Edmund Price: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Edmwnd Prys''' yn ficer Clynnog Fawr Fe'i benodwyd yn ficer Clynnog Fwr 10 Mai 1692 neu 1693.<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 20 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Edmwnd Prys''' yn ficer [[Clynnog Fawr]]  Fe'i benodwyd yn ficer Clynnog Fwr 10 Mai 1692 neu 1693.<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor During Three Centuries'', (Caerdydd, 1929), t.13</ref> Ei wraig oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1795, ac yr oedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw 10 Chwefror 1718/19. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.361.</ref>).
Roedd '''Edmund Price''' (neu weithiau, Edmwnd Prys)<ref>"Edmund Price" oedd ei ddull ei hun o lofnodi ei enw ar ei ewyllys</ref> yn ficer [[Clynnog Fawr]], (?1662-1719). Fe'i penodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor During Three Centuries'', (Caerdydd, 1929), t.13</ref> Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Fodd bynnag, dadleuai Joseph Foster (yn ei ''Index Ecclesiasticus'') mai mab ydoedd i Edward Price, Llanbedr, Meirionydd, ac iddo ymaelodi (fel ‘pauper’) ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) 7 Ebrill 1682, yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685, a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall) yn 1688.<ref>''Y Bywgrafafiadur Ar-lein, erthygl am yr Archddiacon Edmwnd Prys, [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PRYS-EDM-1544?&query=morys%20clynnog&lang[]=en&lang[]=cy&lang[]=en&sort=sort_name&order=asc&rows=12&page=12#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4670462%2Fmanifest.json&xywh=-679%2C0%2C2421%2C1954]</ref> Gwraig Edmund oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1695, ac roedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1719. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.361.</ref>).


Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20</ref> Fe'i atgynhyrchir isod, wedi ei gopïo o'r gwreiddiol gan y Parch, Ddr, Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.<ref>Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), ''Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif''. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.</ref>
Yn ei ewyllys gadawodd gymynroddion ariannol i'w blant, a swllt yr un i'r deuddeg person tlotaf ym mhlwyf Clynnog.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewyllysiau, B/1718/36.</ref>
 
Yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae copi o ''Foxe's Ecclesiasticall Historie'' a oedd yn eiddo i Edmund Price, cyn iddo basio i ddwylo teulu Anwyl.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg 4458E</ref> 
 
Canwyd marwnad iddo gan [[Siôn Prichard Prys]] (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20</ref> Fe'i hatgynhyrchir isod, wedi ei chopïo o'r gwreiddiol gan y Parch. Ddr. Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.<ref>Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), ''Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif''. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.</ref>
 
Pan gyhoeddodd Ellis Wynne o'r Lasynys ei gyfrol ''Rheol Buchedd Sanctaidd'' (sef cyfieithiad o'r gwaith Saesneg ''Holy Living and Holy Dying'' gan Jeremy Taylor) ceir chwe englyn ar ddechrau'r gyfrol gan "Edm. Prys Ficar Clynnog Fawr yn Arfon" wedi eu cyfeirio "At Gyfieithydd Rheol Buchedd Sanctaidd" yn canmol y gwaith a llafur y cyfieithydd.<sup>[9]</sup>
 
 
''Prydydd''
    Y tŷ gweddi teg addas,
  Ganllaw iawn gred, gwinllan gras,
  Gwiw le a drych golau drem,
  Côr o sylwedd Caersalem,
  Ffordd gain yn arwain i'r ne',
  Lon adail lân eneidie,
  Perllan ffrwyth, purlan parlwr,
  Hardd i fyw, Duw yw dy dŵr.
  Lle'r oeddit, lliw ireiddwych,
  Gannaid hen iawn gynt yn wych,
  Poen awel gerth pa niwl gau
  A lwydodd d'oleuadau?
  Pa oer a blin, gerwin gur,
  Du ddialedd yw dy ddolur?
  A'th gôr a'th allor i'th ddydd, 
  Dramawr boen, mor drwm beunydd,
  A'th beraidd glych fal nych nâd
  Mwyna' 'dwaenwn mewn dwnad.
  Du chwerw iawn y'm dychrynwyd,
  Y glyn gwâr, os Clynnog wyd.
 
''Eglwys Clynnog''
    Och Clynnog wyf, ddi-nwyf nod,
  Bannau hen Beuno hynod.
  Bûm lewyrch gynnyrch i gant,
  Borth miloedd, aberth moliant,
  Yn llys teg, llawn anrhegion
  Fal dw' iaith o fawl Duw Iôn,
  Lle bri, waned yn llwybr i’r nef,
  Rinweddau yw, wy’n addef.
  ‘N awr yn glaf tan ffurfafen,
  Serth yw ‘mhwyll am syrthio 'mhen.
  Fy nghloch oedd fy nghylch weddi,
  Fy llwyr fraint, fy allor fri,
  Fy llusern, fy llioswr,
  Fy ffon deg, fy ffynnon dŵr,
  Fy llyw o nerth, fy llên ŵr,
  Fy ngwiw hedd, fy ngwahoddwr,
  Fy mhair olew, fy mhrelad,
  Fy ngŵr hen, fy ngwir fawrhad,
  Fy mhêr oglau, fy mh’riglor,
  Fy llewyrch er cyrch i'm côr,
  Fy mhur wres, fy nghynhesrwydd,
  Fy mhriod gwiwnod o'm gŵydd
  'Sywaeth aeth, mae'n saeth weithian
  Ddyrys le, wyf ddiwres Lan.
  Am hynny mae fy mhenyd,
  Archoll faith, a'm herchyll fyd,
  A baich im, nid heb achos,
  Anniddan iawn ddydd a nos.
 
''Prydydd''
  Och newydd awch anniwair,
  Tramawr gwymp, on'd trwm yw'r gair?
  A thrablin y'm cythryblwyd, 
  Fall oer waith, os felly 'rwyd.
  A dorrwyd pen nenbren iaith
  Bur ddeunydd. a barddoniaeth?
  A roed mewn arch yng ngwarchae
  Ddefnyddiaeth llywaeth o’i lle?
  A droed yr iaith, gwirfaith gof.
  Du oer ing i dir angof?
  Ai’r bedd yw etifeddiaeth
  Gŵr hoff rwydd â geiriau ffraeth?
  A roed gwreiddyn doethineb,
  Â chlwyf nych na chlywo neb
  ''(llinellau 63-76 i’w hychwanegu eto)''
  Tra diwall fryd, drwy’i holl fro
  Rhodd addysg, rhyw oedd iddo.
  Gorwyr er gras urddas Iôn
  Wych hygar i’r Arch’iagon,
  A drôi’r Salmau, hymnau hedd,
  Eng hynod ar gynghanedd.
  Mawl a fydd i’w gyf’’rwyddyd
  Trwy bur wir barch tra bo’r byd.
  O'i henw a'i lin, hwn 'n ail oedd;
  O wybodaeth mab ydoedd.
  Iddo ran ei gyfraniad
  Mae'n dasg rhodd mewn dysg a rhad.
  Gorau rhai o garwyr hedd
  Hil iawn fwyn haelion fonedd,
  Rhyw addas, a rhai oeddynt
  Hedd Molwynog enwog gynt,
  Benwyn erchwyn o Farchudd
  Ac Einiawn a gawn heb gudd,
  Yn brif dadau gorau gwedd   
  Llên rhadol llawn anrhydedd.
  Rhai o gynnydd rhyw gannaid
  Llywelyn, hil Bleddyn blaid.
  Hil Iestyn deg mynegir,
  Gawr gain hen, ap Gwrgan hir.
  Gwegi fai henwi hannar
  Ei hynafiad gwiwrad gŵar.
 
  Byddwn gall a deallwn
  Noddfa hedd gyneddfau hwn,
  A'i fuchedd mewn rhinwedd rhad,
  Dda wych ryw, ei ddechreuad.
  Byw mewn deddfol ysgolion,
  Dirion iawn sail y deyrnas hon,
  A'i faeth yn rhain nes ei fod,
  Iawn reolau'n, wir aelod,
  Mewn oedran diddan a doeth
  Dewr union di-air-annoeth.
  Pwy er gwellhad pechadur
  Â'i athrawiaeth berffaith mor bur,
  Mor gynnes er lles i'r Llan,
  Etholaidd araith wiwlan,
  Mor glaearaidd lariaidd lên
  Cannaid rhag magu cynnen,
  Mor astud gwiwfryd ac iach,
  Poen ddyfal, pan oedd afiach?
  Rhoi, â’i wên ar ei ene,
  O ddiwres gorff, addysg gre',
  Pwnc lyfn glo, pen colofn gwlad,
  Brig athro, ei bregethiad.
  Gair Duw tra fu fyw, trwy fawl
  Groyw iawn fodd, yn grefyddawl.
  Llais gwiwlan, nid llusg waeledd,
  Sain organ fwynlan hyd fedd.
  Mor brydferth gyfnerth i gyd
  Gwir awch. a gŵr o iechyd.
  Un i'w plaid oedd oen i'w plith
  Rhywiogaidd ddi-air-rhagrith,
  A'i aur,heblaw ei eiriau,
  Ddoniau ced, yn ddinacáu
  Oedd barod rhag cernod caeth,
  Gam oer ddig, i'r gymdogaeth.
  Rhoi ar goel i'r rhai gwaela'
  'N rhwydd fenthyg heb ddig ei dda.
  Ni wnâi gam wayw-lam o'i le,
  Na cham mawr ni chymere.
  Doeth ddigynnen ymsennu,
  Gellweirus dawnus i'w dŷ.
  O'i elw fraint, pa le i'r fro
  A fu gwresog fwy groeso?
  Pêr gynnydd faeth helaethwych
  I'r gwael yn gystal â'r gwych.
  Hydd â geiriau hawddgaredd
  I'w briod fawrglod hyd fedd.
 
