon y pryd hynny. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol i ddysgu darllen a rhifo, gyda Daniel Roberts, Brynengan, yn athro.[7]

Yng Nghyfrifiad 1851, nodir ei fod yn "weinidog i'r annibynwyr", 60 oed, a bod ei wraig saith mlynedd yn hŷn nag ef. Ar y pryd, roedd yn byw yn un o dai Minffordd, nid nepell o Benrhosnenan a Broniwrch, Y Groeslon, dim ond tafliad carreg o'r Gosen gwreiddiol yr oedd wedi gwneud cymaint at ei godi.[8]

Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul Moeltryfan (A).[9] Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.[10]

Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn, o ble hanai ei wraig yn wreiddiol, cyn dderbyn galwad o Gapel Rhiw ym mhlwyf Llansannan ym 1856. Mae portread ohono yn Y Cronicl yn rhoi disgrifiad diddorol ohono fel cymeriad:

Addfwyn, gostyngedig a diolchgar am bob cymwynas, a'i ymddangosiad a'i ymddygiadau bob amser yn foneddigaidd. Yr oedd yn pregethu yn Feiblaidd - er na fedrai dynnu y miloedd ar ei ôl.[11]

Bu farw ar ddechrau 1866 yn Chorlton, Swydd Gaerhirfryn, sef ardal fabwysiedig John y mab.[12]

Dichon i'w cyfenw anghyffredin ddod o lurguniad o'r enw Rhydderch - ym 1745, clywyd am Richard Rhydero neu Richard Rhydderch, llyfrwerthwr yng Nghaerfyrddin.

Ôl nodyn sydd heb fod yn amherthnasol yw'r ffaith bod chwaer Rhydero, Elizabeth, wedi priodi un o deulu Bagnall, bancwyr yng Nghaerfyrddin. Enwyd eu mab yn George Rhydero Bagnall. Priododd hwnnw Ann Hughes, hithau o Gaerfyrddin. Symudwyd y teulu i Sunderland yn Lloegr yn y man, ac yno y magwyd mab G. Rh. Bagnall, sef Wynn Bagnall, a aeth yn 16 oed i Galgary i weithio fel "rancher". Fe anrhydeddir Wynn Bagnall (1890-1931) hyd heddiw fel un o arwyr rhyfel pwysicaf y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghanada, wedi iddo ennill medal y Croes Filwrol. Dilynodd yrfa fel cyfrifydd ac ariannwr yng Nghanada ac wedyn yn Efrog Newydd.[13]

Cyfeiriadau

  1. David Edward Pike, Blog Welldigger, [1]
  2. Seren Gomer, Cyf.11 (Mawrth 1888), t.11
  3. Adysgrif Priodasau a Gostegion Sir Gaernarfon, t.30, [2]
  4. Cyfrifiadau Llanllyfni ac Amlwch, 1841.
  5. Cofnod o’r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol
  6. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4
  7. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.52
  8. Cyfrifiad 1851, Llandwrog.
  9. Rees a Thomas, op.cit., t.233.
  10. Y Dydd, 17.12.1869
  11. Y Cronicl, XXIV, rhif 281 (Medi 1866), t.26
  12. Adysgrif Marwolaethau Cymru a Lloegr, chwarter 1, 1866
  13. Wikipedia, erthygl ar Wynn Bagnall.[3], cyrchwyd 18.10.2022