Edward Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ychydig a wyddys am '''Edward Jones''' o'r Dolydd neu'r Dolyddbyrion, ym mhlwyf Llandwrog. Ein prif ffynhonell o wybodaeth amdano yw nodyn gan Car...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ychydig a wyddys am '''Edward Jones''' o'r [[Dolydd]] neu'r Dolyddbyrion, ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Ein prif ffynhonell o wybodaeth amdano yw nodyn gan Carneddog yn ei golofn yn yr ''Herald Cymreig'', "Manion o'r Mynydd", 2 Tachwedd 1915, dan y teitl "Hen Lyfrau Notes":
Ychydig a wyddom am '''Edward Jones''' o'r [[Dolydd]], neu'r Dolyddbyrion, ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Ein prif ffynhonnell o wybodaeth amdano yw nodyn gan Carneddog yn ei golofn yn yr ''Herald Cymreig'', "Manion o'r Mynydd", 2 Tachwedd 1915, dan y teitl "Hen Lyfrau Notes":


  "Yr oedd gan y ddan hen gerddor,medrus yn eu dydd, Edward Jones, Dolydd Byrion (neu'r enw yn un gair) yn agos i Gaernarfon, a'i fab Sion Edwards, Tŷ Bach, Criccieth, lyfrau nates mawrion, a dyma ddywedodd Eos Eifion (o Griccieth) tua 25 mlynedd vn ol:—" Y mae yn yr hen lyfrau hyn drysorau gwerthfawr, pa rai a fuasent yn ychwaneg iad pwysig at gerddorieth ein gwlad pe yr ymgymerai rhywun, neu rai, a'u cyhoeddi mewn rhyw ffurf." Yn awr, ymha le y mae y llyfrau notes hyn yn bresenol? A wyr rhywun? Gwelais amryw hen lyfrau notes mewn palasdai yn cael eu cadw i ddim. Gresyn na fuasai posibl eu cael i'r Llyfrgell Genedlaethol i Aberystwyth, i fod o werth i'r genedl. Dywed Eos Eifion fod y nodiad a ganlyn, ynghylch yr hen gerddorion ar un o'r llyfrau notes, wedi ei ysgrifenu ar ôl eu marw. Bu Edward Jones farw oddeutu y flwyddyn 1779, yn 30ain mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog. Bu John Edwards, ei fab, farw yn 1860 yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Bedyddwyr yng Nghriccieth. Yr oedd yntau yn gerddor gwych. fel y dengys ei lyfrau, etc. "<ref>''Herald Cymreig'', 2 Tach. 1915, t.2</ref>
  "Yr oedd gan y ddau hen gerddor, medrus yn eu dydd, Edward Jones, Dolydd Byrion (neu'r enw yn un gair) yn agos i Gaernarfon, a'i fab Sion Edwards, Tŷ Bach, Criccieth, lyfrau notes mawrion, a dyma ddywedodd Eos Eifion (o Griccieth) tua 25 mlynedd yn ôl:—" Y mae yn yr hen lyfrau hyn drysorau gwerthfawr, pa rai a fuasent yn ychwanegiad pwysig at gerddorieth ein gwlad pe yr ymgymerai rhywun, neu rai, a'u cyhoeddi mewn rhyw ffurf." Yn awr, ymha le y mae y llyfrau notes hyn yn bresenol? A wyr rhywun? Gwelais amryw hen lyfrau notes mewn palasdai yn cael eu cadw i ddim. Gresyn na fuasai posibl eu cael i'r Llyfrgell Genedlaethol i Aberystwyth, i fod o werth i'r genedl. Dywed Eos Eifion fod y nodiad a ganlyn, ynghylch yr hen gerddorion ar un o'r llyfrau notes, wedi ei ysgrifenu ar ôl eu marw. Bu Edward Jones farw oddeutu y flwyddyn 1779, yn 30ain mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog. Bu John Edwards, ei fab, farw yn 1860 yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Bedyddwyr yng Nghriccieth. Yr oedd yntau yn gerddor gwych, fel y dengys ei lyfrau, etc. "<ref>''Herald Cymreig'', 2 Tach. 1915, t.2</ref>


Ni ellir dibynnu ar y ffeithiau hyn yn llwyr, gan fod cofrestr [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog]] ar gael yn Archifdy Gwynedd, a'i bod yn hawdd iawn i'w darllen; nid oes son am gladdedigaeth yr un Edward Jones rhwng 1771 a 1786. Fodd bynnag, nid oes gwadu am fodolaeth Edward Jones, Dolyddbyrion. Yn ôl Robert David Griffith, Hen Golwyn, yn ei nodyn ar Edward Jones yn y ''Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein'', "Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a adawodd mewn llawysgrif ar ei ôl. Daeth ei anthem, ‘Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi,’ yn hynod boblogaidd. Trefnodd William Owen, Tremadog, yr anthem, ac fe'i ceir fel y trefnodd ‘Ieuan Gwyllt’ hi yn Y Cerddor Cymreig, rhif 107 a 108, a llythyr parthed ei hawduriaeth yn rhifyn Mawrth 1870 o'r Y Cerddor Cymreig."<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-EDW-1749], cyrchwyd 6.7.2019</ref>
Ni ellir dibynnu ar y ffeithiau hyn yn llwyr, gan fod cofrestr [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog]] ar gael yn Archifdy Gwynedd, a'i bod yn hawdd iawn i'w darllen; nid oes sôn am gladdedigaeth yr un Edward Jones rhwng 1771 a 1786. Fodd bynnag, nid oes gwadu bodolaeth Edward Jones, Dolyddbyrion. Yn ôl Robert David Griffith, Hen Golwyn, yn ei nodyn ar Edward Jones yn y ''Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein'', "Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a adawodd mewn llawysgrif ar ei ôl. Daeth ei anthem, ‘Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi,’ yn hynod boblogaidd. Trefnodd William Owen, Tremadog, yr anthem, ac fe'i ceir fel y trefnodd ‘Ieuan Gwyllt’ hi yn Y Cerddor Cymreig, rhif 107 a 108, a llythyr parthed ei hawduriaeth yn rhifyn Mawrth 1870 o'r Y Cerddor Cymreig."<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-EDW-1749], cyrchwyd 6.7.2019</ref>


Dyddiad claddu mwyaf tebygol Edward Jones oedd 9 Gorffennaf 1786, pan y cofnodir un Edward Jones o Dŷ Newydd ger Benallt, Llandwrog. fe'i ddisgrifir fel "barcwr",<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog</ref> sef un sy'n prosesu lledr, a gwyddys fod tanerdy neu farcdy yn y Dolydd tua'r pryd hynny.
Dyddiad claddu mwyaf tebygol Edward Jones oedd 9 Gorffennaf 1786, pan gofnodir un Edward Jones o Dŷ Newydd ger Benallt, Llandwrog. Fe'i disgrifir fel "barcwr",<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog</ref> sef un sy'n prosesu lledr, a gwyddys fod tanerdy neu farcdy yn y Dolydd tua'r pryd hynny. Mae Ysgubor Newydd ym mhentref [[Bethesda Bach]], nid nepell o'r Dolydd - mae'n amheus a oedd yr enw Bethesda Bach wedi ei fathu ar y pryd.


Ceir disgrifiad o un o'i weithiau, sef yr unig un oedd yn adnabyddus erbyn diwedd y 19g, sef ''Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi'' (a aildrefnwyd gan Ieuan Gwyllt) yn ''Y Cerddor''<ref>D. Emlyn Evans, ''Bywgraffiadau'' (Y Cerddor, Mai 1893) t.22 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2619094/2619730/6#?xywh=534%2C442%2C2446%2C2234]</ref>:
Ceir disgrifiad o un o'i weithiau, sef yr unig un a oedd yn adnabyddus erbyn diwedd y 19g, sef ''Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi'' (a aildrefnwyd gan Ieuan Gwyllt) yn ''Y Cerddor''<ref>D. Emlyn Evans, ''Bywgraffiadau'' (Y Cerddor, Mai 1893) t.22 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2619094/2619730/6#?xywh=534%2C442%2C2446%2C2234]</ref>:


  "Y mae hon yn anthem hirfaith, dros 150 o fesurau hirion, ac o brin y mae eisiau ychwanegu ei bod yn yr "arddull Gymreig" Gymreiciaf, yn canu ym mron yn hollol yn y cywair lleiaf, gydag ambell i "dongc" yn y mwyaf perthnasol; ond diau fod miloedd wedi cael eu diddanu gan ei halawon lleddfus, ac y câ llawer eto yn y dyfodol."
  "Y mae hon yn anthem hirfaith, dros 150 o fesurau hirion, ac o brin y mae eisiau ychwanegu ei bod yn yr "arddull Gymreig" Gymreiciaf, yn canu ym mron yn hollol yn y cywair lleiaf, gydag ambell i "dongc" yn y mwyaf perthnasol; ond diau fod miloedd wedi cael eu diddanu gan ei halawon lleddfus, ac y câ llawer eto yn y dyfodol."

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:59, 16 Awst 2022

Ychydig a wyddom am Edward Jones o'r Dolydd, neu'r Dolyddbyrion, ym mhlwyf Llandwrog. Ein prif ffynhonnell o wybodaeth amdano yw nodyn gan Carneddog yn ei golofn yn yr Herald Cymreig, "Manion o'r Mynydd", 2 Tachwedd 1915, dan y teitl "Hen Lyfrau Notes":

"Yr oedd gan y ddau hen gerddor, medrus yn eu dydd, Edward Jones, Dolydd Byrion (neu'r enw yn un gair) yn agos i Gaernarfon, a'i fab Sion Edwards, Tŷ Bach, Criccieth, lyfrau notes mawrion, a dyma ddywedodd Eos Eifion (o Griccieth) tua 25 mlynedd yn ôl:—" Y mae yn yr hen lyfrau hyn drysorau gwerthfawr, pa rai a fuasent yn ychwanegiad pwysig at gerddorieth ein gwlad pe yr ymgymerai rhywun, neu rai, a'u cyhoeddi mewn rhyw ffurf." Yn awr, ymha le y mae y llyfrau notes hyn yn bresenol? A wyr rhywun? Gwelais amryw hen lyfrau notes mewn palasdai yn cael eu cadw i ddim. Gresyn na fuasai posibl eu cael i'r Llyfrgell Genedlaethol i Aberystwyth, i fod o werth i'r genedl. Dywed Eos Eifion fod y nodiad a ganlyn, ynghylch yr hen gerddorion ar un o'r llyfrau notes, wedi ei ysgrifenu ar ôl eu marw. Bu Edward Jones farw oddeutu y flwyddyn 1779, yn 30ain mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog. Bu John Edwards, ei fab, farw yn 1860 yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Bedyddwyr yng Nghriccieth. Yr oedd yntau yn gerddor gwych, fel y dengys ei lyfrau, etc. "[1]

Ni ellir dibynnu ar y ffeithiau hyn yn llwyr, gan fod cofrestr Eglwys Sant Twrog, Llandwrog ar gael yn Archifdy Gwynedd, a'i bod yn hawdd iawn i'w darllen; nid oes sôn am gladdedigaeth yr un Edward Jones rhwng 1771 a 1786. Fodd bynnag, nid oes gwadu bodolaeth Edward Jones, Dolyddbyrion. Yn ôl Robert David Griffith, Hen Golwyn, yn ei nodyn ar Edward Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein, "Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a adawodd mewn llawysgrif ar ei ôl. Daeth ei anthem, ‘Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi,’ yn hynod boblogaidd. Trefnodd William Owen, Tremadog, yr anthem, ac fe'i ceir fel y trefnodd ‘Ieuan Gwyllt’ hi yn Y Cerddor Cymreig, rhif 107 a 108, a llythyr parthed ei hawduriaeth yn rhifyn Mawrth 1870 o'r Y Cerddor Cymreig."[2]

Dyddiad claddu mwyaf tebygol Edward Jones oedd 9 Gorffennaf 1786, pan gofnodir un Edward Jones o Dŷ Newydd ger Benallt, Llandwrog. Fe'i disgrifir fel "barcwr",[3] sef un sy'n prosesu lledr, a gwyddys fod tanerdy neu farcdy yn y Dolydd tua'r pryd hynny. Mae Ysgubor Newydd ym mhentref Bethesda Bach, nid nepell o'r Dolydd - mae'n amheus a oedd yr enw Bethesda Bach wedi ei fathu ar y pryd.

Ceir disgrifiad o un o'i weithiau, sef yr unig un a oedd yn adnabyddus erbyn diwedd y 19g, sef Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi (a aildrefnwyd gan Ieuan Gwyllt) yn Y Cerddor[4]:

"Y mae hon yn anthem hirfaith, dros 150 o fesurau hirion, ac o brin y mae eisiau ychwanegu ei bod yn yr "arddull Gymreig" Gymreiciaf, yn canu ym mron yn hollol yn y cywair lleiaf, gydag ambell i "dongc" yn y mwyaf perthnasol; ond diau fod miloedd wedi cael eu diddanu gan ei halawon lleddfus, ac y câ llawer eto yn y dyfodol."

Diddorol yw nodi fod Emlyn Evans yn Y Cerddor yn rhoi dyddiadau Edward Jones fel ?1749-?1799.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Herald Cymreig, 2 Tach. 1915, t.2
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, [1], cyrchwyd 6.7.2019
  3. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog
  4. D. Emlyn Evans, Bywgraffiadau (Y Cerddor, Mai 1893) t.22 [2]