Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Syr Thomas Wynn,Barwnig 1af i Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af heb adael dolen ailgyfeirio |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Penteulu teulu Wynniaid Boduan | Penteulu teulu Wynniaid Boduan yn Llŷn oedd '''Thomas Wynn''' (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd â Frances, merch [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]] ac aeres [[Ystad Glynllifon]], tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, trwy ddylanwad ei frawd - efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig ac yn gwasanaethu mab y Brenin. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd Thomas ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg ar wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i [[Glynllifon]] gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 171-3</ref> Yn y dyddiau cynnar, roedd yn gartref i William Wynn, ei frawd iau.<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1715-1754/member/wynn-sir-william-1678-1754]</ref> | ||
Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn, 2il Farwnig | Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn]], yr 2il Farwnig, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig gyntaf William Thomas, Coed Helen, a Frances (1713-84) a fu farw'n ddi-briod.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 173</ref> | ||
Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eistedd fel aelod seneddol dros frwdeistrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Cyn hynny, bu'n Uchef Siryf Sir Gaernarfon ym 1712. Dywedir iddo greu llawer o fwrdeisiaid (dynion â hawliau penodol mewn tref) ym mwrdeistrefi'r sir lle roedd yn gallu dylanwadu ar y gorfforaeth fwrdeistrefol oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sylweddol yno. Nid oedd y bwrdeiswyr newydd hyn yn byw o anghenraid yn y dref lle roeddent wedi derbyn statws bwrdeisiaid ond roeddent yn sicr o roi eu pleidlais i Thomas Wynn mewn unrhyw etholiad a gynhelid. Rhwng 1707 a 1713, ychwanegodd 689 o fwrdeisiaid newydd at y 24 a oedd cynt yn Nefyn; ac ym Mhwllheli, cynyddodd y rhif o 36 i 210.<ref>P.G.T. Thomas, ''The Parliamentary Representation of Caernarvonshire in the Eighteenth Century'', (Trafodion Cym Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 19 (1958)), t. 44</ref> Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (''equerries'') y tywysog, a pharhaodd yn y swyddogaeth honno wedi i hwnnw fynd yn frenin ym 1727 (heblaw am dair blynedd, 1724-7, pan weithredodd fel Cwnstabl Castell Caernarfon a Chlerc Llys y Tywysog).<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1690-1715/member/wynn-thomas-1677-1749]</ref> Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe ddaliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth â £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly'n ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30</ref> | |||
{{eginyn}} | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Tirfeddianwyr]] | |||
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]] | |||
[[Categori:Gwleidyddion]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:59, 18 Mehefin 2022
Penteulu teulu Wynniaid Boduan yn Llŷn oedd Thomas Wynn (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd â Frances, merch John Glynn ac aeres Ystad Glynllifon, tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, trwy ddylanwad ei frawd - efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig ac yn gwasanaethu mab y Brenin. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd Thomas ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg ar wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i Glynllifon gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.[1] Yn y dyddiau cynnar, roedd yn gartref i William Wynn, ei frawd iau.[2]
Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, Syr John Wynn, yr 2il Farwnig, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig gyntaf William Thomas, Coed Helen, a Frances (1713-84) a fu farw'n ddi-briod.[3]
Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eistedd fel aelod seneddol dros frwdeistrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Cyn hynny, bu'n Uchef Siryf Sir Gaernarfon ym 1712. Dywedir iddo greu llawer o fwrdeisiaid (dynion â hawliau penodol mewn tref) ym mwrdeistrefi'r sir lle roedd yn gallu dylanwadu ar y gorfforaeth fwrdeistrefol oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sylweddol yno. Nid oedd y bwrdeiswyr newydd hyn yn byw o anghenraid yn y dref lle roeddent wedi derbyn statws bwrdeisiaid ond roeddent yn sicr o roi eu pleidlais i Thomas Wynn mewn unrhyw etholiad a gynhelid. Rhwng 1707 a 1713, ychwanegodd 689 o fwrdeisiaid newydd at y 24 a oedd cynt yn Nefyn; ac ym Mhwllheli, cynyddodd y rhif o 36 i 210.[4] Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (equerries) y tywysog, a pharhaodd yn y swyddogaeth honno wedi i hwnnw fynd yn frenin ym 1727 (heblaw am dair blynedd, 1724-7, pan weithredodd fel Cwnstabl Castell Caernarfon a Chlerc Llys y Tywysog).[5] Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe ddaliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth â £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly'n ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.[6]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 171-3
- ↑ ‘’History of Parliament’’ [1]
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 173
- ↑ P.G.T. Thomas, The Parliamentary Representation of Caernarvonshire in the Eighteenth Century, (Trafodion Cym Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 19 (1958)), t. 44
- ↑ ‘’History of Parliament’’ [2]
- ↑ Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30