  Ac ni fu, gwiw un o fawl,
  Ufudd ddoniau'n feddiannawl,
  Gan blant hynod eu codiad,
  Haelwych dwr, anwylach dad.
  Gŵr ag urddas i' r gwirdduw
  I fyny'n eu dwyn 'n ofn Duw.
  Ac er haeddu cyrhaeddyd
  Mawr iawn barch ym marn y byd,
  Pur iawn lwydd, pa rai'n y wlad
  Mor wedd deg, mor dda'u dygiad
  Yn llywydd ar cyn lleied?
  Mor ddiddan, mor dda'i addysg,
  Foddion mawl, fyddai'n eu mysg!
  Y llynedd, mor llawenwych
  Er clwyfus anafus nych;
  'Leni mae'n frad safadwy,
  Achwyn tost, nych iddynt hwy,
  Nych o boen i'w dihoeni,
  Archoll grym ac erchyll gri,
  Am fwynaidd, glaearaidd glod
  Diwyd heini, dad hynod.
 
  Gwae eilwaith i'w gywely
  Drwy amod faith, drymed fu
  Ei dynnu o'i dŷ annedd,
  Glân iawn barch, a'i gloi'n y bedd.
  Llewyg wylo, lli' galar,
  Difri iawn wedd, dwyfron wâr,
  Poen ddirfawr er pan ddarfu
  Roi 'ngharchar y ddaear ddu
  Ei hanwylyd, hoywfryd hedd,
  Llafurus a'i holl fawredd.
 
    Hyll ddyrnod, garwnod o gur,
  Gais  dialedd megis dolur,
  I'w fab hynaf, bruddaf bron,
  Sydd wrol o swydd Aron,
  Meistr Edwart moes tradoeth,
  Fwynaidd da difeinydd doeth.
  Gwall heddiw er gwell addysg,
  Byw mewn mawl, na bai'n eu mysg,
  Bod ar led ei gerddediad,
  Llew bri doeth, 'n llwybrau ei dad.
  Trwm ludded weled Wiliam,
  Baun di-feth, heb ond ei fam.
  Ffraeth lin tw' eginin teg wedd,
  Mawr fu'r ing mor ieuangedd.
  I Elsbeth, heleth wylo,
  Diwael wych un, dal i'w cho'
  Drwy drymder fwyn dyner dad
  Fu ragorol fawr gariad.
  Ni bu 'rioed ferch ym mherchen
  Heb draws ffug, na llyg na llên,
  Gloywfun wawr yn glaf, yn iach,
  I’w foddio fai'n ufuddach.
  Durew a bloedd doriad blin,
  Och alar i'w  ferch Elin;
  A thrwm i Ann wiwlan wedd
  A fu lawen oleuwedd.
  Ochneidion drwy greulon gri
  Alarus yw i Lowri.
  Hyll ddyrnod er trallod trwch
  I'w frawd, o anhyfrydwch.
  Chwaer a cheraint awch oeredd
  Gan hiraeth yn waethwaeth wedd.
 
  Gwae Glynnog oediog wedi;
  O'i chôr teg ei chariad hi
  A giliodd, gwywodd, nid gau,
  Darostyngodd trist angau,
  Gorau hawl, o gyrrau hon,
  Athro gŵyl, ei thrigolion.
  A thrwy'r wlad yn wastadol
  Y cawn rai'n cwyno ar ei ôl.
  Na chwynent, yn iach heno
  Yn y byd i'w fywyd fo.
  Ni ddaw o Grist er tristwch
  Nac er gwên y llên o'r llwch.
  Deg Iôn enwog, dwg ninne
  O raean llawr i'r un lle.
                          JOHN PRICHARD PRYS
<


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
9. ''Rheol Buchedd Sanctaidd'' gan Jer. Taylor, D.D., (Llundain, 1701 - atgynhyrchwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1928).
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pontydd]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Offeiriaid]]
[[Categori:Barddoniaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:06, 24 Mehefin 2022

Roedd Edmund Price (neu weithiau, Edmwnd Prys)[1] yn ficer Clynnog Fawr, (?1662-1719). Fe'i penodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.[2] Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Fodd bynnag, dadleuai Joseph Foster (yn ei Index Ecclesiasticus) mai mab ydoedd i Edward Price, Llanbedr, Meirionydd, ac iddo ymaelodi (fel ‘pauper’) ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) 7 Ebrill 1682, yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685, a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall) yn 1688.[3] Gwraig Edmund oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1695, ac roedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1719. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.[4]).

Yn ei ewyllys gadawodd gymynroddion ariannol i'w blant, a swllt yr un i'r deuddeg person tlotaf ym mhlwyf Clynnog.[5]

Yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae copi o Foxe's Ecclesiasticall Historie a oedd yn eiddo i Edmund Price, cyn iddo basio i ddwylo teulu Anwyl.[6]

Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.[7] Fe'i hatgynhyrchir isod, wedi ei chopïo o'r gwreiddiol gan y Parch. Ddr. Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.[8]

Pan gyhoeddodd Ellis Wynne o'r Lasynys ei gyfrol Rheol Buchedd Sanctaidd (sef cyfieithiad o'r gwaith Saesneg Holy Living and Holy Dying gan Jeremy Taylor) ceir chwe englyn ar ddechrau'r gyfrol gan "Edm. Prys Ficar Clynnog Fawr yn Arfon" wedi eu cyfeirio "At Gyfieithydd Rheol Buchedd Sanctaidd" yn canmol y gwaith a llafur y cyfieithydd.[9]


Prydydd
   Y tŷ gweddi teg addas,
 Ganllaw iawn gred, gwinllan gras,
 Gwiw le a drych golau drem,
 Côr o sylwedd Caersalem,
 Ffordd gain yn arwain i'r ne',
 Lon adail lân eneidie,
 Perllan ffrwyth, purlan parlwr, 
 Hardd i fyw, Duw yw dy dŵr.
 Lle'r oeddit, lliw ireiddwych,
 Gannaid hen iawn gynt yn wych, 
 Poen awel gerth pa niwl gau 
 A lwydodd d'oleuadau?
 Pa oer a blin, gerwin gur,
 Du ddialedd yw dy ddolur?	
 A'th gôr a'th allor i'th ddydd,   
 Dramawr boen, mor drwm beunydd, 
 A'th beraidd glych fal nych nâd 
 Mwyna' 'dwaenwn mewn dwnad.
 Du chwerw iawn y'm dychrynwyd,
 Y glyn gwâr, os Clynnog wyd.
Eglwys Clynnog
   Och Clynnog wyf, ddi-nwyf nod,
 Bannau hen Beuno hynod. 
 Bûm lewyrch gynnyrch i gant, 
 Borth miloedd, aberth moliant, 
 Yn llys teg, llawn anrhegion 
 Fal dw' iaith o fawl Duw Iôn,
 Lle bri, waned yn llwybr i’r nef,
 Rinweddau yw, wy’n addef.
 ‘N awr yn glaf tan ffurfafen, 
 Serth yw ‘mhwyll am syrthio 'mhen. 
 Fy nghloch oedd fy nghylch weddi, 
 Fy llwyr fraint, fy allor fri, 
 Fy llusern, fy llioswr, 
 Fy ffon deg, fy ffynnon dŵr, 
 Fy llyw o nerth, fy llên ŵr,
 Fy ngwiw hedd, fy ngwahoddwr, 
 Fy mhair olew, fy mhrelad, 
 Fy ngŵr hen, fy ngwir fawrhad, 
 Fy mhêr oglau, fy mh’riglor, 
 Fy llewyrch er cyrch i'm côr, 
 Fy mhur wres, fy nghynhesrwydd,
 Fy mhriod gwiwnod o'm gŵydd
 'Sywaeth aeth, mae'n saeth weithian 
 Ddyrys le, wyf ddiwres Lan.
 Am hynny mae fy mhenyd, 
 Archoll faith, a'm herchyll fyd,
 A baich im, nid heb achos,
 Anniddan iawn ddydd a nos.
Prydydd
  Och newydd awch anniwair,
 Tramawr gwymp, on'd trwm yw'r gair?
 A thrablin y'm cythryblwyd,   
 Fall oer waith, os felly 'rwyd.
 A dorrwyd pen nenbren iaith
 Bur ddeunydd. a barddoniaeth?
 A roed mewn arch yng ngwarchae
 Ddefnyddiaeth llywaeth o’i lle?
 A droed yr iaith, gwirfaith gof.
 Du oer ing i dir angof?
 Ai’r bedd yw etifeddiaeth
 Gŵr hoff rwydd â geiriau ffraeth?
 A roed gwreiddyn doethineb,
 Â chlwyf nych na chlywo neb
  (llinellau 63-76 i’w hychwanegu eto)
 Tra diwall fryd, drwy’i holl fro
 Rhodd addysg, rhyw oedd iddo.
 Gorwyr er gras urddas Iôn
 Wych hygar i’r Arch’iagon,
 A drôi’r Salmau, hymnau hedd,
 Eng hynod ar gynghanedd.
 Mawl a fydd i’w gyf’’rwyddyd
 Trwy bur wir barch tra bo’r byd.
 O'i henw a'i lin, hwn 'n ail oedd; 
 O wybodaeth mab ydoedd. 
 Iddo ran ei gyfraniad 
 Mae'n dasg rhodd mewn dysg a rhad. 
 Gorau rhai o garwyr hedd
 Hil iawn fwyn haelion fonedd, 
 Rhyw addas, a rhai oeddynt 
 Hedd Molwynog enwog gynt,
 Benwyn erchwyn o Farchudd 
 Ac Einiawn a gawn heb gudd, 
 Yn brif dadau gorau gwedd     
 Llên rhadol llawn anrhydedd. 
 Rhai o gynnydd rhyw gannaid 
 Llywelyn, hil Bleddyn blaid.
 Hil Iestyn deg mynegir, 
 Gawr gain hen, ap Gwrgan hir.
 Gwegi fai henwi hannar 
 Ei hynafiad gwiwrad gŵar.
  Byddwn gall a deallwn
 Noddfa hedd gyneddfau hwn,
 A'i fuchedd mewn rhinwedd rhad, 
 Dda wych ryw, ei ddechreuad. 
 Byw mewn deddfol ysgolion,
 Dirion iawn sail y deyrnas hon, 
 A'i faeth yn rhain nes ei fod, 
 Iawn reolau'n, wir aelod, 
 Mewn oedran diddan a doeth 
 Dewr union di-air-annoeth. 
 Pwy er gwellhad pechadur 
 Â'i athrawiaeth berffaith mor bur,
 Mor gynnes er lles i'r Llan, 
 Etholaidd araith wiwlan,
 Mor glaearaidd lariaidd lên 
 Cannaid rhag magu cynnen, 
 Mor astud gwiwfryd ac iach, 
 Poen ddyfal, pan oedd afiach?
 Rhoi, â’i wên ar ei ene,
 O ddiwres gorff, addysg gre',
 Pwnc lyfn glo, pen colofn gwlad, 
 Brig athro, ei bregethiad.
 Gair Duw tra fu fyw, trwy fawl
 Groyw iawn fodd, yn grefyddawl.
 Llais gwiwlan, nid llusg waeledd,
 Sain organ fwynlan hyd fedd.
 Mor brydferth gyfnerth i gyd
 Gwir awch. a gŵr o iechyd.
 Un i'w plaid oedd oen i'w plith
 Rhywiogaidd ddi-air-rhagrith, 
 A'i aur,heblaw ei eiriau, 
 Ddoniau ced, yn ddinacáu 
 Oedd barod rhag cernod caeth,
 Gam oer ddig, i'r gymdogaeth. 
 Rhoi ar goel i'r rhai gwaela' 
 'N rhwydd fenthyg heb ddig ei dda. 
 Ni wnâi gam wayw-lam o'i le,
 Na cham mawr ni chymere. 
 Doeth ddigynnen ymsennu, 
 Gellweirus dawnus i'w dŷ. 
 O'i elw fraint, pa le i'r fro
 A fu gwresog fwy groeso?
 Pêr gynnydd faeth helaethwych 
 I'r gwael yn gystal â'r gwych.
 Hydd â geiriau hawddgaredd 
 I'w briod fawrglod hyd fedd.
  Ac ni fu, gwiw un o fawl, 
 Ufudd ddoniau'n feddiannawl,
 Gan blant hynod eu codiad, 
 Haelwych dwr, anwylach dad. 
 Gŵr ag urddas i' r gwirdduw 
 I fyny'n eu dwyn 'n ofn Duw.
 Ac er haeddu cyrhaeddyd
 Mawr iawn barch ym marn y byd, 
 Pur iawn lwydd, pa rai'n y wlad
 Mor wedd deg, mor dda'u dygiad
 Yn llywydd ar cyn lleied?
 Mor ddiddan, mor dda'i addysg, 
 Foddion mawl, fyddai'n eu mysg! 
 Y llynedd, mor llawenwych 
 Er clwyfus anafus nych; 
 'Leni mae'n frad safadwy, 
 Achwyn tost, nych iddynt hwy, 
 Nych o boen i'w dihoeni, 
 Archoll grym ac erchyll gri, 
 Am fwynaidd, glaearaidd glod 
 Diwyd heini, dad hynod.
  Gwae eilwaith i'w gywely 
 Drwy amod faith, drymed fu
 Ei dynnu o'i dŷ annedd, 
 Glân iawn barch, a'i gloi'n y bedd.
 Llewyg wylo, lli' galar,
 Difri iawn wedd, dwyfron wâr, 
 Poen ddirfawr er pan ddarfu
 Roi 'ngharchar y ddaear ddu
 Ei hanwylyd, hoywfryd hedd,
 Llafurus a'i holl fawredd.
   Hyll ddyrnod, garwnod o gur, 
 Gais  dialedd megis dolur, 
 I'w fab hynaf, bruddaf bron,
 Sydd wrol o swydd Aron,
 Meistr Edwart moes tradoeth, 
 Fwynaidd da difeinydd doeth.
 Gwall heddiw er gwell addysg,
 Byw mewn mawl, na bai'n eu mysg,
 Bod ar led ei gerddediad,
 Llew bri doeth, 'n llwybrau ei dad.
 Trwm ludded weled Wiliam, 
 Baun di-feth, heb ond ei fam.
 Ffraeth lin tw' eginin teg wedd,
 Mawr fu'r ing mor ieuangedd.
 I Elsbeth, heleth wylo,
 Diwael wych un, dal i'w cho'
 Drwy drymder fwyn dyner dad 
 Fu ragorol fawr gariad. 
 Ni bu 'rioed ferch ym mherchen 
 Heb draws ffug, na llyg na llên,
 Gloywfun wawr yn glaf, yn iach,
 I’w foddio fai'n ufuddach. 
 Durew a bloedd doriad blin,
 Och alar i'w  ferch Elin; 
 A thrwm i Ann wiwlan wedd
 A fu lawen oleuwedd.
 Ochneidion drwy greulon gri
 Alarus yw i Lowri.
 Hyll ddyrnod er trallod trwch 
 I'w frawd, o anhyfrydwch. 
 Chwaer a cheraint awch oeredd 
 Gan hiraeth yn waethwaeth wedd.
 
  Gwae Glynnog oediog wedi;
 O'i chôr teg ei chariad hi
 A giliodd, gwywodd, nid gau,
 Darostyngodd trist angau,
 Gorau hawl, o gyrrau hon,
 Athro gŵyl, ei thrigolion.
 A thrwy'r wlad yn wastadol 
 Y cawn rai'n cwyno ar ei ôl.
 Na chwynent, yn iach heno
 Yn y byd i'w fywyd fo.
 Ni ddaw o Grist er tristwch 
 Nac er gwên y llên o'r llwch.
 Deg Iôn enwog, dwg ninne
 O raean llawr i'r un lle.
                         JOHN PRICHARD PRYS

<

Cyfeiriadau

9. Rheol Buchedd Sanctaidd gan Jer. Taylor, D.D., (Llundain, 1701 - atgynhyrchwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1928).

  1. "Edmund Price" oedd ei ddull ei hun o lofnodi ei enw ar ei ewyllys
  2. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor During Three Centuries, (Caerdydd, 1929), t.13
  3. Y Bywgrafafiadur Ar-lein, erthygl am yr Archddiacon Edmwnd Prys, [=en&lang[]=cy&lang[]=en&sort=sort_name&order=asc&rows=12&page=12#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4670462%2Fmanifest.json&xywh=-679%2C0%2C2421%2C1954]
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.361.
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewyllysiau, B/1718/36.
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg 4458E
  7. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20
  8. Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.