William Glynn, Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Daeth '''William Glynn''' (? - 1594) i'w etifeddiaeth ym 1541 ar farwolaeth ei dad, [[Edmund Llwyd ap Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd]]. Roedd y degfed genhdlaeth o sylfaenydd y teulu, [[Ystrwyth asb Ednywain]], un o brif swyddogion llys Llywelyn Fawr.  
Daeth '''William Glynn''' (? - 1594) i'w etifeddiaeth ym 1541 ar farwolaeth ei dad, [[Edmund Llwyd]] ap Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd. Roedd yn perthyn i'r ddegfed genhedlaeth wedi sylfaenydd y teulu, [[Ystrwyth ab Ednywain]], un o brif swyddogion llys Llywelyn Fawr.  


Roedd William Glynn wedi ei benodi'n ynad heddwch yn unol â threfn newydd y Tuduriaid wedi'r Ddeddfau Uno (1536 a 1541) ac mae'r cofnod cyntaf ohono'n gweithredu yn y rôl honno yn dyddio o 9 Chwefror 1552.  Fe benodwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1561/2. Roedd yn dal yn ynad heddwch ym 1575, a bu farw ym 1594.<ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions'' (Caernarfon, 1956), t.248</ref>
Roedd William Glynn wedi ei benodi'n ynad heddwch yn unol â threfn newydd y Tuduriaid wedi'r Deddfau Uno (1536 a 1541) ac ar 9 Chwefror 1552 y ceir y cofnod cyntaf ohono'n gweithredu yn y swyddogaeth honno.  Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1561/2. Roedd yn dal yn ynad heddwch ym 1575, a bu farw ym 1594.<ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions'' (Caernarfon, 1956), t.248</ref>


Priododd i mewn i ddau deulu dylanwadol arall yng Ngogledd Cymru: yn gyntaf, Catherine ferch Thomas ap Richard ap Howel ap Ifan Fychan o Fostyn; ac ar ôl ei marwolaeth, priododd ym 1562 Angharad, merch Elissa Maurice, Clenennau a oedd yn esitedd ar y fainc ynadol gydag ef.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.172</ref><ref>W Ogwen Williams, ''op. cit.'', t.247</ref>
Priododd i mewn i ddau deulu dylanwadol arall yng Ngogledd Cymru: yn gyntaf, Catherine ferch Thomas ap Richard ap Howel ap Ifan Fychan o Fostyn; ac ar ôl ei marwolaeth, priododd ym 1562 ag Angharad, merch Elissa Maurice, Clenennau, a oedd yn eistedd ar y fainc ynadol gydag ef.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.172</ref><ref>W Ogwen Williams, ''op. cit.'', t.247</ref>


Ni ddylid cymysgu rhwng y William Glynn hwn a'i berthynas, [[William Glynn (Lleuar)]], oedd yn cydoesi ag ef.
Ni ddylid cymysgu rhwng y William Glynn hwn a'i berthynas, [[William Glynn, Lleuar]], oedd yn cydoesi ag ef.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:06, 23 Gorffennaf 2022

Daeth William Glynn (? - 1594) i'w etifeddiaeth ym 1541 ar farwolaeth ei dad, Edmund Llwyd ap Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd. Roedd yn perthyn i'r ddegfed genhedlaeth wedi sylfaenydd y teulu, Ystrwyth ab Ednywain, un o brif swyddogion llys Llywelyn Fawr.

Roedd William Glynn wedi ei benodi'n ynad heddwch yn unol â threfn newydd y Tuduriaid wedi'r Deddfau Uno (1536 a 1541) ac ar 9 Chwefror 1552 y ceir y cofnod cyntaf ohono'n gweithredu yn y swyddogaeth honno. Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1561/2. Roedd yn dal yn ynad heddwch ym 1575, a bu farw ym 1594.[1]

Priododd i mewn i ddau deulu dylanwadol arall yng Ngogledd Cymru: yn gyntaf, Catherine ferch Thomas ap Richard ap Howel ap Ifan Fychan o Fostyn; ac ar ôl ei marwolaeth, priododd ym 1562 ag Angharad, merch Elissa Maurice, Clenennau, a oedd yn eistedd ar y fainc ynadol gydag ef.[2][3]

Ni ddylid cymysgu rhwng y William Glynn hwn a'i berthynas, William Glynn, Lleuar, oedd yn cydoesi ag ef.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions (Caernarfon, 1956), t.248
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172
  3. W Ogwen Williams, op. cit., t.247