W.T. Williams, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd '''William Thomas Williams''', ac fel "Wil Llangybi" yr | Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd '''William Thomas Williams''', ac fel "Wil Llangybi" yr adwaenid ef yn [[Trefor|Nhrefor]]. Daeth i'r pentref yn bur ieuanc i weithio yn [[Chwarel yr Eifl]]. Fe'i cofir fel bardd medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Roedd yn aelod yng [[Capel Maesyneuadd (A), Trefor|nghapel Maesyneuadd]]. | ||
Fel hyn y dywedodd Cybi amdano yn ei ''Golofn Awen'' mewn papur lleol ym Mhwllheli, 21 Chwefror 1917. Roedd Cybi a W.T. Williams yn gyfeillion bore oes. | Fel hyn y dywedodd Cybi amdano yn ei ''Golofn Awen'' mewn papur lleol ym Mhwllheli, 21 Chwefror 1917. Roedd Cybi a W.T. Williams yn gyfeillion bore oes. | ||
''Dewch ynte i hedd bore bywyd yn Ardal y Cewri i wrando ar un o'i phrydyddion ieuainc tra gobeithiol yn canu i'w hen ysgol, sef :'' | ''Dewch ynte i hedd bore bywyd yn Ardal y Cewri i wrando ar un o'i phrydyddion ieuainc tra gobeithiol yn canu i'w hen ysgol, sef:'' | ||
'''HEN YSGOL HOFF LLANGYBI''' | '''HEN YSGOL HOFF LLANGYBI''' |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:57, 20 Mai 2022
Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd William Thomas Williams, ac fel "Wil Llangybi" yr adwaenid ef yn Nhrefor. Daeth i'r pentref yn bur ieuanc i weithio yn Chwarel yr Eifl. Fe'i cofir fel bardd medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Roedd yn aelod yng nghapel Maesyneuadd.
Fel hyn y dywedodd Cybi amdano yn ei Golofn Awen mewn papur lleol ym Mhwllheli, 21 Chwefror 1917. Roedd Cybi a W.T. Williams yn gyfeillion bore oes.
Dewch ynte i hedd bore bywyd yn Ardal y Cewri i wrando ar un o'i phrydyddion ieuainc tra gobeithiol yn canu i'w hen ysgol, sef:
HEN YSGOL HOFF LLANGYBI
Hen ysgol hoff Llangybi - wrth edrych arnat ti Bydd tristwch yn fy mynwes, daw hiraeth arnaf fi ; Mae'r oll o'm hen gyfeillion ar draws a lled y byd, Ac nis oes lais adwaenaf o fewn dy furiau clyd.
Dychmygaf weld wynebau rhai o'm cyfeillion cu, A chlywed lleisiau'n galw fel byddai amser fu ; Os cweryl bach ddigwyddai, ni fyddai hwnnw'n hir ; Ac ni chai'r haul fachludo heb lawn faddeuant gwir.
Diddichell y calonnau, diniwed ddwylaw glân, A phurach y meddyliau na'r awr ddaeth trwy y tân ; Cenfigen nid oedd yno, na bron yn llunio brad, Trysorau mwy ardderchog nag aur a chyfoeth gwlad.
Pa le mae'r egin tyner fu'n tyfu yna gynt ? Ddifäwyd rhai o'r blodau gan fin y deifiol wynt ? Do, torrwyd rhai yn gynnar, daeth cennad nef i lawr, Ac aeth â rhai o'r blodau i ardd y Wynfa Fawr.
Tra eraill a adawyd dros ennyd yn y byd ; Ac nid yw'n bosib dyfod am unwaith eto 'nghyd ; Mae rhai tu draw i foroedd, ac eraill ar y don, Fu'n blant yr ysgol unwaith yn ddifyr chwarae'n llon.
Mae'r ysgol eto'n aros mor gadarn ag erioed, Ac enwau rhai fu yno a dorrwyd yn ei choed ; Ond llaw yr un a'u torrodd sydd heddiw'n wael ei wedd Yn gorffwys yn y fynwent, a'r ywen uwch ei fedd.
Yr adgof ddaw yn felys pan fydd yn amser cnau, - Fe gofiaf am yr helynt pan fyddai un neu ddau Ar ôl heb ddod i'r ysgol - melysed fyddai'r Allt ! A'r ysgolfeistr, yntau, yn dweud y drefn yn hallt.
Hen lwybrau fy ieuenctid, anwyled yw y rhain ; Fe gofiaf yr adwyon, a'r holl dwmpathau drain ; Wrth gerdded heibio'r ysgol rwy'n hoffi syllu'n syn ; A charaf feini'r muriau, a llwybrau Coed-cae-gwyn.
Digon syml, medd rhywun. Ie, ond dyna gamp cerdd o'r dosbarth hwn. Disgwyliwn bethau amgen gan y cyfaill hwn. Pe bai ei fedr gan rai â mwy o feddwl ohonynt eu hunain nag ef, gwnelent wrhydri. Cymered yntau yr hynt, er mai 'milwr mewn lifrai melyn ydyw'.
Yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor, 1927, fe enillodd W.T. Williams y gadair. Y beirniad oedd neb llai na Bardd yr Haf ei hun, R.Williams Parry. 'Y Lloer' oedd y testun a ffugenw'r bardd arobryn oedd Y Macwy Prudd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma