Arthur Wyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Brodor o fro Llandwrog oedd '''Arthur Wyn Parry''' a fu farw fis Rhagfyr 2017. Yn adeiladwr ac yn ddarlithydd adeiladu yng Ngoleg Menai, bu'n arweinydd ar...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:48, 16 Ionawr 2018

Brodor o fro Llandwrog oedd Arthur Wyn Parry a fu farw fis Rhagfyr 2017. Yn adeiladwr ac yn ddarlithydd adeiladu yng Ngoleg Menai, bu'n arweinydd ar Gôr Meibion Dyffryn Nantlle am flynyddoedd wedi i C.H. Leonard roi heibio'r gwaith. Llwyddodd Arthur Wyn Parry i ennill a chyrraedd y llwyfan sawl tro dros y blynyddoedd yng nghystadleuaeth Canu Emyn dros 60 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei fab yw'r milfeddyg, y canwr ac enillydd y Rhuban Glas, Iwan Wyn Parry.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma