Pont Elernion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pont fechan dros Afon Tâl y tu allan i ffermdy Elernion yw '''Pont Elernion'''. Nid oes unrhyw hynodrwydd arbennig yn perthyn iddi a chan fod hanes trefg...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:16, 7 Mehefin 2022

Pont fechan dros Afon Tâl y tu allan i ffermdy Elernion yw Pont Elernion. Nid oes unrhyw hynodrwydd arbennig yn perthyn iddi a chan fod hanes trefgordd Elernion yn ymestyn yn ôl am bron i fil o flynyddoedd dichon fod sawl pont wedi bod yno dros y canrifoedd. Mae'n bosib iawn hefyd mai rhyd oedd dros yr afon yno am flynyddoedd lawer hefyd, gan fod yr afon yn fas iawn gan amlaf yn y llecyn hwn.