Pont Mur-y-goeden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Pont Mur-y-goeden''' ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai yn y man lle mae'r ffordd i Ben Llŷn yn croesi o blwyf Llanaelhaearn i hen blwyf Carnguwch...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:40, 21 Mehefin 2022

Saif Pont Mur-y-goeden ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai yn y man lle mae'r ffordd i Ben Llŷn yn croesi o blwyf Llanaelhaearn i hen blwyf Carnguwch, ger Bwlch Siwncwl rhwng Yr Eifl a Mynydd Carnguwch. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran y bont ond mae'n debygol o fod yn bur hen gan ei fod yn rhannu rhai o nodweddion hen bontydd Llŷn ag Eifionydd gyda sarnau ar bob pen. Mae'n cael ei henw o hen fwthyn Mur-y-goeden a safai ar ochr y lôn gerllaw.