Marian Elias Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Marian Elias Roberts''' yw Ysgrifennydd gweithgar Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwydd...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:19, 23 Mehefin 2022
Marian Elias Roberts yw Ysgrifennydd gweithgar Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn ei bro ac yn ehangach.
Magwyd Marian Elias yn ffermdy Hafod-y-wern ar y llethrau uwchlaw pentref Clynnog Fawr, yn un o bedwar o blant Morris a Deilwen Elias. (Hanai ei mam o'r Wern, Llanfrothen ac roedd ei thaid Thomas Richards yn englynwr o fri gyda'i englyn enwog i'r Ci Defaid yn gampwaith.) Ar ôl cael addysg gynradd yn ysgol Clynnog ac uwchradd yn Ysgol Sir Pen-y-groes aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle graddiodd yn y Gymraeg. Bu'n cyflawni swyddi gweinyddol i wahanol gyflogwyr, megis y BBC a Choleg Glannau Dyfrdwy, a bu hefyd yn hyfforddi myfyrwyr mewn medrau ysgrifenyddol a rheoli swyddfa.