Alexander Marshall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Alexander Marshall''' yn reolwr cyffredinol Rheilffordd Nantlle dan Edward Preston, y prydleswr o 1856 ymlaen.<ref>JIC Boyd ''Narrow Gaug...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:02, 19 Ionawr 2018
Roedd Alexander Marshall yn reolwr cyffredinol Rheilffordd Nantlle dan Edward Preston, y prydleswr o 1856 ymlaen.[1] Fe adawodd ei swydd, fodd bynnag, ym 1862, gan symud o'r ardal. Mae'n debyg iddo fod yn boblogaidd ymysg y dosbarth busnes yn Nyffryn Nantlle, gan iddynt gynnal cinio ffarwèl iddo yn Nafarn y Stag, Pen-y-groes, pan dderbyniodd dysteb o gwpan a lwyau arian. Gofidiai'r rhai oedd yno am yr amgylchiadau a'i orfododd i ymddiswyddo o'i swydd.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma