Ellis Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Egin erthygl |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Ellis Jones (29 Ebrill, 1906 - 20 Mai, 1996) | Magwyd y bardd '''Ellis Jones''' (29 Ebrill, 1906 - 20 Mai, 1996) yn fferm Gilwern Uchaf, rhwng [[Rhostryfan]] a’r [[Y Groeslon|Groeslon]], ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Roedd yn fab i Owen R. Jones a’i wraig Margaret Ann Jones, ac yn un o saith o blant, chwe bachgen ac un ferch.<ref>Cyfrifiadau 1911 a 1921.</ref> | ||
Roedd yn englynwr medrus a bu'n cystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ymunodd â Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1948.<ref>Western Mail: 12/7/48.</ref> | |||
Gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Gobaith Gwan’ enillodd y gystadleuaeth ‘Englyn digri’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952, a feirniadwyd gan Waldo Williams<ref>Eisteddfod Genedlaethol Cymru – cyfansoddiadau a beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (1952).</ref>. | |||
:::::::::'''Gwlanen Goch''' | |||
::::::''Fy ewyrth sy’n rhy fywiog - yntau’n hen'' | |||
::::::::''Eto’n ŵr cyfoethog;'' | |||
:::::::''O wisgo’r wlanen enwog'' | |||
:::::::''Ar oer hin - difarw yw’r rôg."'' | |||
Roedd yn fardd a ddaliai egwyddorion cryf ac ymddiswyddodd o’r Orsedd pan dderbyniodd [[Cynan]] (Albert Evans Jones) ei urddo’n farchog ym 1969. | |||
''' | Cynhwyswyd a chyfieithwyd un o’i englynion ar gyfer y gyfrol ''Oxford Book of Welsh Verse''.<ref>The Oxford Book of Welsh Verse/ golygwyd gan Thomas Parry (Rhydychen, 1962).</ref> Dyma’r englyn gwreiddiol<ref>Gwybodaeth deuluol.</ref>. | ||
:::::::::'''Bargoed''' | |||
::::::''Rhu’n ddi-daw tra bo’n glawio - seiniau mwyn,'' | |||
::::::::''Fel sŵn mil yn godro:'' | |||
:::::::''Pan geir rhew yn dew ar do,'' | |||
:::::::''Daw hynod dethau dano."'' | |||
Ymgartrefodd yn [[Llanllyfni]] a bu'n gweithio i gynghorau lleol yn cynnal ffyrdd y fro. Bu farw ym 1996 yn 90 oed. | |||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Beirdd]] | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:40, 30 Ebrill 2022
Magwyd y bardd Ellis Jones (29 Ebrill, 1906 - 20 Mai, 1996) yn fferm Gilwern Uchaf, rhwng Rhostryfan a’r Groeslon, ym mhlwyf Llandwrog. Roedd yn fab i Owen R. Jones a’i wraig Margaret Ann Jones, ac yn un o saith o blant, chwe bachgen ac un ferch.[1]
Roedd yn englynwr medrus a bu'n cystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ymunodd â Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1948.[2]
Gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Gobaith Gwan’ enillodd y gystadleuaeth ‘Englyn digri’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952, a feirniadwyd gan Waldo Williams[3].
- Gwlanen Goch
- Fy ewyrth sy’n rhy fywiog - yntau’n hen
- Eto’n ŵr cyfoethog;
- O wisgo’r wlanen enwog
- Ar oer hin - difarw yw’r rôg."
Roedd yn fardd a ddaliai egwyddorion cryf ac ymddiswyddodd o’r Orsedd pan dderbyniodd Cynan (Albert Evans Jones) ei urddo’n farchog ym 1969.
Cynhwyswyd a chyfieithwyd un o’i englynion ar gyfer y gyfrol Oxford Book of Welsh Verse.[4] Dyma’r englyn gwreiddiol[5].
- Bargoed
- Rhu’n ddi-daw tra bo’n glawio - seiniau mwyn,
- Fel sŵn mil yn godro:
- Pan geir rhew yn dew ar do,
- Daw hynod dethau dano."
Ymgartrefodd yn Llanllyfni a bu'n gweithio i gynghorau lleol yn cynnal ffyrdd y fro. Bu farw ym 1996 yn 90 oed.