Maria Stella: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Arglwyddes Newborough oedd '''Maria Stella''' (16 Ebrill 1773 – 28 Rhagfyr 1843).
Arglwyddes Newborough oedd '''Maria Stella''' (16 Ebrill 1773 – 28 Rhagfyr 1843).


Ganwyd Maria Stella Petronilla ym Modligiana, Yr Eidal i Lorenzo Chiappini a’i wraig Vincentia Diligenti. Magwyd hi yn Florens, a buodd fyw ym Modigliana yn yr ardal hyd nes yr oedd yn 19 mlwydd oed.
Ganwyd Maria Stella Petronilla ym Modligiana, Yr Eidal i Lorenzo Chiappini a’i wraig Vincentia Diligenti. Magwyd hi yn Fflorens, a bu'n byw ym Modigliana, heb fod ymhell o Fflorens, hyd nes oedd yn 19 mlwydd oed.


Pan yn 13, priodwyd hi â’r [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] tra roedd yn ymweld â Fflorens. Buodd y ddau yn byw yn yr ardal am gyfnod cyn symud i fyw yn barhaol yng [[Glynllifon|Nglynllifon]], [[Llandwrog]] ar ôl cyfnod o drafferthion ariannol. Ganwyd iddynt ddau fab, [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John Wynn]] ar 3 Ebrill 1802, a [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Spencer Bulkeley Wynn]] 23 Mai 1803. Ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1807, priododd â'r Barwn Ungern Sternberg o Estonia, lle preswyliodd y ddau, ac wedyn ym Mharis tan ei marwolaeth yn 1843.
Pan yn 13 oed, priodwyd hi â [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], a oedd tua 50 oed, tra oedd hwnnw'n ymweld â Fflorens yng nghwmni ei fab o'i briodas gyntaf. Bu'r ddau'n byw yn yr ardal am gyfnod cyn symud i fyw yn barhaol yng [[Glynllifon|Nglynllifon]], [[Llandwrog]] ar ôl cyfnod o drafferthion ariannol. Ganwyd iddynt ddau fab, [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John Wynn]] ar 3 Ebrill 1802, a [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Spencer Bulkeley Wynn]], 23 Mai 1803. Ar ôl marwolaeth ei gŵr ym 1807, priododd â'r Barwn Ungern Sternberg o Estonia, lle preswyliodd y ddau, ac wedyn ym Mharis tan ei marwolaeth ym 1843, lle aeth hi'n gynyddol dlawd oherwydd ei buchedd afradlon. Ysgrifennodd yn gyson at ei mab, [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], gan ofyn iddo am arian, ond nid oedd gan hwnnw fawr o amynedd gyda hi - prin y cyflawnodd hi rôl mam i'w phlant wedi iddi symud i Estonia a'u gadael dan ofal ymddiriedolwyr ei diweddar ŵr.


Mae Maria Stella yn nodedig o’i chyfnod am geisio profi ei bod yn wir etifedd i goron Ffrainc, gan ei bod wedi ei rhoi yn blentyn i Lorenzo Chiappini. Cyhoeddod ei hunangofiant yn 1830 (''‘Maria Stella ou un éclhange d'une demoiselle du plus haut rang contre in garçon de plus vile condition’''), a buodd yn penderfynol ei chais drwy gydol ei hoes.
Roedd Maria Stella yn enwog yn ystod ei hoes am iddi geisio profi ei bod yn wir etifedd i goron Ffrainc, gan ei bod wedi ei rhoi yn blentyn i Lorenzo Chiappini a'i wraig, a honnai mai brenin a brenhines Ffrainc oedd ei rhieni biolegol a'u bod hwy wedi ei chyfnewid hi am fab a aned i'r Chiappinis. Cyhoeddodd ei hunangofiant ym 1830 (''‘Maria Stella ou un échange d'une demoiselle du plus haut rang contre un garçon de plus vile condition’''), ac fe wnaeth ymroi'n benderfynol i hyrwyddo ei chais drwy gydol ei hoes. Gwrthododd Spencer Bulkeley, y 3ydd Arglwydd, sawl gwahoddiad oddi wrth garfannau gwrth-wladwriaethol yn Ffrainc i fynd yno i hawlio'r goron. Serch hynny, os yw honiadau Maria Stella'n wir, yr Arglwydd Newborough presennol yw etifedd cyfreithlon coron Ffrainc!


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:19, 6 Gorffennaf 2022

Arglwyddes Newborough oedd Maria Stella (16 Ebrill 1773 – 28 Rhagfyr 1843).

Ganwyd Maria Stella Petronilla ym Modligiana, Yr Eidal i Lorenzo Chiappini a’i wraig Vincentia Diligenti. Magwyd hi yn Fflorens, a bu'n byw ym Modigliana, heb fod ymhell o Fflorens, hyd nes oedd yn 19 mlwydd oed.

Pan yn 13 oed, priodwyd hi â Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, a oedd tua 50 oed, tra oedd hwnnw'n ymweld â Fflorens yng nghwmni ei fab o'i briodas gyntaf. Bu'r ddau'n byw yn yr ardal am gyfnod cyn symud i fyw yn barhaol yng Nglynllifon, Llandwrog ar ôl cyfnod o drafferthion ariannol. Ganwyd iddynt ddau fab, Thomas John Wynn ar 3 Ebrill 1802, a Spencer Bulkeley Wynn, 23 Mai 1803. Ar ôl marwolaeth ei gŵr ym 1807, priododd â'r Barwn Ungern Sternberg o Estonia, lle preswyliodd y ddau, ac wedyn ym Mharis tan ei marwolaeth ym 1843, lle aeth hi'n gynyddol dlawd oherwydd ei buchedd afradlon. Ysgrifennodd yn gyson at ei mab, Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, gan ofyn iddo am arian, ond nid oedd gan hwnnw fawr o amynedd gyda hi - prin y cyflawnodd hi rôl mam i'w phlant wedi iddi symud i Estonia a'u gadael dan ofal ymddiriedolwyr ei diweddar ŵr.

Roedd Maria Stella yn enwog yn ystod ei hoes am iddi geisio profi ei bod yn wir etifedd i goron Ffrainc, gan ei bod wedi ei rhoi yn blentyn i Lorenzo Chiappini a'i wraig, a honnai mai brenin a brenhines Ffrainc oedd ei rhieni biolegol a'u bod hwy wedi ei chyfnewid hi am fab a aned i'r Chiappinis. Cyhoeddodd ei hunangofiant ym 1830 (‘Maria Stella ou un échange d'une demoiselle du plus haut rang contre un garçon de plus vile condition’), ac fe wnaeth ymroi'n benderfynol i hyrwyddo ei chais drwy gydol ei hoes. Gwrthododd Spencer Bulkeley, y 3ydd Arglwydd, sawl gwahoddiad oddi wrth garfannau gwrth-wladwriaethol yn Ffrainc i fynd yno i hawlio'r goron. Serch hynny, os yw honiadau Maria Stella'n wir, yr Arglwydd Newborough presennol yw etifedd cyfreithlon coron Ffrainc!