Coch-y-Big: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Coch Big c. 1955.jpg|bawd|Coch Big c.1955]]
[[Delwedd:Coch Big c. 1955.jpg|bawd|Coch Big c.1955]]


David Roberts Pughe a'i wraig a'u tri phlentyn oedd yn byw yng '''Nghoch-y-Big''' (a elwir ar lafar yn Coch Big), [[Brynaerau]], yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  
David Roberts Pughe a'i wraig a'u tri phlentyn oedd yn byw yng '''Nghoch-y-Big''' (a elwir ar lafar yn Coch Big), [[Brynaerau]], yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyn hynny, sonnir ei fod wedi bod yn gartref i ddynes a elwid yn [[Dewines Coch-y-big]].


Yr oedd y ferch, Eliza, yn fud a byddar o'i genedigaeth.  Bu farw yn un ar hugain oed.  
Yr oedd y ferch, Eliza, yn fud a byddar o'i genedigaeth.  Bu farw yn un ar hugain oed.
===== Ar fedd Miss Eliza Pughe =====
''Geneth ddoniol<ref>cyfeiria hyn at y ddawn a feddai fel arlunydd,</ref> gain a thyner — edwodd''<br>
''::Yn adeg ei gwychder!''<br>
''O dwrf byd, y wyryf b&ecirc;r''<br>
''Esgynodd i lys gwiwner''.''<br>
::::::Eben Fardd


Cymhwysodd ei dau frawd eu hunain yn feddygon. Daeth y ddau yn amlwg iawn mewn meysydd eraill hefyd, megis hynafiaethau a chrefydd, gan fabwysiadu'r enwau Ioan ab Hu Feddyg <ref>Gweler yr erthygl Gymraeg:  https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PUGH-JOH-1814</ref> a Dafydd ab Hu Feddyg.
<ref>Allan o ''Gweithiau Barddonol Eben Fardd. Cyhoeddwyd gan Howell Roberts (Hywel Tudur) a William Jones, Ieu, Bryngwydion, tud.228.</ref>
Cymhwysodd ei dau frawd eu hunain yn feddygon. Daeth y ddau yn amlwg iawn mewn meysydd eraill hefyd, megis hynafiaethau a chrefydd, gan fabwysiadu'r enwau.[[Ioan ab Hu Feddyg]] <ref>Gweler y Bywgraffiadur Cymreig:  https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PUGH-JOH-1814</ref> a [[David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg)|Dafydd ab Hu Feddyg]].


Aros yn feddyg yn ei gynefin ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] wnaeth Dafydd ab Hu.  
Aros yn feddyg yn ei gynefin ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] wnaeth Dafydd ab Hu.  


Yn Aberdyfi y gwasanaethodd Ioan ab Hu. Ym 1842 adeiladodd blasty bychan ger Coch Big a'i alw yn Brondirion Villa. Ei rieni a'i frawd aeth i fyw yno. Helaethwyd Brondirion yn 1872.  
Yn Aberdyfi y gwasanaethodd Ioan ab Hu. Ym 1842 adeiladodd blasty bychan ger Coch Big a'i alw yn [[Bron Dirion|Brondirion Villa]]. Ei rieni a'i frawd aeth i fyw yno. Helaethwyd Brondirion ym 1872.  


Daeth pedwar mab Ioan ab Hu Feddyg yn feddygon <ref>O'r ''Bywgraffiadur Cymreig" ar-lein dan enw bedydd I.ab H.F., sef John Pughe.</ref> a daeth ei ferch, [[Buddug Anwylini Pughe]], yn arlunydd o bwys. Bu hi farw yn Lerpwl yn 1939 yn 83 oed.
Daeth pedwar mab Ioan ab Hu Feddyg yn feddygon <ref>O'r ''Bywgraffiadur Cymreig" ar-lein dan enw bedydd I.ab H.F., sef John Pughe.</ref> a daeth ei ferch, [[Buddug Anwylini Pughe]], yn arlunydd o bwys. Bu hi farw yn Lerpwl yn 1939 yn 83 oed.


Ymysg papurau Buddug Anwylini Pughe yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae geiriadur darluniadol bach bach wedi ei rwymo gan [[Eben Fardd]].  Tybir iddo gael ei ddefnyddio i addysgu Eliza yn y cartref a hithau'n fyddar.  Credir mai gwaith Eliza ei hun ydyw.  Mae'r crochenydd Lowri Davies bellach wedi ail-greu ac addasu'r delweddau hynny a cheir jwg i gynrychioli pob llythyren o'r wyddor.    Mae'r rhain ar werth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. <ref>ysgrifennwyd y manylion hyn gan Mair Eluned Pritchard, Brynaerau, ar gyfer arddangosfa HEN DAI yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2008.</ref>
Ymysg papurau Buddug Anwylini Pughe yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae geiriadur darluniadol bach bach wedi ei rwymo gan [[Eben Fardd]].  Tybir iddo gael ei ddefnyddio i addysgu Eliza yn y cartref a hithau'n fyddar.  Credir mai gwaith Eliza ei hun ydyw.  Mae'r crochenydd Lowri Davies bellach wedi ail-greu ac addasu'r delweddau hynny a cheir jwg i gynrychioli pob llythyren o'r wyddor.    Mae'r rhain ar werth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. <ref>ysgrifennwyd y manylion hyn gan Mair Eluned Pritchard, Brynaerau, ar gyfer arddangosfa HEN DAI yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2008.</ref>
'''Ar Ebrill 14 1931 disgynnodd [[Carreg fellt Pontlyfni|seren wib]] ar dir Coch-y-Big'''  gan adael twll tuag wyth neu naw modfedd yn y ddaear galed ac yn pwyso yn union bum owns.
Yn llygad dystion i’r digwyddiad yr oedd dau gymydog  - John Lloyd Jones, penteulu Coch-y-Big (66 mlwydd oed) a thaid Mary Wyn Jones.<ref> sydd bellach wedi ymddeol fel athrawes yn Ysgol Brynaerau ac yn byw yn Swan.</ref>  Clywsant sŵn byddarol a barhaodd am hanner munud, gan beri i adeiladau ysgwyd ac i adar ac anifeiliaid wallgofi. Teimlwyd y dirgryniad cyn belled â Phorthmadog. 
Dilynwyd y sŵn gan sŵn fel gynnau’n tanio a chwibanu parhaus. Pan gyffyrddwyd â’r gwrthrych yn y twll roedd y metel yn teimlo’n gynnes iawn.
Arferid arddangos y meteor mewn cwpwrdd gwydr yn [[Ysgol Brynaerau]] ond nid yw yno bellach. <ref>Lleu, Hydref 2013, rhif 446, tud. 8. Colofn Hanes Robert Wyn, cyn-brifathro Ysgol Brynaerau.</ref>
 


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:44, 3 Hydref 2022

Coch Big c.1955

David Roberts Pughe a'i wraig a'u tri phlentyn oedd yn byw yng Nghoch-y-Big (a elwir ar lafar yn Coch Big), Brynaerau, yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyn hynny, sonnir ei fod wedi bod yn gartref i ddynes a elwid yn Dewines Coch-y-big.

Yr oedd y ferch, Eliza, yn fud a byddar o'i genedigaeth. Bu farw yn un ar hugain oed.

Ar fedd Miss Eliza Pughe

Geneth ddoniol[1] gain a thyner — edwodd
::Yn adeg ei gwychder!
O dwrf byd, y wyryf bêr
Esgynodd i lys gwiwner.

Eben Fardd

[2] Cymhwysodd ei dau frawd eu hunain yn feddygon. Daeth y ddau yn amlwg iawn mewn meysydd eraill hefyd, megis hynafiaethau a chrefydd, gan fabwysiadu'r enwau.Ioan ab Hu Feddyg [3] a Dafydd ab Hu Feddyg.

Aros yn feddyg yn ei gynefin ym mhlwyf Clynnog Fawr wnaeth Dafydd ab Hu.

Yn Aberdyfi y gwasanaethodd Ioan ab Hu. Ym 1842 adeiladodd blasty bychan ger Coch Big a'i alw yn Brondirion Villa. Ei rieni a'i frawd aeth i fyw yno. Helaethwyd Brondirion ym 1872.

Daeth pedwar mab Ioan ab Hu Feddyg yn feddygon [4] a daeth ei ferch, Buddug Anwylini Pughe, yn arlunydd o bwys. Bu hi farw yn Lerpwl yn 1939 yn 83 oed.

Ymysg papurau Buddug Anwylini Pughe yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae geiriadur darluniadol bach bach wedi ei rwymo gan Eben Fardd. Tybir iddo gael ei ddefnyddio i addysgu Eliza yn y cartref a hithau'n fyddar. Credir mai gwaith Eliza ei hun ydyw. Mae'r crochenydd Lowri Davies bellach wedi ail-greu ac addasu'r delweddau hynny a cheir jwg i gynrychioli pob llythyren o'r wyddor. Mae'r rhain ar werth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. [5]

Ar Ebrill 14 1931 disgynnodd seren wib ar dir Coch-y-Big gan adael twll tuag wyth neu naw modfedd yn y ddaear galed ac yn pwyso yn union bum owns. Yn llygad dystion i’r digwyddiad yr oedd dau gymydog - John Lloyd Jones, penteulu Coch-y-Big (66 mlwydd oed) a thaid Mary Wyn Jones.[6] Clywsant sŵn byddarol a barhaodd am hanner munud, gan beri i adeiladau ysgwyd ac i adar ac anifeiliaid wallgofi. Teimlwyd y dirgryniad cyn belled â Phorthmadog.

Dilynwyd y sŵn gan sŵn fel gynnau’n tanio a chwibanu parhaus. Pan gyffyrddwyd â’r gwrthrych yn y twll roedd y metel yn teimlo’n gynnes iawn. Arferid arddangos y meteor mewn cwpwrdd gwydr yn Ysgol Brynaerau ond nid yw yno bellach. [7]


Cyfeiriadau

  1. cyfeiria hyn at y ddawn a feddai fel arlunydd,
  2. Allan o Gweithiau Barddonol Eben Fardd. Cyhoeddwyd gan Howell Roberts (Hywel Tudur) a William Jones, Ieu, Bryngwydion, tud.228.
  3. Gweler y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PUGH-JOH-1814
  4. O'r Bywgraffiadur Cymreig" ar-lein dan enw bedydd I.ab H.F., sef John Pughe.
  5. ysgrifennwyd y manylion hyn gan Mair Eluned Pritchard, Brynaerau, ar gyfer arddangosfa HEN DAI yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2008.
  6. sydd bellach wedi ymddeol fel athrawes yn Ysgol Brynaerau ac yn byw yn Swan.
  7. Lleu, Hydref 2013, rhif 446, tud. 8. Colofn Hanes Robert Wyn, cyn-brifathro Ysgol Brynaerau.