W.T. Williams, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd William Thomas Williams, ac fel "Wil Llangybi" yr adnabyddid ef yn Nhrefor. Daeth i'r pentref yn bur ieuanc...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd William Thomas Williams, ac fel "Wil Llangybi" yr adnabyddid ef yn Nhrefor. Daeth i'r pentref yn bur ieuanc i weithio yn Chwarel yr Eifl. Fe'i cofir fel bardd medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Roedd yn aelod yng nghapel Maesyneuadd.
Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd '''William Thomas Williams''', ac fel "Wil Llangybi" yr adwaenid ef yn [[Trefor|Nhrefor]]. Daeth i'r pentref yn bur ieuanc i weithio yn [[Chwarel yr Eifl]]. Fe'i cofir fel bardd medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Roedd yn aelod yng [[Capel Maesyneuadd (A), Trefor|nghapel Maesyneuadd]].


Fel hyn y dywedodd Cybi amdano yn ei ''Golofn Awen'' mewn papur lleol ym Mhwllheli, 21 Chwefror 1917. Roedd Cybi a W.T.Williams yn gyfeillion bore oes.
Fel hyn y dywedodd Cybi amdano yn ei ''Golofn Awen'' mewn papur lleol ym Mhwllheli, 21 Chwefror 1917. Roedd Cybi a W.T. Williams yn gyfeillion bore oes.


''Dewch ynte i hedd bore bywyd yn Ardal y Cewri i wrando ar un o'i phrydyddion ieuainc tra gobeithiol yn canu i'w hen ysgol, sef :''
''Dewch ynte i hedd bore bywyd yn Ardal y Cewri i wrando ar un o'i phrydyddion ieuainc tra gobeithiol yn canu i'w hen ysgol, sef:''


           '''HEN YSGOL HOFF LLANGYBI'''
           '''HEN YSGOL HOFF LLANGYBI'''
Llinell 49: Llinell 49:
''Digon syml, medd rhywun. Ie, ond dyna gamp cerdd o'r dosbarth hwn. Disgwyliwn bethau amgen gan y cyfaill hwn. Pe bai ei fedr gan rai â mwy o feddwl ohonynt eu hunain nag ef, gwnelent wrhydri. Cymered yntau yr hynt, er mai 'milwr mewn lifrai melyn ydyw'.''
''Digon syml, medd rhywun. Ie, ond dyna gamp cerdd o'r dosbarth hwn. Disgwyliwn bethau amgen gan y cyfaill hwn. Pe bai ei fedr gan rai â mwy o feddwl ohonynt eu hunain nag ef, gwnelent wrhydri. Cymered yntau yr hynt, er mai 'milwr mewn lifrai melyn ydyw'.''


Yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor, 1927, fe enillodd W.T.Williams y gadair. Y beirniad oedd neb llai na Bardd yr Haf ei hun, R.Williams Parry. 'Y Lloer' oedd y testun a ffugenw'r bardd arobryn oedd ''Y Macwy Prudd.''
Yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor, 1927, fe enillodd W.T. Williams y gadair. Y beirniad oedd neb llai na Bardd yr Haf ei hun, [[Robert Williams Parry|R.Williams Parry]]. 'Y Lloer' oedd y testun a ffugenw'r bardd arobryn oedd ''Y Macwy Prudd.''
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Chwarelwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:57, 20 Mai 2022

Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd William Thomas Williams, ac fel "Wil Llangybi" yr adwaenid ef yn Nhrefor. Daeth i'r pentref yn bur ieuanc i weithio yn Chwarel yr Eifl. Fe'i cofir fel bardd medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Roedd yn aelod yng nghapel Maesyneuadd.

Fel hyn y dywedodd Cybi amdano yn ei Golofn Awen mewn papur lleol ym Mhwllheli, 21 Chwefror 1917. Roedd Cybi a W.T. Williams yn gyfeillion bore oes.

Dewch ynte i hedd bore bywyd yn Ardal y Cewri i wrando ar un o'i phrydyddion ieuainc tra gobeithiol yn canu i'w hen ysgol, sef:

          HEN YSGOL HOFF LLANGYBI
 Hen ysgol hoff Llangybi - wrth edrych arnat ti
 Bydd tristwch yn fy mynwes, daw hiraeth arnaf fi ;
 Mae'r oll o'm hen gyfeillion ar draws a lled y byd,
 Ac nis oes lais adwaenaf o fewn dy furiau clyd. 
 Dychmygaf weld wynebau rhai o'm cyfeillion cu,
 A chlywed lleisiau'n galw fel byddai amser fu ;
 Os cweryl bach ddigwyddai, ni fyddai hwnnw'n hir ;
 Ac ni chai'r haul fachludo heb lawn faddeuant gwir.
 Diddichell y calonnau, diniwed ddwylaw glân,
 A phurach y meddyliau na'r awr ddaeth trwy y tân ;
 Cenfigen nid oedd yno, na bron yn llunio brad,
 Trysorau mwy ardderchog nag aur a chyfoeth gwlad.
 Pa le mae'r egin tyner fu'n tyfu yna gynt ?
 Ddifäwyd rhai o'r blodau gan fin y deifiol wynt ?
 Do, torrwyd rhai yn gynnar, daeth cennad nef i lawr,
 Ac aeth â rhai o'r blodau i ardd y Wynfa Fawr.
 Tra eraill a adawyd dros ennyd yn y byd ;
 Ac nid yw'n bosib dyfod am unwaith eto 'nghyd ;
 Mae rhai tu draw i foroedd, ac eraill ar y don,
 Fu'n blant yr ysgol unwaith yn ddifyr chwarae'n llon.
 Mae'r ysgol eto'n aros mor gadarn ag erioed,
 Ac enwau rhai fu yno a dorrwyd yn ei choed ;
 Ond llaw yr un a'u torrodd sydd heddiw'n wael ei wedd
 Yn gorffwys yn y fynwent, a'r ywen uwch ei fedd.
 Yr adgof ddaw yn felys pan fydd yn amser cnau, -
 Fe gofiaf am yr helynt pan fyddai un neu ddau
 Ar ôl heb ddod i'r ysgol - melysed fyddai'r Allt !
 A'r ysgolfeistr, yntau, yn dweud y drefn yn hallt.
 Hen lwybrau fy ieuenctid, anwyled yw y rhain ;
 Fe gofiaf yr adwyon, a'r holl dwmpathau drain ;
 Wrth gerdded heibio'r ysgol rwy'n hoffi syllu'n syn ;
 A charaf feini'r muriau, a llwybrau Coed-cae-gwyn.

Digon syml, medd rhywun. Ie, ond dyna gamp cerdd o'r dosbarth hwn. Disgwyliwn bethau amgen gan y cyfaill hwn. Pe bai ei fedr gan rai â mwy o feddwl ohonynt eu hunain nag ef, gwnelent wrhydri. Cymered yntau yr hynt, er mai 'milwr mewn lifrai melyn ydyw'.

Yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor, 1927, fe enillodd W.T. Williams y gadair. Y beirniad oedd neb llai na Bardd yr Haf ei hun, R.Williams Parry. 'Y Lloer' oedd y testun a ffugenw'r bardd arobryn oedd Y Macwy Prudd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau