Cofgolofn Ioan Arfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Amlinelliad hanes cofgolofn Ioan Arfon - John Owen Griffith (1828 -1881)
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Wrth deithio ar hyd yr hen lon bost rhwng Dolydd a’r Groeslon mae mynwent anenwadol ardal Llandwrog i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn-‘r-odyn cyferbyn i safle'r capel o’r un enw sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yma mae cofgolofn amlwg ym mlaen y fynwent sef yr un ar fedd John Owen Griffith (1828-1881). Ei enw barddol oedd Ioan Arfon.<ref>https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-OWE-1828</ref>
[[Delwedd:Colofn Ioan Arfon.jpg|bawd|de|450px|Cofgolofn Ioan Arfon]]


Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr yn fab i chwarelwr ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo priodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a gyda’i wraig Ann agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, bardd a chyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).<ref>https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ART-1860</ref>
Wrth deithio ar hyd yr hen lôn bost rhwng [[Dolydd]] a’r [[Y Groeslon|Groeslon]] mae mynwent anenwadol ardal [[Llandwrog]] i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn'rodyn gyferbyn â safle'r [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon|capel]] o’r un enw, sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yma mae cofgolofn amlwg i'w gweld ym mlaen y fynwent, sef yr un ar '''fedd John Owen Griffith''' (1828-1881). Ei enw barddol oedd Ioan Arfon.<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-OWE-1828]</ref>


Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan llenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Gorsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a chynigodd cyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.<ref>Y Genedl Gymreig 1 Rhagfyr 1881
Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr, yn fab i chwarelwr, ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo briodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a chyda’i wraig, Ann, agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, y bardd a'r cyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ART-1860]</ref>
https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4441496/4441501/8/
</ref>


Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd diddordeb mewn Daeareg yn deillio o’i ddyddiau yn gweithio yn y chwareli a chyhoeddodd draethawd ar y pwnc. Hefyd  cyfrannodd at amryw fudiadau dyngarol  gan gynnwys ei aelodaeth o bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874.<ref>https://cy.wikipedia.org/wiki/Undeb_Chwarelwyr_Gogledd_Cymru</ref>
Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan lenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Orsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a rhoddai gyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 1 Rhagfyr 1881 [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4441496/4441501/8/]</ref>


Bu farw yn gymharol ifanc, deuddydd yn unig wedi ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un cyfrannodd cymaint i’w fro a’i genedl. Cofnodir mai swm y tanysgrifiadau a dderbyniwyd oedd £86 14 swllt a 5 ceiniog  (cyfwerth dros £11,000 yn 2022). Talwyd £84 am y gofgolofn a wnaed gan Gwmni Hugh Jones o Gaernarfon a’i ddadorchuddio mewn seremoni arbennig ar 15fed Rhagfyr 1883.<ref>4. Y Genedl Gymreig 19 Rhagfyr 1883 tudalen 7</ref>  
Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd ddiddordeb mewn Daeareg, yn deillio o’i ddyddiau'n gweithio yn y chwareli, a chyhoeddodd draethawd ar y pwnc. Hefyd,  cyfrannodd at amryw fudiadau dyngarol, gan gynnwys gweithredu fel aelod o bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874.<ref>Erthygl Wicipedia ar yr Undeb, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Undeb_Chwarelwyr_Gogledd_Cymru]</ref>


Mae’r darn isaf y golofn wedi ei wneud ag ithfaen Môn, a'r gweddill â farmor Eidalaidd. Ar y darn uchaf ohoni – yr obelisg - mae nòd cyfrin Gorsedd y Beirdd ac wedi ei gerfio oddi tanodd mae'r geiriau, ‘Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl’. Mae cof-lun (medaliwn) o'r bardd uwchben y geiriau:- "Er cof am John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu farw Tachwedd 22ain, 1881, yn 53 mlwydd oed."
Bu farw'n gymharol ifanc, ddeuddydd yn unig ar ôl ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un a gyfrannodd gymaint i’w fro a’i genedl. Cofnodir mai swm y tanysgrifiadau a dderbyniwyd oedd £86 14 swllt a 5 ceiniog  (cyfwerth â dros £11,000 yn 2022). Talwyd £84 am y gofgolofn a wnaed gan Gwmni Hugh Jones o Gaernarfon ac fe'i dadorchuddiwyd mewn seremoni arbennig ar 15fed Rhagfyr 1883.<ref>''Y Genedl Gymreig'' 19 Rhagfyr 1883, t.7</ref> 


O dan yr uchod y mae cerdd o eiddo Richard Davies (Tafolog)<ref>https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-RIC-1830#?c=0&m=0&s=0&cv=40&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4974950%2Fmanifest.json&xywh=624%2C467%2C841%2C917</ref>
Mae darn isaf y golofn wedi ei wneud ag ithfaen Môn, a'r gweddill o farmor Eidalaidd. Ar y darn uchaf ohoni – yr obelisg - mae nod cyfrin Gorsedd y Beirdd ac wedi ei gerfio oddi tano mae'r geiriau, ‘Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl’. Mae cof-lun (medaliwn) o'r bardd uwchben y geiriau:- "Er cof am John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu farw Tachwedd 22ain, 1881, yn 53 mlwydd oed."
 
O dan yr uchod y mae cerdd o waith Richard Davies (Tafolog)<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-RIC-1830#?c=0&m=0&s=0&cv=40&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4974950%2Fmanifest.json&xywh=624%2C467%2C841%2C917]</ref>:


   Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod"
   Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod"
Llinell 22: Llinell 22:
   Gysegra oesau i'w gwsg oer isod.
   Gysegra oesau i'w gwsg oer isod.


Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun -
Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun:


   Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail
   Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail
Llinell 29: Llinell 29:
   I ddirwyn yr einioes i derfyn.
   I ddirwyn yr einioes i derfyn.


Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)<ref> https://cy.wikipedia.org/wiki/David_Griffith_(Clwydfardd)</ref>, nad oedd yn perthyn i’r bardd, yn gweithredu fel yr Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ar y pryd.
Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/David_Griffith_(Clwydfardd)]</ref>, nad oedd yn perthyn i’r bardd, ac a oedd yn gweithredu fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ar y pryd. Wrth ddadorchuddio'r gofgolofn nododd yr Archdderwydd; "Colled anadferadwy oedd colli Ioan Arfon i'w deulu. Yr oedd yn ŵr ffyddlawn, gofalus, a charuaidd, yn dad hynaws a thosturiol. Mewn cymdeithas, yr oedd yn aelod cymwynasgar, mynwesol, a charedig: colled i'r Eisteddfodau, colled i'n llenoriaeth, ac yn neillduol i dref enwog Caernarfon, ac i Gymru benbaladr;..."
 
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Cofebion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:50, 21 Medi 2022

Cofgolofn Ioan Arfon

Wrth deithio ar hyd yr hen lôn bost rhwng Dolydd a’r Groeslon mae mynwent anenwadol ardal Llandwrog i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn'rodyn gyferbyn â safle'r capel o’r un enw, sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yma mae cofgolofn amlwg i'w gweld ym mlaen y fynwent, sef yr un ar fedd John Owen Griffith (1828-1881). Ei enw barddol oedd Ioan Arfon.[1]

Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr, yn fab i chwarelwr, ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo briodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a chyda’i wraig, Ann, agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, y bardd a'r cyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).[2]

Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan lenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Orsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a rhoddai gyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.[3]

Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd ddiddordeb mewn Daeareg, yn deillio o’i ddyddiau'n gweithio yn y chwareli, a chyhoeddodd draethawd ar y pwnc. Hefyd, cyfrannodd at amryw fudiadau dyngarol, gan gynnwys gweithredu fel aelod o bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874.[4]

Bu farw'n gymharol ifanc, ddeuddydd yn unig ar ôl ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un a gyfrannodd gymaint i’w fro a’i genedl. Cofnodir mai swm y tanysgrifiadau a dderbyniwyd oedd £86 14 swllt a 5 ceiniog (cyfwerth â dros £11,000 yn 2022). Talwyd £84 am y gofgolofn a wnaed gan Gwmni Hugh Jones o Gaernarfon ac fe'i dadorchuddiwyd mewn seremoni arbennig ar 15fed Rhagfyr 1883.[5]

Mae darn isaf y golofn wedi ei wneud ag ithfaen Môn, a'r gweddill o farmor Eidalaidd. Ar y darn uchaf ohoni – yr obelisg - mae nod cyfrin Gorsedd y Beirdd ac wedi ei gerfio oddi tano mae'r geiriau, ‘Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl’. Mae cof-lun (medaliwn) o'r bardd uwchben y geiriau:- "Er cof am John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu farw Tachwedd 22ain, 1881, yn 53 mlwydd oed."

O dan yr uchod y mae cerdd o waith Richard Davies (Tafolog)[6]:

 Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod"
 'Roes edmygedd, uwch du fedd, yn dafod
 I ddywed i seraph o fardd disorod,
 A beirniad, dewi obry'n y tywod
 Wladgar Ioan, glân ei glod, - eu dagrau
 Gysegra oesau i'w gwsg oer isod.

Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun:

 Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail
 A gwywo'r un amser a'r rhosyn;
 Nid oes i fy nheimlad un adeg yn ail
 I ddirwyn yr einioes i derfyn.

Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)[7], nad oedd yn perthyn i’r bardd, ac a oedd yn gweithredu fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ar y pryd. Wrth ddadorchuddio'r gofgolofn nododd yr Archdderwydd; "Colled anadferadwy oedd colli Ioan Arfon i'w deulu. Yr oedd yn ŵr ffyddlawn, gofalus, a charuaidd, yn dad hynaws a thosturiol. Mewn cymdeithas, yr oedd yn aelod cymwynasgar, mynwesol, a charedig: colled i'r Eisteddfodau, colled i'n llenoriaeth, ac yn neillduol i dref enwog Caernarfon, ac i Gymru benbaladr;..."

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein [1]
  2. Y Bywgraffiadur Ar-lein [2]
  3. Y Genedl Gymreig, 1 Rhagfyr 1881 [3]
  4. Erthygl Wicipedia ar yr Undeb, [4]
  5. Y Genedl Gymreig 19 Rhagfyr 1883, t.7
  6. Y Bywgraffiadur Ar-lein [5]
  7. Y Bywgraffiadur Ar-lein [6]