Tom Bowen Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Tombowenjones2006.jpg|bawd|de|300px|Dawi Griffiths yn cyflwyno | [[Delwedd:Tombowenjones2006.jpg|bawd|de|300px|Dawi Griffiths yn cyflwyno copi o'i gyfrol ''Ar Anwadal Donnau'r Byd'' i Tom Bowen Jones ar achlysur agor Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn Ebrill 2006]] | ||
Ffermwr, pysgotwr, cenedlaetholwr a bardd oedd '''Tom Bowen Jones''' ( | Ffermwr, pysgotwr, cenedlaetholwr a bardd oedd '''Tom Bowen Jones''' (ganed 1921), Gwydir bach, [[Trefor]]. Yr oedd yn frawd i [[Robert Herbert Jones]], bardd arall crefftus, a adwaenid fel Robin Gwydir Bach.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
Cychwynnodd farddoni'n ifanc. Medd [[Cynan yn Nhrefor|Cynan]] mewn erthygl yn ''Lleufer'': | |||
"Ond yn wir i chi...dyma hogyn pedair ar bymtheg oed ataf â'r englyn campus hwn...i: | |||
'''Fynwent y Milwyr''' | |||
''O! Dirioned yw'r huno - sy o fewn | |||
''Y ddwys fynwent honno, | |||
''Y gwelw griw mewn gwelâu gro | |||
''O'r ffosydd yn gorffwyso.'' | |||
Amaethwr ifanc, Ton Bowen Jones, yw'r awdur."<ref>Cynan, ''Dysgu Barddoni'' (''Lleufer'', Cyf.XVIII, 3 (Hydref 1962) ), t.114.</ref> | |||
Yn Awst 1968 cynhaliwyd Y Genedlaethol yn Y Barri a’r Fro. Testun yr englyn oedd ''Map'' a’r enillydd oedd Tom Bowen Jones. Rhestrir yr englyn ymhlith dwsin englyn gorau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, yn ôl Dafydd Islwyn<ref>Dafydd Islwyn, ''Colofn Dafydd Islwyn'' (Cwm''ni'', Papur Sir Caerffili, Rhifyn 206, Hydref 2018) t.14.</ref>. | Yn Awst 1968 cynhaliwyd Y Genedlaethol yn Y Barri a’r Fro. Testun yr englyn oedd ''Map'' a’r enillydd oedd Tom Bowen Jones. Rhestrir yr englyn ymhlith dwsin englyn gorau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, yn ôl Dafydd Islwyn<ref>Dafydd Islwyn, ''Colofn Dafydd Islwyn'' (Cwm''ni'', Papur Sir Caerffili, Rhifyn 206, Hydref 2018) t.14.</ref>. | ||
Llinell 10: | Llinell 20: | ||
''Ond ynddo chwilio ni chaf | ''Ond ynddo chwilio ni chaf | ||
''Yn niwl y siwrne olaf.'' | ''Yn niwl y siwrne olaf.'' | ||
Englyn arall nodedig o'i eiddo yw'r un a dorrwyd ar gofeb Eben Fardd ym mynwent eglwys Clynnog Fawr. Yn nechrau'r 1950au, yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan Glan Rhythallt ar dudalennau'r ''Herald Cymraeg'', casglwyd arian i lanhau'r gofadail sylweddol sydd ar y bardd a chynhaliwyd cystadleuaeth yr un pryd i gyfansoddi englyn i'w dorri ar y gofeb. Cafwyd nifer sylweddol o gynigion, ond englyn Tom Bowen Jones a ddyfarnwyd yn fuddugol gan y beirniad, John Eilian. Mae'n gampwaith o englyn ac yn adleisio testun awdl fwyaf Eben Fardd, sef "Dinistr Jerwsalem": | |||
Dinistr Caersalem dynion - a welaist, | |||
A'u rhyfeloedd creulon; | |||
Cei fyd dianrhaith weithion | |||
Ar bwys yr hen eglwys hon. | |||
Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. <ref>Tom Bowen Jones a Tecwyn Jones, ''O Windy a Gweithdy’r Gân'' (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1981),</ref>. | Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. <ref>Tom Bowen Jones a Tecwyn Jones, ''O Windy a Gweithdy’r Gân'' (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1981),</ref>. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:25, 19 Mai 2022
Ffermwr, pysgotwr, cenedlaetholwr a bardd oedd Tom Bowen Jones (ganed 1921), Gwydir bach, Trefor. Yr oedd yn frawd i Robert Herbert Jones, bardd arall crefftus, a adwaenid fel Robin Gwydir Bach.[1]
Cychwynnodd farddoni'n ifanc. Medd Cynan mewn erthygl yn Lleufer:
"Ond yn wir i chi...dyma hogyn pedair ar bymtheg oed ataf â'r englyn campus hwn...i: Fynwent y Milwyr O! Dirioned yw'r huno - sy o fewn Y ddwys fynwent honno, Y gwelw griw mewn gwelâu gro O'r ffosydd yn gorffwyso. Amaethwr ifanc, Ton Bowen Jones, yw'r awdur."[2]
Yn Awst 1968 cynhaliwyd Y Genedlaethol yn Y Barri a’r Fro. Testun yr englyn oedd Map a’r enillydd oedd Tom Bowen Jones. Rhestrir yr englyn ymhlith dwsin englyn gorau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, yn ôl Dafydd Islwyn[3].
Map Yn hwn o hyd chwilio a wnaf -ar fy hynt Am ryw fan a geisiaf; Ond ynddo chwilio ni chaf Yn niwl y siwrne olaf.
Englyn arall nodedig o'i eiddo yw'r un a dorrwyd ar gofeb Eben Fardd ym mynwent eglwys Clynnog Fawr. Yn nechrau'r 1950au, yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan Glan Rhythallt ar dudalennau'r Herald Cymraeg, casglwyd arian i lanhau'r gofadail sylweddol sydd ar y bardd a chynhaliwyd cystadleuaeth yr un pryd i gyfansoddi englyn i'w dorri ar y gofeb. Cafwyd nifer sylweddol o gynigion, ond englyn Tom Bowen Jones a ddyfarnwyd yn fuddugol gan y beirniad, John Eilian. Mae'n gampwaith o englyn ac yn adleisio testun awdl fwyaf Eben Fardd, sef "Dinistr Jerwsalem":
Dinistr Caersalem dynion - a welaist, A'u rhyfeloedd creulon; Cei fyd dianrhaith weithion Ar bwys yr hen eglwys hon.
Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. [4].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma