Henry Parry-Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgolfeistr a bardd gwlad oedd '''Henry Parry-Williams''' (1858-1925). Hanai o bentref [[Carmel]], yn fab i Thomas a Mary Parry, Gwyndy, ac yn hanner frawd i Robert Parry, tad [[Robert Williams Parry]], ac yn perthyn hefyd i Syr [[Thomas Parry]] a [[Gruffudd Parry]].  Ei gyfenw gwreiddiol oedd "Parry", ond fe ychwanegwyd yr elfen "Williams" er cof am ei daid Henry Williams - cafodd ei dad y cyfenw "Parry" trwy i'r teulu arddel yr hen ddull patronymig Cymreig o enwi.
Ysgolfeistr a bardd gwlad oedd '''Henry Parry-Williams''' (1858-1925). Hanai o bentref [[Carmel]], yn fab i Thomas a Mary Parry, Gwyndy, ac yn hanner brawd i Robert Parry, tad [[Robert Williams Parry]], ac yn perthyn hefyd i Syr [[Thomas Parry]] a [[Gruffudd Parry]].  Ei gyfenw gwreiddiol oedd "Parry", ond fe ychwanegwyd yr elfen "Williams" er cof am ei daid Henry Williams - cafodd ei dad y cyfenw "Parry" trwy i'r teulu arddel yr hen ddull patronymig Cymreig o enwi.


Mynychodd [[Ysgol Bron-y-foel]], gan aros yno fel disgybl athro am bum mlynedd cyn cymhwyso'n athro yng Nholeg Normal Bangor. Heblaw am ychydig fisoedd yn Sir Benfro, treuliodd ei holl yrfa fel athro Ysgol [[Rhyd-ddu]], lle bu'n byw yn Nhŷ'r Ysgol. Yr hyn a'i nodweddai oedd ei gred fod angen dysgu llenyddiaeth Gymraeg (hyd yn oed llenyddiaeth Ganoloesol) i blant yn yr ysgol elfennol, fel ffordd o wneud iddynt ymfalchïo yn eu hiaith a'u gwlad. Bu hefyd yn croesawu academyddion o'r Cyfandir oedd am ddysgu'r Gymraeg fel lletywyr yn ei gartref.
Mynychodd [[Ysgol Bron-y-foel]], gan aros yno fel disgybl athro am bum mlynedd cyn cymhwyso'n athro yng Nholeg Normal Bangor. Heblaw am ychydig fisoedd yn Sir Benfro, treuliodd ei holl yrfa fel athro Ysgol [[Rhyd-ddu]], lle bu'n byw yn Nhŷ'r Ysgol. Yr hyn â'i nodweddai oedd ei gred fod angen dysgu llenyddiaeth Gymraeg (hyd yn oed llenyddiaeth Ganoloesol) i blant yn yr ysgol elfennol, fel ffordd o wneud iddynt ymfalchïo yn eu hiaith a'u gwlad. Bu hefyd yn croesawu academyddion o'r Cyfandir, a oedd am ddysgu'r Gymraeg, fel lletywyr yn ei gartref.


Roedd yn fardd cynhyrchiol, yn ymateb i geisiadau gan bobl leol ac yn ysgrifennu telynegion. Unwaith yn unig yr enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ym Mae Colwyn ym 1910, a hynny am gasgliad o delynegion.
Roedd yn fardd cynhyrchiol, yn ymateb i geisiadau gan bobl leol ac yn ysgrifennu telynegion. Unwaith yn unig yr enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ym Mae Colwyn ym 1910, a hynny am gasgliad o delynegion.


Ei briod oedd Ann Morris, Glangwyrfai, Rhyd-ddu, ac yr oedd ganddynt bedwar mab a dwy ferch, yn cynnwys Syr [[T. H. Parry-Williams]].
Ei briod oedd Ann Morris, Glangwyrfai, Rhyd-ddu, ac roedd ganddynt bedwar mab a dwy ferch, yn cynnwys Syr [[T. H. Parry-Williams]].


==Cyfeiriad==
==Cyfeiriad==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:02, 12 Mai 2022

Ysgolfeistr a bardd gwlad oedd Henry Parry-Williams (1858-1925). Hanai o bentref Carmel, yn fab i Thomas a Mary Parry, Gwyndy, ac yn hanner brawd i Robert Parry, tad Robert Williams Parry, ac yn perthyn hefyd i Syr Thomas Parry a Gruffudd Parry. Ei gyfenw gwreiddiol oedd "Parry", ond fe ychwanegwyd yr elfen "Williams" er cof am ei daid Henry Williams - cafodd ei dad y cyfenw "Parry" trwy i'r teulu arddel yr hen ddull patronymig Cymreig o enwi.

Mynychodd Ysgol Bron-y-foel, gan aros yno fel disgybl athro am bum mlynedd cyn cymhwyso'n athro yng Nholeg Normal Bangor. Heblaw am ychydig fisoedd yn Sir Benfro, treuliodd ei holl yrfa fel athro Ysgol Rhyd-ddu, lle bu'n byw yn Nhŷ'r Ysgol. Yr hyn â'i nodweddai oedd ei gred fod angen dysgu llenyddiaeth Gymraeg (hyd yn oed llenyddiaeth Ganoloesol) i blant yn yr ysgol elfennol, fel ffordd o wneud iddynt ymfalchïo yn eu hiaith a'u gwlad. Bu hefyd yn croesawu academyddion o'r Cyfandir, a oedd am ddysgu'r Gymraeg, fel lletywyr yn ei gartref.

Roedd yn fardd cynhyrchiol, yn ymateb i geisiadau gan bobl leol ac yn ysgrifennu telynegion. Unwaith yn unig yr enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ym Mae Colwyn ym 1910, a hynny am gasgliad o delynegion.

Ei briod oedd Ann Morris, Glangwyrfai, Rhyd-ddu, ac roedd ganddynt bedwar mab a dwy ferch, yn cynnwys Syr T. H. Parry-Williams.

Cyfeiriad

Thomas Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970 (Llundain, 1997), t.248.