Lôn Cefn Glyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Adeiladwyd '''Lôn Cefn Glyn''' yn yr 1830au wrth i Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough ail-lunio'r tir o gwmpas Plas Glynllifon, gan...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:21, 21 Mehefin 2022

Adeiladwyd Lôn Cefn Glyn yn yr 1830au wrth i Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough ail-lunio'r tir o gwmpas Plas Glynllifon, gan godi wal saith milltir o hyd o gwmpas y parc ar ei ffurf newydd. I'r gogledd o'r plas, newidiwyd ffiniau ffermydd yr ystad, ac ail-drefnwyd yr hen ffordd blwyfol sydd yn rhedeg o'r mawndiroedd a'r mynydd agored heibio Rhosnenan lle saif pentref Y Groeslon heddiw, ac ymlaen i dreflan Ffrwd ac eglwys plwyf Llandwrog. Enw lleol ar y lôn a sefydlwyd wrth ochr y wal o'r Groeslon hyd Ffrwd oedd "Lôn Cefn Glyn" ac erbyn hyn mae'n cael ei gydnabod ar arwyddion ffyrdd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol a lleol