Marian Elias Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Marian Elias Roberts''' yw Ysgrifennydd gweithgar Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwydd...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Marian Elias Roberts''' yw Ysgrifennydd gweithgar Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn ei bro ac yn ehangach. | '''Marian Elias Roberts''' yw Ysgrifennydd gweithgar [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn ei bro ac yn ehangach. | ||
Magwyd Marian Elias yn ffermdy Hafod-y-wern ar y llethrau uwchlaw pentref Clynnog Fawr, yn un o bedwar o blant | Magwyd Marian Elias yn ffermdy Hafod-y-wern ar y llethrau uwchlaw pentref [[Clynnog Fawr]], yn un o bedwar o blant Robert a Deilwen Elias. (Hanai ei mam o'r Wern, Llanfrothen ac roedd ei thaid Thomas Richards yn englynwr o fri gyda'i englyn enwog i'r Ci Defaid yn gampwaith.) Ar ôl cael addysg gynradd yn ysgol Clynnog ac uwchradd yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle|Ysgol Sir Pen-y-groes]] aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle graddiodd yn y Gymraeg. Bu'n cyflawni swyddi gweinyddol i wahanol gyflogwyr, megis y BBC a Choleg Glannau Dyfrdwy, a bu hefyd yn hyfforddi myfyrwyr mewn medrau ysgrifenyddol a rheoli swyddfa. | ||
Priododd ym mis Mawrth 1984 â'r actor a'r awdur [[Guto Roberts]](Guto Rhos-lan) ac fe wnaethant ymgartrefu i ddechrau yn Garreg Boeth, [[Capel Uchaf]]. Roedd y ddau'n rhannu'r un delfrydau a gwerthoedd â'i gilydd a chawsant bymtheg mlynedd o fywyd priodasol dedwydd cyn i afiechyd oddiweddyd Guto, a fu farw ym 1999. Bu'r ddau'n weithgar iawn gyda phapur bro ''[[Lleu]]'' gan gyfrannu llawer o erthyglau iddo ar amrywiol bynciau. Buont hefyd yn aelodau o Gyngor Cymuned Clynnog am rai blynyddoedd cyn iddynt symud i fyw i'r [[Y Groeslon|Groeslon]] ym 1994. Fe wnaethant ymroi'r frwd yn ogystal i gynnal digwyddiadau i godi arian at Gronfa Goffa Saunders Lewis a hefyd gymryd rhan flaenllaw yn yr ymdrech i adfer [[Cae'r Gors]] yn waddol deilwng o athrylith [[Kate Roberts]]. Gweithgaredd arall o'u heiddo oedd sefydlu ''Yr Hen Wlad'', cyfnodolyn chwarterol i drigolion Y Wladfa yn rhoi gwybodaeth iddynt am ddigwyddiadau cyfredol yng Nghymru. | |||
Ar ôl colli ei phriod dychwelodd Marian i fyw i Glynnog a chyflawnodd waith gorchestol yn y blynyddoedd a arweiniodd at sefydlu Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn 2006, gan gymryd rhan flaenllaw yn y gwaith llafurus o ymgeisio am grantiau o amryfal ffynonellau i sefydlu'r Ganolfan. Ers ei sefydlu mae wedi gweithredu'n ddi-dor fel ei hysgrifennydd hynod weithgar a chydwybodol. Yn ogystal, dan nawdd y Ganolfan, cyhoeddodd gyfrol ddifyr ar hanes ''Teulu Tan Clawdd'', cynheiliaid hen ffordd o fyw sydd mor agos at ei chalon. | |||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Haneswyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:58, 24 Mehefin 2022
Marian Elias Roberts yw Ysgrifennydd gweithgar Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn ei bro ac yn ehangach.
Magwyd Marian Elias yn ffermdy Hafod-y-wern ar y llethrau uwchlaw pentref Clynnog Fawr, yn un o bedwar o blant Robert a Deilwen Elias. (Hanai ei mam o'r Wern, Llanfrothen ac roedd ei thaid Thomas Richards yn englynwr o fri gyda'i englyn enwog i'r Ci Defaid yn gampwaith.) Ar ôl cael addysg gynradd yn ysgol Clynnog ac uwchradd yn Ysgol Sir Pen-y-groes aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle graddiodd yn y Gymraeg. Bu'n cyflawni swyddi gweinyddol i wahanol gyflogwyr, megis y BBC a Choleg Glannau Dyfrdwy, a bu hefyd yn hyfforddi myfyrwyr mewn medrau ysgrifenyddol a rheoli swyddfa.
Priododd ym mis Mawrth 1984 â'r actor a'r awdur Guto Roberts(Guto Rhos-lan) ac fe wnaethant ymgartrefu i ddechrau yn Garreg Boeth, Capel Uchaf. Roedd y ddau'n rhannu'r un delfrydau a gwerthoedd â'i gilydd a chawsant bymtheg mlynedd o fywyd priodasol dedwydd cyn i afiechyd oddiweddyd Guto, a fu farw ym 1999. Bu'r ddau'n weithgar iawn gyda phapur bro Lleu gan gyfrannu llawer o erthyglau iddo ar amrywiol bynciau. Buont hefyd yn aelodau o Gyngor Cymuned Clynnog am rai blynyddoedd cyn iddynt symud i fyw i'r Groeslon ym 1994. Fe wnaethant ymroi'r frwd yn ogystal i gynnal digwyddiadau i godi arian at Gronfa Goffa Saunders Lewis a hefyd gymryd rhan flaenllaw yn yr ymdrech i adfer Cae'r Gors yn waddol deilwng o athrylith Kate Roberts. Gweithgaredd arall o'u heiddo oedd sefydlu Yr Hen Wlad, cyfnodolyn chwarterol i drigolion Y Wladfa yn rhoi gwybodaeth iddynt am ddigwyddiadau cyfredol yng Nghymru.
Ar ôl colli ei phriod dychwelodd Marian i fyw i Glynnog a chyflawnodd waith gorchestol yn y blynyddoedd a arweiniodd at sefydlu Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn 2006, gan gymryd rhan flaenllaw yn y gwaith llafurus o ymgeisio am grantiau o amryfal ffynonellau i sefydlu'r Ganolfan. Ers ei sefydlu mae wedi gweithredu'n ddi-dor fel ei hysgrifennydd hynod weithgar a chydwybodol. Yn ogystal, dan nawdd y Ganolfan, cyhoeddodd gyfrol ddifyr ar hanes Teulu Tan Clawdd, cynheiliaid hen ffordd o fyw sydd mor agos at ei chalon.